Fe godaf Haleliwia yng ngŵydd fy holl elynion i, Fe godaf Haleliwia yn uwch na’m anghrediniaeth i, Fe godaf Haleliwia, caneuon yw fy arfau i, Fe godaf Haleliwia, a’r nef yn brwydro drosta i. Cytgan Fe ganaf i yng nghanol y storm, Yn uwch ac yn uwch, fe rhua fy mawl, Gobaith a ddaw, o’r […]
O’r dyfnder galwaf arnat ti, O fannau tywyll daw fy llais; O tro dy glust tuag ataf nawr Ac o’th drugaredd gwranda, Iôr. Pe baet yn cyfri ’mhechod i Sut fedrwn ddod at d’orsedd nawr? Ond mae maddeuant llawn o’m mlaen, Rhyfeddaf at d’achubol ras. Fe ddisgwyliaf i, fe ddisgwyliaf i, Ar dy air rwy’n […]
Fy Iesu yw fy Nuw, Fy noddfa gadarn gref; Ni fedd fy enaid gwan, Ddim arall dan y nef; Mae Ef ei Hun a’i angau drud, Yn fwy na’r nef, yn fwy na’r byd. Fy nymuniadau i gyd Sy’n cael atebiad llawn, A’m holl serchiadau ‘nghyd Hyfrydwch nefol iawn, Pan fyddwy’n gweld wrth olau’r wawr, […]
Fy Iesu yw fy Nuw, Fy Mrawd a’m Prynwr yw, Ffyddlonaf gwir; Arwain fy enaid wnaeth O’r gwledydd tywyll caeth, I wlad o fêl a llaeth, Paradwys bur. Efe a aeth o’m blaen, Trwy ddyfnder dŵr a thân, I’r hyfryd wlad; Mae’n eiriol yno’n awr O flaen yr orsedd fawr, Yn maddau bach a mawr […]
Fy nymuniad, paid â gorffwys Ar un tegan is y nef; Eto ‘rioed ni welodd llygad Wrthrych tebyg iddo Ef: Cerdda rhagot, ‘Rwyt ti bron a’i wir fwynhau. Ffárwel, ffárwel oll a welaf, Oll sydd ar y ddae’r yn byw; Gedwch imi, ond munudyn, Gael yn rhywle gwrdd â’m Duw: Dyna leinw ‘Nymuniadau oll yn […]
Fy Nuw, uwchlaw fy neall Yw gwaith dy ddwylo i gyd; Rhyfeddod annherfynol Sy ynddynt oll ynghyd: Wrth weled dy ddoethineb, Dy allu mawr, a’th fri, Mi greda’ am iechydwriaeth Yn hollol ynot ti. Fy enaid, gwêl fath noddfa Ddiysgog gadarn yw, Ym mhob rhyw gyfyngderau, Tragwyddol ras fy Nuw: Ac yma boed fy nhrigfan, […]
Fe rodiai Iesu un prynhawn yng Ngalilea mewn rhyw dref, a’r mamau’n llu a ddug eu plant yn eiddgar ato ef. Ac yn ei freichiau cymerth hwy a’i fendith roddodd i bob un; “Gadewch i’r plant,” medd ef yn fwyn, “ddod ataf fi fy hun.” “Ac na waherddwch iddynt byth, cans teyrnas nef sydd eiddynt […]
Cerddwn Ymlaen Fe ddaeth ddoe â’i siâr o ofid a daeth pryder yn ei dro, gwelwyd hefyd haul yn gwenu a llawenydd yn ein bro: ond drwy’r lleddf a’r llon fe welwyd llaw yr Iôr yn llywio’n bywyd i’r yfory sy’n obaith gwiw. Mae’r yfory heb ei brofi, mae ei stôr o hyd dan sêl; […]
Fy enaid, gogonedda yr Arglwydd sy’n y nef, â’th ddoniau oll bendithia ei enw sanctaidd ef; mae’n llwyr ddileu dy gamwedd, mae’n abal i’th iacháu, dy wared o’th anwiredd mae’r Duw sy’n trugarhau. Yn eiddot mae bendithion di-drai yr uchel Iôr, tangnefedd fel yr afon, cyfiawnder fel y môr: daw rhiniol nerth y nefoedd i […]
F’enaid, gwêl i ben Calfaria, Draw’r rhyfeddod mwya’ ‘rioed; Crëwr nefoedd wen yn marw, Trenga’r ddraig o dan ei droed; Clywaf lais yn awr, debygwn, Egyr byrth y nefoedd fry; F’enaid, cân, fe ddarfu ofnau, Prynwyd nefoedd wen i mi. Tyrd i fyny o’r anialwch, Wedi aros yno’n hir, Sypiau grawnwin mawrion aeddfed, Sy’n dy […]