O dewch i’r dyfroedd, dyma’r dydd, yr Arglwydd sydd yn galw; tragwyddol ras yr Arglwydd Iôr sydd fel y môr yn llanw. Heb werth nac arian, dewch yn awr, mae golud mawr trugaredd â’i ŵyneb ar yr euog rai – maddeuant a’i ymgeledd. O dewch a phrynwch win a llaeth, wel dyma luniaeth nefol; prynwch […]
O am dreiddio i’r adnabyddiaeth o’r unig wir a bywiol Dduw i’r fath raddau a fo’n lladdfa i ddychmygion o bob rhyw; credu’r gair sy’n dweud amdano a’i natur ynddo amlwg yw, yn farwolaeth i bechadur heb gael Iawn o drefniad Duw. Yn yr adnabyddiaeth yma mae uchel drem yn dod i lawr, dyn yn […]
O am gael ffydd i edrych gyda’r angylion fry i drefn yr iachawdwriaeth, dirgelwch ynddi sy: dwy natur mewn un person yn anwahanol mwy, mewn purdeb heb gymysgu yn eu perffeithrwydd hwy. O f’enaid, gwêl addasrwydd y person dwyfol hwn, dy fywyd mentra arno a bwrw arno’th bwn; mae’n ddyn i gydymdeimlo â’th holl wendidau […]
O’th flaen, O Dduw, ‘rwy’n dyfod gan sefyll o hir-bell; pechadur yw fy enw, ni feddaf enw gwell; trugaredd ‘rwy’n ei cheisio, a’i cheisio eto wnaf, trugaredd imi dyro, ‘rwy’n marw onis caf. Pechadur wyf, mi welaf, O Dduw, na allaf ddim; ‘rwy’n dlawd, ‘rwy’n frwnt, ‘rwy’n euog, O bydd drugarog im; ‘rwy’n addef nad […]
Os gofyn rhywun beth yw Duw, atebwn ni mai cariad yw: fe fflamiodd cariad Tri yn Un yn rhyfedd at annheilwng ddyn. Nid dim rhinweddau ynom ni na dim a wnaed ar Galfarî fu’n achos iddo garu dyn, fe’i carodd er ei fwyn ei hun. Fe’n carodd, ac fe’n câr o hyd, ymhob rhyw drallod […]
O Arglwydd Dduw rhagluniaeth ac iachawdwriaeth dyn, tydi sy’n llywodraethu y byd a’r nef dy hun; yn wyneb pob caledi y sydd neu eto ddaw, dod gadarn gymorth imi i lechu yn dy law. Er cryfed ydyw’r gwyntoedd a chedyrn donnau’r môr, doethineb ydyw’r Llywydd, a’i enw’n gadarn Iôr: er gwaethaf dilyw pechod a llygredd […]
O rhoddwn fawl i’n Harglwydd Dduw, ffynnon tragwyddol gariad yw: ei drugareddau mawrion ef a bery byth fel dyddiau’r nef. O mor rhyfeddol yw ei waith dros holl derfynau’r ddaear faith; pwy byth all draethu’n llawn ei glod, anfeidrol, annherfynol Fod? Dy heddwch gad i mi fwynhau, heddwch dy etholedig rai; a phan y’u rhoddi […]
O Arglwydd Dduw, y Brenin mawr, dy fendith dyro inni nawr: rho inni’r fraint ar hyn o bryd yn d’Ysbryd i’th addoli ‘nghyd. Yn ôl d’addewid, Iesu cu, i fod lle byddo dau neu dri, bydd yn ein mysg ar hyn o bryd, tra bo dy bobol yma ‘nghyd. ‘Rwyt ti, O Dduw, ymhob rhyw […]
O Arglwydd grasol, trugarha a symud bla y gwledydd, darostwng falchder calon dyn a nwydau’r blin orthrymydd; a dysg genhedloedd byd o’r bron i rodio’n isel ger dy fron, Iôr union, bydd arweinydd. Mae’r nos yn ddu, a ninnau ‘mhell, a throm yw’r fflangell arnom; crwydrasom i’r anialwch maith a’th gyfraith wrthodasom; O Arglwydd, maddau […]
O Arglwydd Iôr, boed clod i ti am gofio eto’n daear ni â’th fendith hael ei dawn: diodaist hi ag afon Duw, fe’i gwisgaist â phrydferthwch byw, gan lwyr aeddfedu’r grawn. Tydi yw Tad y gwlith a’r glaw, a’r haul sy’n gwasgar ar bob llaw hyfrydwch dros y wlad: sisiala’r awel d’enw di, a’i seinio […]