Mae hon yn hen emyn – ond mae cerddoriaeth gyfoes wedi cael ei chyfansoddi ar ei chyfer – dilynwch y ddolen youtube ar waelod y dudalen. Pennill 1 Un dydd gyda’r nefoedd yn orlawn o’i foliant, Un diwrnod â phechod yn ddu fel y fall, Iesu ddaeth atom, fe’i anwyd o forwyn, I fyw yn […]
Goleuni y Byd A greodd y wawr, A’r sêr sydd mewn oriel O’i wyrthiol waith mawr. Pob planed sy’n troi, drwy’i Air maent yn bod, I ddangos ei fawredd a chanu ei glod. Dewch, dewch bobl y byd Gwelwch oleuni ein Duw, Clod, clod, rhowch iddo Ef Credwch yn wir, credwch drwy ffydd Yn ei […]
Gorffennwyd! Y Meseia roes Ei fywyd dros bechodau’r byd; Mae rhyddid cyflawn drwy ei waed – Cyflawnwyd diben aberth drud. Gorffennwyd! Talwyd dyled lawn Brynhawn drwy aberth Calfari. Gwnaed perffaith Iawn drwy waed yr Oen, Bu farw Iesu drosom ni. Fe rwygwyd llen y deml fu, Agorwyd ffordd i’r nefoedd fry; Trwy Grist fe chwalwyd […]
[Philipiaid 2, Alaw: Y Gwŷdd] Yr oedd Crist Iesu’n Harglwydd ar ffurf Duw, ar ffurf Duw, Heb geisio gwneud ei hun yn gydradd â Duw, gydradd â Duw. Gwacâodd Ef ei hun, Gan ddyfod ar ffurf dyn, Fel caethwas oedd ei lun, er fod Ef yn Dduw, fod Ef yn Dduw. A phan oedd ar […]
Grist Gorchfygwr, byth deyrnasi, Ceidwad, Brenin Glân, Iôr y nef, Ti a’n cynheli, Gwrando ar ein cân: Rhown y goron ar dy ben, Yn fawr dy glod, yn fythol fyw. Gair mewn cnawd, y gwir ddatguddi, Mab y Dyn, ein brawd; Nerth a mawredd Ti a’u cuddi Trwy dy eni tlawd. Gwas dioddefus wyt a […]
Gwir fab Duw, dyma ein cân o fawl. Iesu, ein Duw, canwn i ti. Tyred, Ysbryd ein Duw, Rho fywyd yn y geiriau hyn. Mae angylion y nef Yn canu ein cân o fawl. Fe’th folwn, fe’th folwn, Fe’th folwn, addolwn di. Fe’th folwn, addolwn di. Gwir Fab Duw, dyma ein cân serch. Iesu, ein […]
Gwn pa le mae’r cyfoeth gorau, gwn pa le mae’r trysor mawr; profais flas y bywyd newydd, O fendigaid, fwynaf awr: grym y cariad a’m henillodd innau’n llwyr. Gwn pwy yw yr hwn a’m carodd, gwn pwy yw y rhoddwr rhad, gwynfydedig Fab y nefoedd ar wael lwch yn rhoi mawrhad; O ryfeddod: nerth ein […]
Gwnes di arllwys dy gariad ynof fi, Gwnes di arllwys dy gariad ynof fi, Trwyddot ti cefais ffordd trwy ffydd I ddod i’r gras dwi’n sefyll ynddo, Do, cefais ffordd trwy ffydd i ddod I’r gras dwi’n sefyll ynddo. Cytgan: Iesu, Iesu, cwbwl ydyw gwaith dy law. Iesu, Iesu, cwbwl ydyw gwaith dy law. Pen […]
(Iesu ei hun yn ddigon) Gwyn a gwridog yw fy Arglwydd, Gwyn a gwridog yw ei wedd; Brenin y brenhinoedd ydyw Yma a thu draw i’r bedd; Mae dy degwch Wedi’m hennill ar dy ôl. Can’ ffarwél i bopeth arall, ‘Rwyt Ti’n ddigon mawr dy hun, Derfydd nefoedd, derfydd daear, Derfydd tegwch wyneb dyn: ‘R […]
Gwyn a gwridog, hawddgar iawn, yw f’Anwylyd; doniau’r nef sydd ynddo’n llawn, peraidd, hyfryd: daear faith nac uchder nef byth ni ffeindia arall tebyg iddo ef Halelwia! Ynddo’i hunan y mae’n llawn bob trysorau: dwyfol, berffaith, werthfawr Iawn am fy meiau; gwir ddoethineb, hedd a gras gwerthfawroca’, nerth i hollol gario’r maes: Halelwia! Dyma sylfaen […]