O roddwr bywyd, arwain ni i’th foli a’th fawrhau, ti sy’n bendithio teulu dyn a pheri llawenhau. I ofal ac amddifyn da dy Eglwys yn y byd cyflwyno wnawn yr ieuanc rai a’n holl obeithion drud. O arddel drwy dy ddwyfol nerth y sanctaidd ordinhad a selia mwy â’th gariad mawr adduned mam a thad. […]
O! sancteiddia f’enaid Arglwydd, ymhob nwyd ac ymhob dawn; rho egwyddor bur y nefoedd yn fy ysbryd llesg yn llawn: n’ad im grwydro draw nac yma fyth o’m lle. Ti dy hunan all fy nghadw rhag im wyro ar y dde, rhedeg eilwaith ar yr aswy, methu cadw llwybrau’r ne’: O tosturia, mewn anialwch rwyf […]
O Seren newydd, glaer, Disgleiria uwch ein byd, I arwain doethion dros y paith At frenin yn ei grud. O angel gwyn y nef, Tyrd eto, saf gerllaw, I ddweud am Iesu, baban Mair, Yn ninas Dafydd draw. O wylwyr pell y praidd, Nesewch i Fethlem dref, A phlygwch ger y preseb bach Lle mae […]
O tyn y gorchudd yn y mynydd hyn; llewyrched Haul Cyfiawnder gwyn o ben y bryn bu’r addfwyn Oen yn dioddef dan yr hoelion dur, o gariad pur i mi mewn poen. Ble, ble y gwnaf fy noddfa dan y ne’, ond yn ei glwyfau dyfnion e’? Y bicell gre’ aeth dan ei fron agorodd […]
O tyrd ar frys, Iachawdwr mawr, disgynned d’Ysbryd yma i lawr; rho nerth i bawb o deulu’r Tad gydgerdded tua’r hyfryd wlad. Cyd-fynd o hyd dan ganu ‘mlaen, cyd-ddioddef yn y dŵr a’r tân, cydgario’r groes, cydlawenhau, a chydgystuddio dan bob gwae. Duw, tyrd â’th saint o dan y ne’, o eitha’r dwyrain pell i’r […]
Wyt ti’n brifo, ‘di dryllio tu fewn? Wedi llethu gan bwysau dy fai? Mae Iesu yn galw. Ydy popeth yr wyt ti ar ben? Sgen ti syched am yfed o’r ffrwd? Mae Iesu yn galw. O tyrd at yr allor, Mae breichiau’r Tad yn awr ar led, Maddeuant a brynwyd â gwerthfawr waed ein Iesu […]
O tyred i’n gwaredu, Iesu da, fel cynt y daethost ar dy newydd wedd, a’r drysau ‘nghau, at rai dan ofnus bla, a’u cadarnhau â nerthol air dy hedd: llefara dy dangnefedd yma nawr a dangos inni greithiau d’aberth mawr. Yn d’aberth di mae’n gobaith ni o hyd, ni ddaw o’r ddaear ond llonyddwch brau; o […]
O tyred i’n hiacháu, garedig Ysbryd; tydi sy’n esmwytháu blinderau bywyd: er dyfned yw y loes, er trymed yw y groes, dwg ni bob dydd o’n hoes yn nes i’r gwynfyd. O tyred i fywhau y rhai drylliedig, tydi sy’n cadarnhau y gorsen ysig; pan fyddo’r storom gref yn llanw’r byd a’r nef, dy air […]
O tyred, Arglwydd mawr, dihidla o’r nef i lawr gawodydd pur, fel byddo’r egin grawn, foreddydd a phrynhawn, yn tarddu’n beraidd iawn o’r anial dir. Mae peraroglau gras yn taenu o gylch i maes awelon hedd; estroniaid sydd yn dod o’r pellter eitha’ ‘rioed, i gwympo wrth dy droed a gweld dy wedd. Mae tegwch […]
O tyred, Iôr tragwyddol, mae ynot ti dy hun fwy moroedd o drugaredd nag a feddyliodd dyn: os deui at bechadur, a’i godi ef i’r lan, ei galon gaiff, a’i dafod, dy ganmol yn y man. Gwaredu’r saint rhag uffern a phechod drwg ei ryw, o safn y bedd ac angau, a’u dwyn i fynwes […]