Fe welwn orsedd fry Uwch pob un gorsedd sy’, Lle daw un dydd y ffyddlon rai O bob un gwlad; Gerbron y Mab cawn ddod, Heb fai trwy waed yr Oen; Drwy ffydd daw’r gras addawodd Ef I ni’n iachád. Clywch leisiau’r nef ar gân; Eu hanthem seinia’n lân; Drwy’r llysoedd fry ar nefol dôn […]
F’enaid, cod, bendithia dy Greawdwr, Ef yw d’Arglwydd, Ef dy gyfaill triw; Araf i ddig, cyfoethog mewn trugaredd Mola dy Geidwad, Iesu. Brenin gras, a’i gariad anorchfygol Bara Byw, caf bopeth ynddo Fe; Cans ei waed a’m prynodd i’n dragywydd, Prynodd ar groes fy Iesu. A chanaf i tra byddaf byw Am ddyfod cariad nef […]
F’enaid mola Dduw! Dyrchafa’i enw Ef. F’enaid mola Dduw! Rhydd fywyd it o’r nef. (Grym Mawl 2: 11) Hawlfraint © Ateliers et Presses de Taize
Fel aur sy’n werthfawr, a melysder diliau mêl, Gwn dy fod yn caru’r ddinas hon – O! gwêl Yr holl blant sy’n chwarae ar ei strydoedd hi, A phob baban bach sy’n llefain yn ei grud. Pawb sy’n drysu neu’n syrffedu yn ei waith, Neu sy’n diodde rhwystredigaeth araf daith. Rwy’n teimlo gwefr wrth feddwl, […]
Fy holl ffyrdd, ein holl bryd, Roedd ôl llaw Duw i’w weld yn hyn i gyd, Ond mynnom guddio Delw’r Duw a greodd lun ein byd: O! dychwel Dduw i’n ffordd o fyw. Trwy Dduw, trwy Dduw, Daw’r hen yn newydd trwy Dduw; Bu farw fy Iôr ar groes, Fe’m cymodwyd i: Daw’r hen yn […]
Fe chwythodd yr awel ar Gymru drachefn, clodforwn di, Arglwydd, fod gwyrth yn dy drefn: dihunaist ni’r meirwon, a’n codi drwy ffydd, a throi ein hwynebau at degwch y dydd. Molwn di, molwn di’n un teulu ynghyd, molwn di, molwn di, a’n cân dros y byd; cydweithiwn, cydgerddwn, cydfolwn gan fyw i roi iti’r cyfan, […]
Fe’m derbyniwyd, maddeuwyd i mi, Fe’m cofleidiwyd gan y gwir a’r bywiol Dduw. Fe’m derbyniwyd, heb gondemniad, Do fe’m carwyd gan y gwir a’r bywiol Dduw. Nid oes ofn na braw wrth im nesáu At Iachawdwr a Chrëwr y byd; Gyda llawen hedd fe godaf lef I’th foli fy Arglwydd Dduw. Cyfieithiad Awdurdodedig: Meri Davies […]
Fe’th addolaf (Fe’th addolaf) Â’m calon ar dân. (â’m calon ar dân.) Gwnaf, fe’th folaf (Gwnaf, fe’th folaf) Â’m nerth i gyd. (nerth i gyd.) Ac fe’th geisiaf (Ac fe’th geisiaf) Bob cam o’r ffordd. (bob cam o’r ffordd.) Fe’th ddilynaf (Fe’th ddilynaf) Heb droi yn ôl (heb droi ‘nôl) Dof o’th flaen di i’th […]
Fe’th ddilynaf di at y groes A phlygu i lawr, plygu i lawr. Fe’th ddilynaf di at y groes, A phlygu i lawr, plygu i lawr. Gwisg fi â’th gyfiawnder di, Golch fi yn lân o’m haflendid. Rwy’n dewis dilyn ôl dy droed. O! pura fi’n llwyr, pura fi’n llwyr. Rho dy gusan i’m hiacháu, […]
Fy mwriad i yw dy ddilyn di Drwy gydol fy mywyd. Fy mwriad i yw dy ddilyn di Tra byddaf fi byw. Rhoddaf fy hun yn llwyr I bwrpas sydd o fudd tragwyddol. Dy ddilyn di yw fy oll, dy ddilyn di. Gweithiaf i ti ag arian ac aur Drwy gydol mywyd Gweithiaf i ti […]