Trwyddot ti, y mae popeth wedi’i greu Er dy fwyn, yr wyf finnau’n byw bob dydd Ynddot ti, saif popeth yn ddi-wahân, Trwyddot ti, er dy fwyn, ynddot ti. Ynddot ti, y mae holl drysorau bywyd, Ynddot ti, mae gwybodaeth sy’n guddiedig, Ynddot ti, y mae gobaith ein gogoniant: Crist ynom ni, gwnest ni’n Sanctaidd […]
Ti’n rhoi i mi statws a gwerth, Ti’n rhoi i mi awdurdod a nerth, Ti’n dangos pwy ydw i – Rydw i’n blentyn i Ti. Ti’n rhoi i mi dy gyfiawnder mwyn, Ti’n rhoi i mi dy fywyd yn llwyr, Ti’n eiddo i mi fy hun, Rydw i’n eiddo i Ti. Dwi’n plygu glin i’th […]
[Hebreaid 4:14-16, Alaw: Deio Bach] Pan mae pobl yn dy wrthod Cofia Iesu ar y groes Pan mae eraill yn dy wawdio Cofia iddo ddioddef loes. Cariodd Ef ein holl fethiannau, Teimlodd Ef y poen i gyd; Archoffeiriad ydyw’r Iesu Gyd-ddioddefa â’n gwendid ni. Pan mae bywyd yn dy brofi Dal dy afael yn dy […]
Tu hwnt i’r Groes y mae fy nghoron, Er cwpan gwawd un bychan yw, Ond cwpan Iesu i’r ymylon, Fu’n gwpan llid digofaint Duw. Tu hwnt i’r Groes y mae fy nghoron, O gwrando Iesu ar fy nghri, Er nad oes gennyf ddim i’w gynnig, Fy Arglwydd Iesu, – cofia fi. Tu hwnt i’r Groes […]
Clywaf lais yr Iesu’n dweud, Rho d’ysgwydd dan fy iau; Blentyn gwan, tro ataf i, Rhof i ti, fy nghras di-drai. Cytgan Talodd Iesu’n llawn, Nawr rwy’n rhydd yn wir; Golchodd staen fy mhechod cas Yn wyn fel eira pur. Gwn yn iawn mai ti yw’r un All symud smotiau du Y llewpard; dim ond […]
Mae’n ddirgelwch mawr i mi Y gallai dwylo’r Arglwydd fod mor fach. Y bysedd bychan yn ymestyn yn y nos, Dwylo a osododd holl derfynau’r nef. Cytgan Haleliwia, Haleliwia, Cariad Nef Ddaeth i lawr i’n hachub ni. Haleliwia, Haleliwia, Mab ein Duw, Brenin tlawd gyda ni. Ti gyda ni. Mae’n ddirgelwch mawr i mi Iddo […]
Ti, Iesu, ydwyt, oll Dy Hun Fy meddiant ar y llawr; A Thi dy Hunan fydd fy oll O fewn i’r nefoedd fawr. Mae ‘nymuniadau maith eu hyd Yn pwyntio oll yn un, Dros bob gwrthrychau is y sêr, Ac atat Ti dy Hun. O! ffynnon trugareddau maith! Diderfyn yw dy ras, I roi trysorau […]
Tyred, Arglwydd, tyrd yn fuan, Dim ni’m boddia dan y ne’, Dim ond ti a ddeil fy ysbryd Gwan, lluddedig, yn ei le; Neb ond Ti a gyfyd f’enaid Llesg o’r pydew du i’r lan; Os Tydi sy’n gwneud im ochain, Ti’m gwnei’n llawen yn y man. Hwyl fy enaid sy wrth d’ewyllys, Fel y […]
Tydi, fy Arglwydd, yw fy rhan, A doed y drygau ddêl; Ac er bygythion uffern fawr, Dy gariad sy dan sêl. Oddi wrthyt rhed, fel afon faith, Fy nghysur yn ddi-drai; O hwyr i fore, fyth yn gylch, Dy gariad sy’n parhau. Uwch pob rhyw gariad is y nef Yw cariad pur fy Nuw; Anfeidrol […]
Fel y lefain yn y blawd Wedi ei guddio a’i dylino Eto’n tyfu yn y dirgel Nes caiff y cwbl ei lefeinio; Tebyg i hyn mae teyrnas Dduw, Tebyg i hyn mae teyrnas Dduw. Deled dy deyrnas Gwneler d’ewyllys Yma ar y ddaear Fel yn y nefoedd Fel yr hedyn lleiaf un Wedi ei guddio’n […]