Mewn anialwch ‘rwyf yn trigo, temtasiynau ar bob llaw, heddiw, tanllyd saethau yma, ‘fory, tanllyd saethau draw; minnau’n gorfod aros yno yn y canol, rhwng y tân; tyrd, fy Nuw, a gwêl f’amgylchiad, yn dy allu tyrd ymlaen. Marchog, Iesu, yn llwyddiannus, gwisg dy gleddau ‘ngwasg dy glun; ni all daear dy wrth’nebu chwaith nac […]
Mewn cof o’th aberth wele ni, O Iesu, ‘n cydnesáu; un teulu ydym ynot ti, i’th garu a’th fwynhau. Dy gariad di dy hun yw’r wledd – ni welwyd cariad mwy; ffynhonnau o dragwyddol hedd a dardd o’th farwol glwy’. Er mwyn y gras a ddaeth i ni o’th ddwyfol aberth drud, gwna’n cariad fel […]
Mewn cyfyngderau bydd yn Dduw, Nid wyf ond gwyw a gwan; Nid oes ond gallu mawr y nen A ddeil fy mhen i’r lan. Ni fedda’i mewn nac o’r tu maes Ond nerthol ras y Nef Yn erbyn pob tymhestloedd llym, A’r storom gadarn gref. Cysurwch fi, afonydd pur, Rhedegog ddyfroedd byw, Sy’n tarddu o […]
Cytgan: Mewn llawenydd yr âf allan, Ac mewn heddwch caf fy arwain, Mynyddoedd a bryniau yn Bloeddio canu o’m blaen. Mewn llawenydd yr âf allan, Ac mewn heddwch caf fy arwain, Holl goedwig y meysydd Yn curo dwylo o’m blaen. Pen 1: Fel hyn mae y gair a ddaw o’th enau, Nid yw’n dychwel atat […]
Mi af ymlaen yn nerth y nef tua’r paradwysaidd dir, ac ni orffwysaf nes cael gweld fy etifeddiaeth bur. Mae llais yn galw i maes o’r byd a’i bleser o bob rhyw; minnau wrandawa’r hyfryd sŵn llais fy Anwylyd yw. ‘Dwy’n gweld ar aswy nac ar dde, ‘mhlith holl wrthrychau’r byd, ddim dâl ymddiried yn […]
Mi benderfynais i ddilyn Iesu, mi benderfynais i ddilyn Iesu, mi benderfynais i ddilyn Iesu, heb droi yn ôl, heb droi yn ôl. Y byd o’m cefn a’r groes i’m harwain, y byd o’m cefn a’r groes i’m harwain, y byd o’m cefn a’r groes i’m harwain, heb droi yn ôl, heb droi yn ôl. […]
Mi dafla’ ‘maich oddi ar fy ngwar wrth deimlo dwyfol loes; euogrwydd fel mynyddoedd byd dry’n ganu wrth dy groes. Os edrych wnaf i’r dwyrain draw, os edrych wnaf i’r de, ymhlith a fu, neu ynteu ddaw, ‘does debyg iddo fe. Fe roes ei ddwylo pur ar led, fe wisgodd goron ddrain er mwyn i’r […]
Mi debygaf clywaf heddiw Sŵn caniadau draw o bell, Torf yn moli am waredigaeth, Ac am ryddid llawer gwell; Gynau gwynion yw eu gwisgoedd, Palmwydd hyfryd yn eu llaw, A hwy ânt gyd â gogoniant Mewn i’r bywyd maes o law. Minnau bellach orfoleddaf Fod y Jiwbil fawr yn dod, A chyflawnir pob rhyw sillaf […]
Mi edrychaf ar i fyny, deued t’wyllwch, deued nos; os daw heddwch im o unlle, daw o haeddiant gwaed y groes; dyna’r man y gwnaf fy nhrigfan, dyna’r man gobeithiaf mwy: nid oes iechyd fyth i’m henaid ond mewn dwyfol, farwol glwy’. Gobaith f’enaid yw ei haeddiant, gobaith f’enaid yw ei rym; tlawd a llesg […]
Mi ganaf tra bo anadl o fewn i’r ffroenau hyn am gariad yn dioddef ar ben Calfaria fryn, am goron ddrain blethedig, am hoelion garwa’u rhyw, gannu f’enaid euog fel eira gwynna’i liw. Fe rwygwyd muriau cedyrn, fe dorrwyd dorau pres oedd rhyngom ni a’r bywyd, mae’r bywyd heddiw’n nes; palmantwyd yr holl lwybrau, mae’r […]