Fy Nhad o’r nef, O gwrando ‘nghri: un o’th eiddilaf blant wyf fi; O clyw fy llef a thrugarha, a dod i mi dy bethau da. Nid ceisio ‘rwyf anrhydedd byd, nid gofyn wnaf am gyfoeth drud; O llwydda f’enaid trugarha, a dod i mi dy bethau da. Fe all mai’r storom fawr ei grym […]
Nef yw i’m henaid ymhob man pan brofwyf Iesu mawr yn rhan; ei weled ef â golwg ffydd dry’r dywyll nos yn olau ddydd. Mwynhad o’i ras maddeuol mawr, blaen-brawf o’r nef yw yma nawr; a darllen f’enw ar ei fron sy’n nefoedd ar y ddaear hon. Ac er na welaf ond o ran ac […]
O Iesu mawr, rho d’anian bur i eiddil gwan mewn anial dir, i’w nerthu drwy’r holl rwystrau sy ar ddyrys daith i’r Ganaan fry. Pob gras sydd yn yr Eglwys fawr, fry yn y nef neu ar y llawr, caf feddu’r oll, eu meddu’n un, wrth feddu d’anian di dy hun. Mi lyna’n dawel wrth […]
Ar yrfa bywyd yn y byd a’i throeon enbyd hi o ddydd i ddydd addawodd ef oleuni’r nef i ni. Fy enaid dring o riw i riw heb ofni braw na haint yn ôl dy ddydd y bydd dy nerth ar lwybrau serth y saint. Y bywyd uchel wêl ei waith ar hyd ei daith […]
Dod ar fy mhen dy sanctaidd law, O dyner Fab y Dyn; mae gennyt fendith i rai bach fel yn dy oes dy hun. Wrth feddwl am dy gariad gynt o Fethlehem i’r groes mi garwn innau fod yn dda a byw er mwyn oes. Gwna fi yn addfwyn fel tydi wrth bawb o’r isel […]
Os Iesu Grist yn dlawd a ddaeth heb le i roi’i ben i lawr, ai gormod yw i’r fynwes hon roi cartref iddo nawr? Os gwawdiwyd enw Iesu gynt gan ei elynion cas, ai gormod i’w gyfeillion hoff yw canmol gwaith ei ras? Os dygodd Iesu addfwyn faich euogrwydd mawr ein bai, ai gormod yw […]
Dywedwyd ganwaith na chawn fyw gan anghrediniaeth hy, ond ymddiriedaf yn fy Nuw: mae’r afael sicraf fry. Cyfamod Duw a’i arfaeth gref yn gadarn sydd o’m tu anghyfnewidiol ydyw ef: mae’r afael sicraf fry. Er beiau mawrion rif y dail a grym euogrwydd du Iawn ac eiriolaeth Crist yw’r sail: mae’r afael sicraf fry. Rhagluniaeth […]
Rho imi galon lân O Dad, i foli d’enw di calon yn teimlo rhin y gwaed dywalltwyd drosof fi. Calon fo wedi’i meddu’n glau gan Iesu iddo’i hun calon fo’n demel i barhau i’r bythol Dri yn Un. Calon ar ddelw’r hwn a’i gwnaeth yn llawn o’i gariad ef yr hon yn Nuw all lawenhau […]
Fy ngorchwyl yn y byd yw gogoneddu Duw a gwylio dros fy enaid drud yn ddiwyd tra bwyf byw. Fe’m galwyd gan fy Nuw i wasanaethu f’oes; boed im ymroi i’r gwaith, a byw i’r Gŵr fu ar y groes. Rho nerth, O Dduw, bob dydd i rodio ger dy fron, i ddyfal ddilyn llwybrau’r […]
Â’n hyder yn yr Iesu mawr fe gofiwn am y sanctaidd awr pan roes ei fywyd drud i lawr, hyd nes y daw. Yng nghof yr Eglwys ymhob man mae’r corff a ddrylliwyd ar ein rhan a’r bara bortha’n henaid gwan hyd nes y daw. Am ffrydiau yr anhraethol loes dywalltwyd drosom ar y groes […]