Dewch, hen ac ieuainc, dewch at Iesu, mae’n llawn bryd; rhyfedd amynedd Duw ddisgwyliodd wrthym cyd: aeth yn brynhawn, mae yn hwyrhau; mae drws trugaredd heb ei gau. Dewch, hen wrthgilwyr trist, at Iesu Grist yn ôl; mae’i freichiau nawr ar led, fe’ch derbyn yn ei gôl: mae Duw yn rhoddi eto’n hael drugaredd i […]
Dewch, mae’n amser medi, Chwi sy’n ceisio’r Deyrnas, Rhowch eich bywyd iddo Ac fe’i cewch yn ôl. Dewch i rannu’r c’nhaeaf – Rhaid goleuo’r t’wyllwch. Galw y mae’r Arglwydd Ffyddlon wŷr. Twila Paris (Come and join the reapers), cyfieithiad awdurdodedig: Catrin Alun © Word Music (UK) Gwein. gan CopyCare (Grym Mawl 1: 21)
Diderfyn yw trugareddau yr Arglwydd, Ni phalla ei dosturiaethau Ef; Maent yn newydd bob bore, Newydd bob bore, Mawr dy ffyddlondeb wyt, o Dduw, Mawr dy ffyddlondeb wyt. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, The steadfast love of the Lord: Edith McNeil © 1974 Celebration/ Gwein. gan Kingsway Music tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd (Grym mawl 1: 157)
Dilynaf fy Mugail drwy f’oes, er amarch a gw’radwydd y byd; a dygaf ei ddirmyg a’i groes, gan dynnu i’r nefoedd o hyd; mi rodiaf, drwy gymorth ei ras, y llwybyr a gerddodd efe; nid rhyfedd os gwawdir y gwas, cans gwawd gafodd Arglwydd y ne’. Nid oes arnaf g’wilydd o’i groes – ei groes […]
Pwy o Arglwydd allai byth Achub nhw eu hun? Ein c’wilydd oedd fel dyfnder môr, Dy ras oedd ddyfnach fyth. A dim ond ti all achub, Ti yw’r unig un; Dim ond ti all’n codi ni o’r bedd. Daethost lawr i’n harwain o’r tywyllwch du. A dim ond ti sy’n haeddu’r clod i gyd. Do, […]
Dim ond trwy ras cawn fynediad, Dim ond trwy ras ‘down o’th flaen; Nid am in haeddu dy gariad, Deuwn drwy waed pur yr Oen. Ti sy’n ein tywys ni atat, Cawn ddod ger dy fron; Ti sy’n ein galw i’th gwmni, A down trwy dy ras yn llon, Down trwy dy ras yn llon. […]
Dinas sydd yn disgleirio Gyda harddwch Oen ein Duw. Mae ‘na ffordd, cawn fynd yno, Ein tragwyddol gartref yw. O’th blegid di, o’th blegid di, Fe’n ceraist yn rhad, Fe roddaist dy waed. Ni fydd poen, ni fydd gofid, Ni fydd wylo, ni fydd clwy. Derfydd drwg, derfydd dioddef, A marwolaeth ni bydd mwy. O’th […]
Dinas sydd yn disgleirio Gyda harddwch Oen ein Duw. Mae ‘na ffordd, cawn fynd yno, Ein tragwyddol gartref yw. O’th blegid di, o’th blegid di, Fe’n ceraist yn rhad, Fe roddaist dy waed. Ni fydd poen, ni fydd gofid, Ni fydd wylo, ni fydd clwy. Derfydd drwg, derfydd dioddef, A marwolaeth ni bydd mwy. O’th […]
Diolch am emyn Am eiriau wedi’u plethu’n dynn Mewn emyn, rhoddwn foliant. Am ddawn y bardd, a chrefftwaith hwn, Fe ganwn er d’ogoniant. Diolchwn am emynau lu Fu’n canu am dy gariad; Trwy ddethol gair, yn gelfydd iawn, Cyd-rannu gawn ein profiad. Ac mewn priodas gair a chân, Cawn hafan o’n pryderon. Fe gawn mewn […]
Diolch am Y Groes, Y pris a dalaist ti. Rhoddaist ti dy hun, Rhoi y cyfan, Werthfawr Iôr, (werthfawr Iôr). Ein pechodau ni A faddeuwyd, Cuddiwyd gan dy waed, fe’u hanghofiwyd, Diolch Iôr, (diolch Iôr). O, fe’th garaf di, Arglwydd caraf di, Alla’i fyth a deall Pam y ceri fi. Ti yw ‘nghyfan oll, Llanw […]