Boed mawl i Dduw gan engyl nef a chlod gan ddynion fyrdd; mor rhyfedd yw ei gariad ef, mor gyfiawn yw ei ffyrdd. Mor ddoeth yw cariad Duw at ddyn sydd wan dan faich ei fai: yn ddyn mewn cnawd daeth Duw ei hun i’w nerthu a’i lanhau. O’i gariad doeth, ein Duw mewn cnawd […]
‘Does neb ond ef, fy Iesu hardd, A ddichon lanw ‘mryd; Fy holl gysuron byth a dardd O’i ddirfawr angau drud. ‘Does dim yn gwir ddifyrru f’oes Helbulus yn y byd Ond golwg mynych ar y groes Lle talwyd Iawn mewn pryd. Mi welaf le mewn marwol glwy’ I’r euog guddio’i ben, Ac yma llechaf […]
Am Iesu Grist a’i farwol glwy’ boed miloedd mwy o sôn, a dweded pob rhyw enaid byw mai teilwng ydyw’r Oen. Fe ddaeth yn dlawd, etifedd nef, i ddioddef marwol boen; myneged pob creadur byw mai teilwng ydyw’r Oen. Y llu angylaidd draetha nawr am rinwedd mawr ei boen; cydganed pawb o ddynol-ryw mai teilwng […]
Wrth gofio d’air, fy Iesu glân, mawr hiraeth arnaf sy am ddod yn isel ger dy fron yn awr i’th gofio di. Dy gorff a hoeliwyd ar y pren yw bara’r nef i mi; dy waed sydd ddiod im yn wir, da yw dy gofio di. Wrth droi fy llygaid tua’r groes, wrth weled Calfarî, […]
Mi glywaf dyner lais yn galw arnaf fi i ddod a golchi ‘meiau i gyd yn afon Calfari. Arglwydd, dyma fi ar dy alwad di, canna f’enaid yn y gwaed a gaed ar Galfarî. Yr Iesu sy’n fy ngwadd i dderbyn gyda’i saint ffydd, gobaith, cariad pur a hedd a phob rhyw nefol fraint. Yr […]
Ai am fy meiau i dioddefodd Iesu mawr pan ddaeth yng ngrym ei gariad ef o entrych nef i lawr? Cyflawnai’r gyfraith bur, cyfiawnder gafodd Iawn, a’r ddyled fawr, er cymaint oedd, a dalodd ef yn llawn. Dioddefodd angau loes yn ufudd ar y bryn, a’i waed a ylch y galon ddu yn lân fel […]
‘Roedd yn y wlad honno fugeiliaid yn gwylio eu praidd rhag eu llarpio’r un lle; daeth angel yr Arglwydd mewn didwyll fodd dedwydd i draethu iddynt newydd o’r ne’, gan hyddysg gyhoeddi fod Crist wedi’i eni, mawr ydyw daioni Duw Iôr; bugeiliaid pan aethon’ i Fethlem dre’ dirion hwy gawson’ Un cyfion mewn côr: Mab […]
O deued pob Cristion i Fethlem yr awron i weled mor dirion yw’n Duw; O ddyfnder rhyfeddod, fe drefnodd y Duwdod dragwyddol gyfamod i fyw: daeth Brenin yr hollfyd i oedfa ein hadfyd er symud ein penyd a’n pwn; heb le yn y llety, heb aelwyd, heb wely, Nadolig fel hynny gadd hwn. Rhown glod […]
Rhown foliant o’r mwyaf i Dduw y Goruchaf am roi’i Fab anwylaf yn blentyn i Fair, i gymryd ein natur a’n dyled a’n dolur i’n gwared o’n gwewyr anniwair. Fe gymerth ein natur, fe’n gwnaeth iddo’n frodyr, fe ddygodd ein dolur gan oddef yn dost; fe wnaeth heddwch rhyngom a’i Dad a ddigiasom, fe lwyr […]
Ar gyfer heddiw’r bore ‘n faban bach y ganwyd gwreiddyn Jesse ‘n faban bach; y Cadarn ddaeth o Bosra, y Deddfwr gynt ar Seina, yr Iawn gaed ar Galfaria ‘n faban bach yn sugno bron Maria ‘n faban bach. Caed bywiol ddŵr Eseciel ar lin Mair a gwir Feseia Daniel ar lin Mair; caed bachgen […]