logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Arglwydd, rwyt mor werthfawr i mi

Arglwydd, rwyt mor werthfawr i mi, Arglwydd, rwyt mor werthfawr i mi, Ac fe’th garaf, Ie, fe’th garaf, Am i ti ’ngharu i. Arglwydd, rwyt mor rasol dy ffyrdd, Arglwydd, rwyt mor rasol dy ffyrdd, Ac fe’th garaf, Ie, fe’th garaf, Am i ti ’ngharu i. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, (Lord, You are so precious […]


Arglwydd, rwyt mwy gwerthfawr

Arglwydd, rwyt mwy gwerthfawr nag arian, Arglwydd, rwyt mwy drudfawr nag aur, Arglwydd, rwyt yn harddach na gemau, ‘Does un peth yn y byd sy’n fwy na thi. Lord, you are more precious, Lynn DeShazo. Cyfieithiad awdurdodedig: Gwilym Ceiriog Evans © 1985 Integrity’s Hosanna! Music/Sovereign Music UK (Grym Mawl 1: 109)


Arglwydd, selia y cyfamod

Arglwydd, selia y cyfamod wna’r disgyblion ieuainc hyn; heddiw yn y cymun sanctaidd dangos aberth pen y bryn; rho ddeheulaw dy gymdeithas iddynt hwy. Cadw hwy rhag pob gwrthgiliad a rhag gwadu’r broffes dda; yn golofnau yn dy eglwys, cedyrn, prydferth, hwythau gwna; ysgrifenna d’enw newydd arnynt hwy. Diwyd fyddont yn dy winllan o dan […]

  • Gwenda Jenkins,
  • April 29, 2015

Arglwydd, ti yw Brenin Nef

Arglwydd ti yw Brenin Nef, Mae dy enw goruwch pob enw arall; Mewn disgleirdeb yn teyrnasu, Wedi llwyr orchfygu Pob rhyw elyn sydd drwy’r byd i gyd. A chanwn ni mai ti yw’n Prynwr, Dyrchafwn di, sanctaidd Waredwr. Canwn drachefn ogoniant i Iesu; Gerbron ei orsedd fe blygwn yma ‘nawr. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, We […]


Arhosaf ddydd a nos

Arhosaf ddydd a nos, Byth bellach dan dy Groes, I’th lon fwynhau; Mi wn mai’r taliad hyn, Wnaed ar Galfaria fryn, A’m canna oll yn wyn Oddi wrth fy mai. Yn nyfnder dŵr a thân, Calfaria fydd fy nghân, Calfaria mwy: Y bryn ordeiniodd Duw Yn nhragwyddoldeb yw, I godi’r marw’n fyw Trwy farwol glwy’. […]

  • Gwenda Jenkins,
  • June 23, 2015

Arnat, Iesu, boed fy meddwl

Arnat, Iesu, boed fy meddwl, am dy gariad boed fy nghân; dyged sŵn dy ddioddefiadau fy serchiadau oll yn Un: mae dy gariad uwch a glywodd neb erioed. O na chawn ddifyrru ‘nyddiau llwythog, dan dy ddwyfol groes, a phob meddwl wedi ei glymu wrth dy Berson ddydd a nos; byw bob munud mewn tangnefedd […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 5, 2015

Arnom gweina dwyfol Un

Arnom gweina dwyfol Un heb ei ofyn; mae ei ras fel ef ei hun yn ddiderfyn; blodau’r maes ac adar nef gedwir ganddo, ond ar ddyn mae’i gariad ef diolch iddo. Disgwyl y boreddydd wnawn mewn anghenion, ac fe dyr ag effa lawn o fendithion; gad ei fendith ar ei ôl wrth fynd heibio; Duw […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 12, 2015

At un sy’n gwrando gweddi’r gwan

At un sy’n gwrando gweddi’r gwan ‘rwyf yn dyrchafu ‘nghri; ymhob cyfyngder, ing a phoen, O Dduw, na wrthod fi. Er mor annheilwng o fywynhau dy bresenoldeb di, a haeddu ‘mwrw o ger dy fron, O Dduw, na wrthod fi. Pan fo ‘nghydnabod is y nen yn cefnu arna’ i’n rhi’, a châr a chyfaill […]


Atat, Arglwydd, trof fy wyneb,

Atat, Arglwydd, trof fy ŵyneb, Ti yw f’unig noddfa lawn, Pan fo cyfyngderau’n gwasgu – Cyfyngderau trymion iawn; Dal fi i fyny ‘ngrym y tonnau, ‘D oes ond dychryn ar bob llaw; Rho dy help, Dywysog bywyd, I gael glanio’r ochor draw. Ti gei ‘mywyd, Ti gei f’amser; Ti gei ‘noniau o bob rhyw; P’odd […]


Atgyfododd, atgyfododd

Atgyfododd, atgyfododd, Atgyfododd Iesu, mae yn fyw! Aeth o’i wirfodd i Galfaria, Lle tywalltodd rin ei waed; Drwy ei aberth bu’n fuddugol – Sathrodd Satan dan ei draed! Grym y bedd a’i llygredigaeth Fethodd afael ynddo ef; Cododd Crist! mae’n fyw byth bythoedd- Eistedd mae ar orsedd nef! Os y Crist ni atgyfododd, Nid oes […]