O llanwa hwyliau d’Eglwys yn gadarn yn y gwynt sydd heddiw o Galfaria yn chwythu’n gynt a chynt: mae’r morwyr yma’n barod a’r Capten wrth y llyw, a’r llong ar fyr i hwylio ar lanw Ysbryd Duw. O cadw’r criw yn ffyddlon a’r cwrs yn union syth ar gerrynt gair y bywyd na wna ddiffygio […]
Un sylfaen fawr yr Eglwys yr Arglwydd Iesu yw, ei greadigaeth newydd drwy ddŵr a gair ein Duw; ei briodasferch sanctaidd o’r nef i’w cheisio daeth, â’i waed ei hun fe’i prynodd a’i bywyd ennill wnaeth. Fe’i plannwyd drwy’r holl wledydd, ond un, er hyn i gyd, ei sêl, un ffydd, un Arglwydd, un bedydd […]
Rho d’arweiniad, Arglwydd tirion, i’th lân Eglwys yn ein tir: i’w hoffeiriaid a’i hesgobion dyro weledigaeth glir: gwna’i haelodau yn ganghennau ffrwythlon o’r Winwydden wir. Boed i gadarn ffydd ein tadau gadw d’Eglwys rhag sarhad: boed i ras ein hordinhadau buro a sancteiddio’n gwlad: boed i’w gwyliau a’i hymprydiau chwyddo’r mawl yn nhŷ ein Tad. […]
Mae’r nos fu’n llethu d’Eglwys flin ar dorri’n wawr hyderus, a throir galaru hir dy blant yn foliant gorfoleddus, a thyf y dafnau mân cyn hir yn gawod gref i ddeffro’n tir. Rho i ni newyn am dy ddawn nes cawn ein llwyr ddigoni, a syched nes cawn uno’r floedd fod llynnoedd gras yn llenwi; […]
Mae Eglwys Dduw fel dinas wych yn deg i edrych arni: ei sail sydd berl odidog werth a’i mur o brydferth feini. Llawenydd yr holl ddaear hon yw Mynydd Seion sanctaidd; preswylfa annwyl Brenin nef yw Salem efengylaidd. Gwyn fyd y dinasyddion sydd yn rhodio’n rhydd ar hyd-ddi; y nefol fraint i minnau rho, O […]
Distewch, cans mae presenoldeb Crist, y sanctaidd Un, gerllaw; dewch, plygwch ger ei fron mewn dwfn, barchedig fraw: dibechod yw efe, lle saif mae’n sanctaidd le; distewch, cans mae presenoldeb Crist, y sanctaidd Un, gerllaw. Distewch, cans gogoniant Crist ei hun o’n cylch lewyrcha’n gry’; fe lysg â sanctaidd dân, mawr ei ysblander fry: brawychus […]
Ysbryd Sanctaidd, disgyn o’r uchelder glân nes i’n calon esgyn mewn adfywiol gân. Arwain ein hysbrydoedd i fynyddoedd Duw, darpar yno’r gwleddoedd wna i’r enaid fyw. Dangos inni’r llawnder ynddo ef a gaed, dangos inni’r gwacter heb rinweddau’r gwaed. Ysbryd Sanctaidd, dangos inni’r Iesu mawr; dwg y nef yn agos, agos yma nawr. PENAR, 1860-1918 […]
Ddiddanydd anfonedig nef, fendigaid Ysbryd Glân, hiraethwn am yr awel gref a’r tafod tân. Erglyw ein herfyniadau prudd am brofi o’th rad yn llawn, gwêl a oes ynom bechod cudd ar ffordd dy ddawn. Cyfranna i’n heneidiau trist orfoledd meibion Duw, a dangos inni olud Crist yn fodd i fyw. Am wanwyn Duw dros anial […]
Ysbryd Glân, golomen nef, gwrando’n rasol ar ein llef; aethom yn wywedig iawn, disgyn yn dy ddwyfol ddawn. Oer ein serch, a gwan ein ffydd, ein Hosanna’n ddistaw sydd; tyred, tyred, Ysbryd Glân, ennyn ynom nefol dân. Er na haeddwn ni dy gael, eto ti wyt Ysbryd hael; tyred, tyred yn dy ras, maedda’n hanghrediniaeth […]
Ysbryd Sanctaidd, dyro’r golau ar dy eiriau di dy hun; agor inni’r Ysgrythurau, dangos inni Geidwad dyn. O sancteiddia’n myfyrdodau yn dy wirioneddau byw; crea ynom ddymuniadau am drysorau meddwl Duw. Gweld yr Iesu, dyna ddigon ar y ffordd i enaid tlawd; dyma gyfaill bery’n ffyddlon, ac a lŷn yn well na brawd DYFED, 1850-1923