Mi glywaf lais sy’n galw f’enaid aflan, Gras a gwirionedd sy’n ei eiriau byw, Mae’n fy ngwahodd i’w ddilyn Ef i’w gorlan, Rwy’n ei adnabod, llais fy Mugail yw. Cytgan: Fy Mugail i, fy Mugail i, fy Mugail i, Rwy’n ei adnabod, llais – llais fy Mugail i. Pan fyddo’r nos yn ddu, a’r byd […]
Llais hyfryd rhad ras sy’n gweiddi, “Dihangfa!” Yng nghlwyfau Mab Duw, bechadur, mae noddfa: i olchi aflendid a phechod yn hollol fe redodd ei waed yn ffrydiau iachusol. Haleliwia i’r Oen bwrcasodd ein pardwn, ‘n ôl croesi’r Iorddonen drachefn ni a’i molwn. Ar angau ac uffern cadd lawn fuddugoliaeth, ysbeiliodd holl allu’r tywyllwch ar unwaith: […]
Llawn o ofid, llawn o wae, A llawn euogrwydd du, Byth y byddaf yn parhau Heb gael dy gwmni cu; Golwg unwaith ar dy wedd A’m cwyd i’r lan o’r pydew mawr; O! fy Nuw, nac oeda’n hwy, Rho’r olwg imi’n awr. ‘Mofyn am orffwysfa glyd, Heb gwrdd â stormydd mwy; Lloches nid oes yn […]
Llawryfon rhowch ar ben Yr Oen ar orsedd nef. Ni chân angylaidd nefol gôr I neb ond iddo Ef. Fy enaid cân i’r Hwn Fu farw yn dy le; Trwy dragwyddoldeb nid oes gwell Ar ddae’r nac yn y ne. Cododd o’r bedd yn fyw. Gorchfygodd Angau gawr. Ei rym achubol welir yn Ei fuddugoliaeth […]
Lle bynnag wyt, O Grist, mae bywyd pur ei flas, mae ysbryd yno’n rym a gloyw ffrydiau gras; mae yno fwynder hedd i gyfoethogi’n byw: lle bynnag wyt, O Grist, cawn weled ŵyneb Duw. Lle bynnag wyt, O Grist, symudir baich ein bai, bydd sanctaidd olau’r nef ar wedd yr addfwyn rai; cawn weld yr […]
Lle daw ynghyd Ddau neu dri yn fy enw, Yno’r wyf; yno gyda chwi. Ac os bydd dau yn gytûn wrth weddïo, Ymbil taer yn fy enw i. Fy Nhad a wrendy’th weddi di; Gwrendy’th gri a’i hateb. Ac fe rydd y cyfan oll, Drwy nerth f’enw i. Graham Kendrick: Where two or three, Cyfieithiad […]
Llefara, Iôr, nes clywo pawb dy awdurdodol lais, a dyro iddynt ras i wneud yn ôl dy ddwyfol gais. Goresgyn, â galluoedd glân dy deyrnas fawr dy hun, bob gallu a dylanwad drwg sydd yn anrheithio dyn. Teyrnasa dros ein daear oll, myn gael pob gwlad i drefn: O adfer dy ddihalog lun ar deulu […]
Llifa ataf, fôr tragywydd, gyr dy ddyfnder oddi draw; cuddia’r ogofeydd a’r creigiau sy’n fy mygwth ar bob llaw: sŵn dy ddyfroedd yw fy ngobaith pan ddymchwelont, don ar don, ac nid oes ond ti a’m cyrraedd ar y draethell unig hon. Gwelaf dros dy lanw nerthol oleuadau’r tiroedd pell lle mae Duw yn troi […]
Loywaf o’r sêr sydd yn britho’r ffurfafen, gwasgar ein t’wyllwch, a gwawried y dydd: seren y dwyrain, rhagflaenydd yr heulwen, dwg ni i’r fan lle mae’r baban ynghudd. Gwelwch mor isel ei ben yn y preseb, disglair yw oerwlith y nos ar ei grud; moled angylion mewn llety cyn waeled Frenin, Creawdwr a Cheidwad y […]
Mae ’na newyn o fath arall Ar y rhai sy’n dda eu byd, Er na welir hwy yn marw Nac yn wylo ar y stryd. Mae na angen dwfn a dirgel Sydd ym mhawb o’n cwmpas ni; Er na welwn hwy’n dihoeni, Er na chodant lef na chri. O rho dy fanna, Iôr, yn y […]