logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mae tywyll anial nos

Mae tywyll anial nos, Peryglon o bob rhyw, Holl ofnau’r bedd, pob meddwl gwan, Yn ffoi o’r fan bo ‘Nuw: Ond tegwch dwyfol clir, A chariad pur a hedd, Gaiff fod yn wleddoedd pur di-drai I’r rhai sy’n gweld ei wedd. Lle byddych Di, fy Nuw, Anfarwol fywyd sy, Yn tarddu, megis dŵr o’r graig, […]


Mae’n ddyrchafedig

Mae’n ddyrchafedig, Y Brenin goruchaf yw Ef, Fe’i haddolaf. Mae’n ddyrchafedig, Y Brenin tragwyddol, Fe’i molaf Ef byth mwy! Ef yw fy Nuw, Fe saif ei wirionedd mwy. Daear a nef Gydganant ei foliant Ef. Mae’n ddyrchafedig, Y Brenin goruchaf yw Ef! Twila Paris, He is exalted; cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones © Straightway Music/Word Music (UK) 1985 […]

  • MLC_Admin,
  • January 1, 1970

Mae’n hyder yn ei enw Ef

Mae’n hyder yn ei enw Ef, Ffynhonell iachawdwriaeth. Gorffwys sydd yn enw Crist, O ddechrau’r greadigaeth. Nid ofnwn byth y drwg a ddaw, Mae Un sydd yn ein caru; Ein noddfa ddiogel ydyw Ef: ‘Ein gobaith sydd yn Iesu.’ Ef yw ein hamddiffynfa, ni chawn ein hysgwyd; Ef yw ein hamddiffynfa, ni chawn ein hysgwyd. […]


Mae’r nefoedd faith uwchben

Mae’r nefoedd faith uwchben yn datgan mawredd Duw, mae’r haul a’r lloer a’r sêr i gyd yn dweud mai rhyfedd yw. Fe draetha dydd i ddydd a nos i nos o hyd ymhob rhyw faith, ymhob rhyw le, am Grëwr doeth y byd. Ond yn ei gyfraith lân fe’i dengys Duw ei hun yn Dduw […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 10, 2015

Mae’r orsedd fawr yn awr yn rhydd

Mae’r orsedd fawr yn awr yn rhydd, gwrandewir llais y gwan; wel cyfod bellach, f’enaid prudd, anadla tua’r lan. Wel anfon eirchion amal ri’ i mewn i byrth y nef; gwrandewir pob amddifad gri yn union ganddo ef. Myfi anturia’ nawr ymlaen heb alwad is y ne’ ond bod perffeithrwydd mawr y groes yn ateb […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 4, 2015

Marchoga’r Arglwydd mewn gogoniant

Marchoga’r Arglwydd mewn gogoniant, Rhyfeddol yw ei harddwch Ef, Cyfiawnder a gwirionedd sanctaidd, Myrddiynau sy’n ei ddilyn Ef. O diolchwch i Dduw am y cariad sy’n, O diolchwch i Dduw am y cariad sy’n, O diolchwch i Dduw am y cariad sy’n Dragwyddol, dragwyddol. Dacw ei fyddin yn mynd allan, Llawenydd sydd yn llenwi’r tir […]


Mawr dy ffyddlondeb

Mawr dy ffyddlondeb, fy Nuw, yn dy nefoedd, Triw dy addewid bob amser i mi; Cadarn dy Air, dy drugaredd ni fetha, Ddoe, heddiw’r un, a thragwyddol wyt ti. Mawr dy ffyddlondeb di, mawr dy ffyddlondeb di, Newydd fendithion bob bore a ddaw; Mawr dy ffyddlondeb i mi yn fy angen, Pob peth sydd dda, […]


Mawr yw ein Duw

Mawr yw ein Duw, mawr yw ein Duw, Mawr yw ein Duw, mawr yw ein Duw. Mawr yw ein Duw, mawr yw ein Duw, Mawr yw ein Duw, mawr yw ein Duw.   Fe greodd y gwynt, yr eira a’r haul, Y tonnau ar draethau, y blodau a’r dail. Fore a hwyrnos, gaeaf a haf; […]


Mawr yw yr Arglwydd a theilwng o fawl

Mawr yw yr Arglwydd A theilwng o fawl, Yn ninas y Duw byw, y Brenin yw; Llawenydd yr holl fyd. Mawr yw yr Arglwydd sy’n ein harwain ni i’r gad, O’r gelyn fe gawsom ni ryddhad; Ymgrymwn ger ei fron. Ac Arglwydd Dduw dyrchafwn d’enw di, Ac Arglwydd Dduw diolchwn Am y cariad sy’n ein […]

  • Gwenda Jenkins,
  • May 18, 2015

Mawrygwn di, O Dduw

Mawrygwn di, O Dduw, am bob celfyddyd gain, am harddwch ffurf a llun, am bob melyster sain: ti’r hwn sy’n puro ein dyheu, bendithia gamp y rhai sy’n creu. Mawrygwn di, O Dduw, am ein treftadaeth hen, am rin y bywyd gwâr ac am drysorau llên: ti’r hwn sy’n puro ein dyheu, bendithia gamp y […]

  • Gwenda Jenkins,
  • January 18, 2016