Dacw’r ardal, dacw’r hafan, Dacw’r nefol hyfryd wlad, Dacw’r llwybyr pur yn amlwg, ‘R awron tua thŷ fy Nhad; Y mae hiraeth yn fy nghalon, Am fod heddiw draw yn nhref, Gyda’r myrdd sy’n canu’r anthem, Anthem cariad “Iddo Ef”. Mae fy hwyliau heddiw’n chware’n, Llawen yn yr awel bur, Ac ‘r wy’n clywed sŵn […]
Dacw’r hyfryd fan caf drigo, Gwn caf drigo cyn bo hir, Dros y bryniau oer tymhestlog, Yn y sanctaidd hyfryd dir: Gwela’n awr fore wawr Glir, o dragwyddoldeb mawr. Ni gawn yno weld a garwn, Mewn gogoniant llawer mwy Nag ei gwelsom ar y croesbren Dan ei farwol ddwyfol glwy’; Lluoedd mawr sydd yn awr […]
Dad yn y nefoedd, Bydded i dy enw di Gael clod drwy’r byd i gyd. Dad yn y nefoedd, Deled nawr dy deyrnas A gwneler dy ewyllys di. Wnei di f’arwain i gyda’th olau Sanctaidd? Rwyf am roi i ti bob awr sydd o’m bywyd, A sychedu wnaf o ddyfnderoedd f’enaid. Fe’th addolaf di o’r […]
Dad yn y nefoedd, o, fe’th garwn; Cyhoeddwn d’enw drwy’r holl fyd. Boed i’th Deyrnas ddod i’n plith ni wrth i’n foli, A lledaened dy ras a’th gariad drud. Fendigedig Dduw hollalluog! A fu, ag sydd, ac eto’i ddod, Fendigedig Dduw hollalluog! I dragwyddoldeb mwy. Father in Heaven, how we love you: Bob Fitts, cyf.awdurdodedig, […]
Dad, dy gariad yn glir ddisgleiria, trech na’r t’wyllwch, yn glir ddisgleiria; Iesu, goleuni’r byd, cofia ninnau, ti yw’r gwir a’n rhyddha o’n cadwynau: Grist, clyw ein cri, goleua ni. Air disglair Duw, dyro d’olau i Gymru heddiw, tyrd, Ysbryd Glân, rho dy dân i ni: rhed, afon gras, taena gariad ar draws y gwledydd, […]
Dad, fe rof fy hun yn llawen I’th wasanaethu di; dy ras am denodd i. O Dad, yn Iesu rhoist im drysor: Y perl gwerthfawr yw dy Deyrnas di fy Nuw. Addolaf di, addolaf di, Canaf gân yn llawen, Dad, am dy gariad di. Addolaf di, addolaf di, Dy gariad afaelodd ynof fi – Addolaf […]
Dad, o clyw ein cri Boed i’n bywyd ni Fod yn un â thi – yn aberth byw. Llanw ni â’th dân, Grym yr Ysbryd Glân, Boed i’r byd dy ogoneddu di. Arglwydd Dduw, trugarha. Grist, O! clyw, trugarha. Arglwydd Dduw, trugarha. (Grym Mawl 2: 26) Andy Piercy: Father hear our prayer, Cyfieithiad Awdurdodedig: Gwion […]
Dad, rwyt ffyddlon a gwir, Fe ymddiriedaf i ynot Ti, O nefol Dad tragwyddol. Dy Air sydd gyfiawn a phur, A’th addewid sydd mor glir, Arglwydd Dduw Mae d’eiriau yn dragwyddol. Rwyt ffyddlon, ffyddlon; Dy gariad sy’n ddi-drai; Dy eiriau melys di a erys gyda ni. Rhyfeddol Gynghorwr, nerthol Duw. Dduw Jehofa, ti yw yr […]
Pan rwy’n galw rwyt ti yn ateb Pan rwy’n syrthio, rwyt yna gerllaw Do achubaist fi o dywyllwch I fyw bywyd o obaith a mawl. Trwy ras rwy’n rhydd, Achubaist fi, Rhof fy hun i ti. Ei gariad rydd wefr sydd uwchlaw pob dim Ei obaith sy’n gryfach na phopeth i mi Roeddwn ar goll, […]
Daeth Crist i’n plith, O llawenhawn, a deued pawb ynghyd i’w dderbyn a’i gydnabod ef yn Geidwad i’r holl fyd, yn Geidwad i’r holl fyd, yn Geidwad, yn Geidwad i’r holl fyd. Aed y newyddion da ar led, awr gorfoleddu yw; seinied pawb drwy’r ddaear gron eu cân o fawl i Dduw, eu cân o […]