Esgyn gyda’r lluoedd fry i fynydd Duw, tynnu tua’r nefoedd, bywyd f’enaid yw. Yfwn o ffynhonnau gloywon ddyfroedd byw wrth fynd dros y bryniau tua mynydd Duw. Dringwn fel ein tadau dros y creigiau serth; canwn megis hwythau, “Awn o nerth i nerth.” Pan wyf ar ddiffygio, gweld y ffordd yn faith, Duw sydd wedi […]
Ewch allan mewn llawenydd ac mewn heddwch gwir, bloeddia’r bryniau a’r mynyddoedd foliant o’ch blaen chwi, a holl goed y maes gurant ddwylo ynghyd wrth foli’r Arglwydd Dduw: curo dwylo a wnânt i’r Arglwydd Dduw, curo dwylo a wnânt i’r Arglwydd Dduw, curo dwylo a wnânt i’r Arglwydd Dduw, yn llawen molant ef. STUART DAUERMANN […]
F’enaid mola Dduw! Dyrchafa’i enw Ef. F’enaid mola Dduw! Rhydd fywyd it o’r nef. (Grym Mawl 2: 11) Hawlfraint © Ateliers et Presses de Taize
F’enaid, cod, bendithia dy Greawdwr, Ef yw d’Arglwydd, Ef dy gyfaill triw; Araf i ddig, cyfoethog mewn trugaredd Mola dy Geidwad, Iesu. Brenin gras, a’i gariad anorchfygol Bara Byw, caf bopeth ynddo Fe; Cans ei waed a’m prynodd i’n dragywydd, Prynodd ar groes fy Iesu. A chanaf i tra byddaf byw Am ddyfod cariad nef […]
F’enaid, gwêl i ben Calfaria, Draw’r rhyfeddod mwya’ ‘rioed; Crëwr nefoedd wen yn marw, Trenga’r ddraig o dan ei droed; Clywaf lais yn awr, debygwn, Egyr byrth y nefoedd fry; F’enaid, cân, fe ddarfu ofnau, Prynwyd nefoedd wen i mi. Tyrd i fyny o’r anialwch, Wedi aros yno’n hir, Sypiau grawnwin mawrion aeddfed, Sy’n dy […]
F’enaid, gwêl i Gethsemane, edrych ar dy Brynwr mawr yn yr ing a’r ymdrech meddwl, chwys a gwaed yn llifo i lawr. Dyma’r cariad mwyaf rhyfedd, mwyaf rhyfedd fu erioed! Yn yr ardd, pan ddaliwyd Iesu, fe atebodd drosom ni, “Gadewch iddynt hwy fynd ymaith, yn eu lle cymerwch fi!” Dyma’r cariad mwyaf rhyfedd, mwyaf […]
F’enaid, mola Dduw’r gogoniant, dwg dy drysor at ei draed; ti a brofodd ei faddeuant, ti a olchwyd yn y gwaed, moliant, moliant dyro mwy i’r gorau gaed. Mola ef, a’i rad drugaredd lifodd at ein tadau’n lli; mola ef, ei faith amynedd a’i dosturi atat ti; moliant, moliant, am ei ddoniau rhad, di-ri’. A […]
Fe atseinia’r dyffrynoedd a chân o fawl, Bydd y llew yn cydorwedd â’r oen. I’w lywodraeth ni bydd dim diwedd mwy, A’i ogoniant a leinw’r byd. Dy ewyllys wneir, A gwrandewir dy Air, Boed i’th Deyrnas di ddod yn ein plith. Mae ’na floedd drwy y tir wrth in ateb y gri, Clod i’r Brenin! […]
Fe brynaist ti a’th werthfawr waed, Rai o bob gwlad a llwyth ac iaith; Rhyddid o gaethiwed pechod du, Wedi’r bedd fe atgyfoda llu, I dragwyddol hedd: Teilwng yw yr Oen ar yr orsedd yn awr, O’r anrhydedd, gogoniant A’r nerth a’r holl fawl! Teilwng yw yr Oen ar yr orsedd yn awr, O’r anrhydedd, […]
Fe chwythodd yr awel ar Gymru drachefn, clodforwn di, Arglwydd, fod gwyrth yn dy drefn: dihunaist ni’r meirwon, a’n codi drwy ffydd, a throi ein hwynebau at degwch y dydd. Molwn di, molwn di’n un teulu ynghyd, molwn di, molwn di, a’n cân dros y byd; cydweithiwn, cydgerddwn, cydfolwn gan fyw i roi iti’r cyfan, […]