Beth yw’r cwmwl gwyn sy’n esgyn o’r Olewydd tua’r nef? Cerbyd Brenin y gogoniant sydd yn ymdaith tua thref; ymddyrchefwch, sanctaidd byrth y ddinas wen. Beth yw’r disgwyl sy ‘Nghaersalem? Beth yw’r nerthol sŵn o’r nef? Atsain croeso’r saith ugeinmil i’w ddyrchafael rhyfedd ef. Diolch iddo, y mae’r Pentecost gerllaw. At y lliaws yng Nghaersalem, […]
Beth yw mesur glas y nen? Beth yw maint y sêr uwchben? Dweud mae’r bydoedd yn dy glyw, blentyn bach, mor fawr yw Duw. Beth yw iaith y blodau fyrdd wena yn y meysydd gwyrdd? Dweud mae’r blodau teg eu lliw, blentyn bach, mor hardd yw Duw. Beth yw iaith y meysydd ŷd, coed yr […]
Boed fy mywyd oll yn ddiolch dim ond diolch yw fy lle; ni wna gwaredigaeth ragor i greadur is y ne’: gallu’r nefoedd oedd a’m daliodd i i’r lan. Ar y dibyn bûm yn chwarae; pe syrthiasai f’enaid gwan nid oedd bosibl imi godi byth o’r dyfnder hwnnw i’r lan: Iesu, Iesu ti sy’n trefnu […]
Boed fy nghalon iti’n demel, boed fy ysbryd iti’n nyth, ac o fewn y drigfan yma aros, Iesu, aros byth: gwledd wastadol fydd dy bresenoldeb im. Awr o’th bur gymdeithas felys, awr o weld dy ŵyneb-pryd sy’n rhagori fil o weithiau ar bleserau gwag y byd: mi ro’r cwbwl am gwmpeini pur fy Nuw. Datrys, datrys fy […]
Bendigedig wyt, pan mae’r tir yn cynhyrchu’i ffrwyth, A’th ddigonedd yn llifo’n rhwydd; Bendigedig wyt. Bendigedig wyt, pan mae’r byd fel diffeithwch im, Ac rwy’n crwydro’r anialwch crin; Bendigedig wyt. Cytgan Wrth i’t arllwys dy fendithion, Canaf dy glod. Wrth i’r t’wyllwch gau amdanaf, Dewisaf ddweud: Bendigedig wyt f’Arglwydd Dduw, Bendigedig wyt. Bendigedig wyt f’Arglwydd […]
Boed i’th ddyfroedd bywiol lifo dros f’enaid i; Boed i’th Ysbryd Glân di fy meddiannu i. Arwain fi drwy bob sefylla anodd ddaw; Fy ngofidion i, a’m beichiau, rof yn dy law. Iesu, Iesu, Iesu, Fy Nhad, fy Nhad, fy Nhad, Ysbryd, Ysbryd, Ysbryd. Cymer fi o Ysbryd Glân a thyred i lawr; Dal fi […]
Boed i bersawr yr Iesu lenwi’r tŷ. (dynion) Boed i bersawr yr Iesu lenwi’r tŷ. (merched) Boed i bersawr yr Iesu lenwi’r tŷ. (dynion) Hyfryd bersawr yr Iesu. (merched) Persawr gwyd o’i aberth drud, (pawb) A ninnau’n rhoi iddo ein bywyd. Boed goleuni yr Iesu yn ein plith. (dynion) Boed goleuni yr Iesu yn ein […]
Bloeddiwn fawl a chanu clodydd Brenin nef, Boed i’r Haleliwia atseinio iddo Ef. Dowch gerbron ei orsedd i’w addoli nawr, Dewch yn llawen gerbron ein Duw a’n Ceidwad mawr. Ti yw fy Nghreawdwr, ti yw fy Ngwaredwr, Arglwydd ti yw ’Mhrynwr, ti yw ’Nuw, Ti yw yr Iachäwr. Ti yw’r ffynnon fywiol, Ti yw’r Bugail […]
Brenin y brenhinoedd yw, Teyrnasu’n gyfiawn mae ein Duw. Brenin y brenhinoedd yw, Ei Air sy’n cynnal popeth byw. Nerthol a grymus yw Duw’r gogoniant! Arglwydd yw Ef dros ddaer a nef! Arglwydd popeth byw, Dyrchafedig yw. John Sellers: You are crowned with many crowns, Cyfieithiad Awdurdodedig: Meri Davies Hawlfraint © 1984 Integrity’s Hosanna! Music/Sovereign […]
Breuddwydion oes Ymgasgla nawr; Gweledigaeth ddaw I’r sanctaidd fan. Sanctaidd fan, rwy’n sefyll ar Sanctaidd fan, A’m cydymaith i yw Ceidwad byd. Llysg eirias dân Heb ddiffodd byth; Rwy’n sefyll nawr Mewn Sanctiadd fan. Datguddiwyd Duw I feidrol ddyn; Dinoetha’th draed Dyma Sanctaidd fan. Cyfieithiad Awdurdodedig: Natalie Drury, This is the place (Holy Ground): […]