Haleliwia, Dad nefol, Am roi i ni dy Fab; Daeth fel oen i farw’n Iawn, A’n hachub drwy ei waed. Gwyddai beth a wnaethem – Ei ddyfal guro’n friw. Haleliwia, Dad nefol, Ei groes, fy ngobaith yw. Haleliwia, Dad nefol, Trwy ei fywyd rwyf yn fyw. Cyfieithiad Awdurdodedig : Arfon Jones. Hallelujah, My Father, Tim Cullen © […]
Pennill 1 Deffrwch, deffrwch, mae ’na reswm i ddathlu, Maddeuant bob pechod yn enw’r Iesu. Y groes, y groes, roedd dy waed di yn llifo, Ond ar y trydydd diwrnod mi godaist ti eto. Mae gen ti bŵer dros farwolaeth Yno ti y mae ein gobaith. Cytgan Haleliwia, mae Crist yn fyw Haleliwia, pob clod […]
Haleliwia! Haleliwia! Seinier mawl i’r uchel Dduw; ef yw Brenin y brenhinoedd, Arglwydd yr arglwyddi yw: pwysa eangderau’r cread byth ar ei ewyllys gref; ein gorffwysfa yw ei gariad: Haleliwia! Molwn ef. Haleliwia! Haleliwia! Gwylio mae bob peth a wnaed; cerdd mewn nerth drwy’r uchelderau a’r cymylau’n llwch ei draed: ynddo mae preswylfa’r oesau, dechrau […]
Haleliwia! Haleliwia! Haleliwia! O’r ymdrech fawr ar Galfarî, Dywysog Bywyd, daethost ti, gan ymdaith mewn anfarwol fri: Haleliwia! Ni allai holl ddolurus gur y goron ddrain a’r hoelion dur wanychu grym dy gariad pur: Haleliwia! Gadewaist fröydd brenin braw â phob awdurdod yn dy law, hyd faith derfynau’r byd a ddaw: Haleliwia! Pyrth uffern gaeaist, […]
Hanesyddol yw y dydd, Trechwyd angau – Ti achubodd fi Canwn Glod, Iesu sydd yn fyw. Croes Calfaria yr ogof wag Hyd y diwedd – enillaist bopeth i’m Llawenhawn, Iesu sydd yn fyw. Mae yn fyw… Ac O! Llawenhawn, llawenhawn Ces i faddeuant llawn O! Llawenhawn, llawenhawn Maddeuant ganddo Ef Byth bythoedd gydag Ef Wrth […]
Bob dydd a ddaw canaf gân o wir orfoledd Rhoddaf foliant i ffynnon dyfroedd byw Am ddatrys dryswch f’anobaith i Arllwys tonnau trugaredd ar f’mywyd. Ymddiriedaf yng nghroesbren fy Ngwaredwr, Canu wnaf am y gwaed na fetha byth; Am rodd maddeuant rhad, cydwybod lân, Am ddiwedd angau, am fywyd am byth! Harddaf Waredwr, ryfedd Gynghorwr, […]
Hedd fel yr afon, Cariad mor gadarn, Fe chwyth gwynt dy Ysbryd Ar hyd a lled y byd. Ffynnon y bywyd, Dyfroedd bywiol clir; Tyrd Ysbryd Glân Anfon dy dân i lawr. John Watson: Peace like a river, cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones © Ampelos Music/Thankyou Music 1987. Gwein. Gan Copycare (Grym mawl 1: 135)
Hedd sy’n llifo fel yr afon, llifo drwot ti a mi, llifo allan i’r anialwch, rhyddid bellach ddaeth i ni. Cariad sy’n llifo fel yr afon, llifo drwot ti a mi, llifo allan i’r anialwch, rhyddid bellach ddaeth i ni. Ffydd sy’n llifo fel yr afon, llifo drwot ti a mi, llifo allan i’r anialwch, […]
Heddiw cododd Crist yn fyw, Haleliwia! Llawen ddydd o foliant yw, Haleliwia! Dioddefodd angau loes, Haleliwia, er ein prynu ar y groes, Haleliwia! Canwn foliant iddo ef, Haleliwia! Crist ein Brenin mawr o’r nef, Haleliwia!; Dringodd fynydd Calfarî, Haleliwia! Aeth drwy’r bedd i’n hachub ni, Haleliwia! Trwy ei loes a’i boenau mawr, Haleliwia! daeth â […]
Heddiw llawenychwn, na foed neb yn drist; mewn carolau seiniwn foliant Iesu Grist: dyma ddydd ei eni, heddiw daeth i’n byd; teilwng ydyw moli uwch ei isel grud. Heddiw ganed Ceidwad i holl ddynol-ryw, mewn ymddarostyngiad, Crist yr Arglwydd yw; dyna iaith angylion, dyna iaith y nef wrth fugeiliaid tlodion pryd y ganed ef. Canu […]