Mae gen i ddwylo i’w curo i Dduw, Mae gen i goesau, i neidio i Dduw, Mae gen i ‘sgwyddau i blygu i Dduw, a fy nghorff i gyd i foli fy Nuw. Diolch, diolch, diolch i Ti, Dduw, Diolch, diolch, diolch i Ti, Dduw. Mae gen i glustiau i wrando ar Dduw, Mae gen […]
Mae gennyf ddigon yn y nef ar gyfer f’eisiau i gyd; oddi yno mae y tlawd a’r gwael yn cael yn hael o hyd. O law fy Nuw fe ddaw’n ddi-feth fy mywyd i a’m nerth, fy iechyd, synnwyr, a phob peth, fy moddion oll, a’u gwerth. O law fy Nuw y daw, mi wn, […]
Mae gobaith sicr yn fy nghalon i, Sy’n rhoddi nerth i ddioddef dyddiau du; Wrth weled mymryn o d’ogoniant yma nawr amheuaeth ffodd o’m tu: Maddeuwyd im pob pechod cas; Mae gobaith nefoedd ynof fi! Fy mraint, fy ngalwad a’m llawenydd pur Yw gwneud d’ewyllys Di. Mae gen i obaith cryf sy’n ’sgafnu maich Yn […]
Mae harmonïau’r nefol gân O flaen ei orsedd mad. Can mil o engyl seinia’n un Mewn côr o fawl i’r Tad. Mwy disglair yw dy olau pur Na’r sêr a’r lloer a’r haul; Dihafal yw Creawdwr byd Ac Ef yw’n cadarn sail. Ni saif dinasoedd ‘ddaear hon Am dragwyddoldeb hir, Ond wrth gynteddau perlog Nef […]
Mae Iesu’n fuddugol, a’i bobol gaiff fyw yn fwy na choncwerwyr drwy gariad Mab Duw; er profi gorthrymder neu newyn neu gledd, ‘does ball ar y cariad agorodd y bedd. Molwch ef! Molwch ef! Mae’r gad wedi troi Molwch ef! Molwch ef! Mae’r gelyn yn ffoi; mae Iesu’n fuddugol, a’i bobol gaiff fyw yn fwy […]
[Philipiaid 3:12-14, Alaw: Mae nghariad i’n fenws] Mae Iesu’n fy ngharu, mae’n dweud hynny’n glir; Nid wyf yn ei haeddu, ond dyna yw’r gwir. Pa ots am farn eraill? Pa ots beth yw’r si? Dim ond barn fy Iesu sy’n cyfrif i mi. Rwy’n werthfawr i Iesu; ei drysor wyf fi. Mi dalodd bris uchel […]
Mae llais y gwyliwr oddi draw yn dweud bod bore llon gerllaw: cymylau’r nos sy’n cilio ‘mhell o flaen goleuni dyddiau gwell, a daw teyrnasoedd daear lawr i gyd yn eiddo’n Harglwydd mawr. Y dwyrain a’r gorllewin sydd o’u rhwymau blin yn dod yn rhydd, ac unir de a gogledd mwy drwy ryfedd rinwedd marwol […]
Mae lluoedd maith ymlaen, ‘N awr o’u carcharau’n rhydd, A gorfoleddu maent Oll wedi cario’r dydd: I’r lan, i’r lan diangasant hwy, Yn ôl eu traed y sangwn mwy. Cawn weld yr addfwyn Oen, Fu farw ar y Bryn, Yn medi ffrwyth ei boen Yn hyfryd y pryd hyn: Bydd myrdd heb rif yn canu […]
Mae ‘nghalon i yn llawn edmygedd I ti fy Nuw, fy Mrenin mawr; Dy fawredd di yw fy ysgogiad, Geiriau dy ras yw alaw’r gân o’m mewn. O garu’r da, ac nid drygioni – Fe rydd dy Dduw dy wobr i ti, Ac ar dy ben, rhydd olew sanctaidd A thaenu persawr dros dy […]
Mae pererinion draw o’m blaen, Yn canu’r anthem bur, Ac heddiw’n edrych, fel o bell, Ar ddrysni’r diffaith dir. O! nertha finnau i edrych draw, Heb ŵyro o un tu, Nes i mi gyrraedd disglair byrth Caersalem newydd fry. Rho’r delyn euraidd yn ein llaw, Ac yn ein hysbryd dân, Ac yn mheryglon anial dir […]