Iesu, Iesu, Sanctaidd wyt, Fab Duw eneiniog, Iesu. Iesu, Iesu, Ti yw’n Harglwydd dyrchafedig, Iesu. Dy enw sydd fel y diliau mêl, Dy Ysbryd fel dŵr i’m henaid i; Dy Air sydd yn llusern glir i’m traed. Iesu, fe’th garaf, fe’th garaf. Jesus, Jesus, Holy and Anointed One, John Barnett, Cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones © 1988 […]
Iesu, mae d’enw uwch pob enw sydd, Nerthol Dduw, T’wysog Hedd, Gwaredwr. Iesu, fe’th garaf di yn fwy bob dydd, F’Arglwydd i, ‘Rwyf am d’adnabod di yn well. Gwêl yma fôr o fawl – Cwyd o ddwfn fy nghalon, tyrr fel ton ar don Wrth d’addoli Di. Carwr f’enaid i, Crëwr y cyfanfyd, Ti a […]
Iesu, mawr yw dy ras a mawr dy gariad ataf fi, Gwn am fy holl feiau’i gyd, ond parod wyt i faddau im. Hon yw fy nghân o fawl i ti; Clod i’r Duw byw a’i holl roddion drud. Ti wnaeth gyffwrdd y galon hon Waredwr ffyddlon. Iesu, dal fi yn dynn a gwared fi […]
Iesu, mor hawddgar wyt ti, Rwyt ti mor addfwyn, mor bur, mor gu. Ti yw haul ein cyfiawnder ni, lesu, mor hawddgar wyt ti. Haleliwia, lesu yw fy Mrenin cu, Haleliwia, lesu sydd bopeth i mi. Cytgan Haleliwia, lesu ddaeth o’r bedd yn fyw, Haleliwia, maddau ’mai, Ef sydd Dduw. Cytgan Haleliwia, addfwyn a thyner […]
Iesu, nid oes terfyn arnat, mae cyflawnder maith dy ras yn fwy helaeth, yn fwy dwfwn ganwaith nag yw ‘mhechod cas: fyth yn annwyl meibion dynion mwy a’th gâr. Mae angylion yn cael bywyd yn dy ddwyfol nefol hedd, ac yn sugno’u holl bleserau oddi wrth olwg ar dy wedd; byd o heddwch yw cael […]
Iesu, rhown iti bob anrhydedd, Iesu, rhown iti yr holl glod. Uned dae’r a nef i ddyrchafu Yr enw sydd goruwch holl enwau’r rhod. O, plygwn bawb ein glin mewn gwir addoliad, Can’s plygu glin yw’n dyled ger ei fron. Cyffeswn bawb yn awr Ef yw’r Crist, Ef yw Mab Duw, Frenin Iôr, clodforwn di […]
Iesu, ti yw disgleirdeb Duw yn y gogoniant, Ti yw y Mab ac etifedd pob peth, Yr Un grëodd ein byd. Ti sydd yn cynnal y cwbl oll Drwy dy nerthol air. Puraist ni o’n beiau i gyd, Ac fe esgynaist i’r nef, Esgynaist i’r nef I ddeheulaw Duw. (Tro olaf) Dyrchafedig mewn gogoniant, […]
Iesu, ti yw ffynnon bywyd, bywyd dedwydd i barhau; pob rhyw gysur is y nefoedd ynot ti dy hun y mae: ni all croes na gwae na chystudd wneuthur niwed iddynt hwy gafodd nerth i wneud eu noddfa yn dy ddwyfol, farwol glwy’. Dring, fy enaid, i’th orffwysfa uwch y gwynt tymhestlog, oer, maes o […]
Iesu, Ti’n disgleirio yn d’ogoniant, breichiau led y pen agored; Ti yw Brenin daear gyfan ac yn Arglwydd ar fy nghalon. Golau sydd yn tywallt allan, pelydr yn cludo’r cyfan Popeth y mae arnaf angen ddaw i’m meddiant o dy galon Di. Tyrd lawr i deyrnasu ar y ddaear – defnyddia ein doniau ni, Mae […]
Iesu, tyrd i’r canol Yn ein hoedfa ar y llawr, Bydd yn hardd gytundeb Wrth i’n llygaid gwrdd yn awr, O Iesu, fe’th garwn, felly down ynghyd, Ein calonnau una nawr a dryllia’n hofnau i gyd. Atat ti y deuwn O bob gwlad ar draws y byd, Crist yw’r cariad rhyngom Wrth in afael dwylo […]