Arglwydd nef a daear, gariad hollalluog, rhyfedd dy ddoethineb a pherffaith yn dy waith; cerddaist ar y tonnau drwy y storm gynddeiriog, a bu tawelwch wedi’r ddrycin faith. Arglwydd, beth a dalwn am dy faith ffyddlondeb? Arwain ni â’th gyngor yn ffordd d’ewyllys fawr, dysg i’r holl genhedloedd heddwch a thiriondeb; eiddot y deyrnas, Frenin […]
Arglwydd teimlaf fi dy sancteiddrwydd di, Wrth addoli yma nawr. Estyn llaw wnaf fi I dy gyffwrdd di – Gad i’m brofi’th rym yn awr. Lân Ysbryd Duw tyrd i lawr, Lân Ysbryd Duw cymer fi nawr, A’m llenwi i â’th gariad di, O, lân Ysbryd Duw. (Ailadrodd) (I can almost see) Peter Jacobs/Hanneke Jacobs, Cyfieithiad […]
Arglwydd, tyrd, a llefara Di Wrth in’ geisio bara dy sanctaidd air. Planna’r gwir yn ein c’lonnau’n ddwfn, Trawsnewidia ni ar dy ddelw, Fel bod golau Crist yn llewyrchu’n glir Yn ein cariad ni, mewn gweithredoedd ffydd; Arglwydd tyrd, llwydda ynom ni Dy fwriadau Di, er D’ogoniant. Arglwydd, dysg beth yw ufudd-hau, Gostyngeiddrwydd gwir, a […]
Arglwydd y nefoedd a’r holl fyd, Gwaredwr a Phrynwr, Arglwydd byw. Anrhydedd, gogoniant, grym a nerth I’r Un ar orsedd nef. Sanctaidd, sanctaidd; Ef sy’n deilwng, Moliant fo i Fab ein Duw. Iesu’n unig sydd yn deilwng – Gwisg gyfiawnder pur a hedd. Moliant, moliant, haleliwia, Moliant fo i’r Un sy’n fyw. Hosanna, unwn â’r […]
Arglwydd, anfon o’r uchelder nerth yr Ysbryd ar dy was; gwisg ei fywyd â’th gyfiawnder, llanw’i galon ef â’th ras; dyro i lawr iddo nawr olud dy addewid fawr. Dyro iddo dy oleuni i gyflawni gwaith ei oes; arddel di ei genadwri i gael dynion at y groes; Frenin nef, rho dy lef ddwyfol yn […]
Arglwydd, arwain drwy’r anialwch fi, bererin gwael ei wedd, nad oes ynof nerth na bywyd, fel yn gorwedd yn y bedd: hollalluog ydyw’r Un a’m cwyd i’r lan. Colofn dân rho’r nos i’m harwain, a rho golofn niwl y dydd; dal fi pan fwy’n teithio’r mannau geirwon yn ffordd y sydd; rho im fanna fel […]
Arglwydd, bugail oesoedd daear, llwyd ddeffrowr boreau’n gwlad, disglair yw dy saint yn sefyll oddi amgylch ein tref-tad. Rhoist i ni ar weundir amser lewyrch yr anfeidrol awr, ailgyneuaist yn ein hysbryd hen gyfathrach nef a llawr. Arglwydd, pura eto’r galon, nertha’r breichiau aeth yn llwfr, trwy wythiennau cudd dy ddaear dyro hynt i’r bywiol […]
Arglwydd, clyw, O! maddau i ni. Nid oes parch i ti fel bu, Cyffeswn, cyffeswn. Pura ni, Mae’n c’lonnau mor llygredig. Ble mae’r ffydd fu gennym gynt? Hiraethwn, hiraethwn. Tyrd, Ysbryd Glân, Adnewydda Eglwys Crist. Chwyth Nefol Wynt, Rho ddiwygiad eto’i Gymru – Deffra ni drachefn, Deffra ni drachefn. Steve Fry (O Lord hear, O Lord […]
Arglwydd, dangos imi heddiw sut i gychwyn ar fy nhaith, sut i drefnu holl flynyddoedd fy nyfodol yn dy waith: tyn fi atat, tro fy ffyrdd i gyd yn fawl. Arglwydd, aros yn gydymaith ar fy llwybyr yn y byd, cadw fi rhag ofn i swynion Pethau dibwys fynd â’m bryd: tyn fi atat tro […]
Arglwydd, dof gerbron dy orsedd di; Profi’r hedd sy’n dy gwmni, a’th ras ataf fi. Addolaf, rhyfeddaf y caf weld dy wedd, Canaf, O! mor ffyddlon yw fy Nuw. O! mor ffyddlon yw fy Nuw, O! mor ffyddlon yw. O! mor ffyddlon yw fy Nuw, Ffyddlon bob amser yw. O! tosturia Arglwydd, clyw fy nghri; […]