Dy gariad, mae fel eryr yn hedfan. Dy gariad, mae fel cawod o law; Dy gariad sydd yn rhoddi bywyd I bob peth drwy’r ddaear lawr. Dy gariad ataf fi A’m cyffyrddodd mor ddwfn. Fy Nuw, derbyn fi i’th ddilyn, Arglwydd, derbyn hwn. Dy gariad sydd yn drysu’r gelyn. Dy gariad blyga’r balch i lawr; […]
Dyhewn am dafodau tân i’n cyffwrdd ninnau, I’n troi yn dystion tanbaid drosot ti. Sychedwn am adfywiad; gwyrthiau’r Ysbryd Sanctaidd, Hiraethwn weld ‘r afradlon yn dod nôl. Mae’n holl obeithion ni ynot ti, Pa bryd y daw ‘rhain yn wir? Deled dy Ysbryd mewn grymuster, Rho inni weledigaeth newydd, Deled dy Deyrnas yw ein gweddi, […]
Dyledwr i ras ydwyf fi, Am ras cyfamodol mae ‘nghân; Â gwisg dy gyfiawnder o’m cylch Nid ofnaf fi ddyfod o’th flaen; Mae dychryn y gyfraith a Duw Yn methu fy nghyffwrdd yn wir: Mae gwaed ac ufudd-dod fy Nghrist Yn cuddio fy meiau yn glir. Y gwaith a ddechreuodd Ei ras, Ei fraich a’i […]
Dyma fi, rhoddaf fy hun yn llwyr, Cymer fi i’th was’naethu di. Dyma fi, rhoddaf fy hun yn llwyr, Cymer fi i’th was’naethu di. Cynhaeaf mawr sydd o’n cwmpas, Ond o, y gweithwyr sydd mor brin. Defnyddia fi yn awr yng ngwaith dy Deyrnas I alw eraill atat dy hun. Mae’n bryd i ni alw […]
Dyma fi o dy flaen Â’m calon ar dân. Gwn dy fod Ti yn clywed pob cri – Rwyt ti’n gwrando. Er ‘mod i mor wael, mae’th ras mor hael – Rwyt ti’n ffyddlon i’m hateb A geiriau sy’n wir, gyda gobaith sy’n glir. Cyffwrdd fi, O! Dduw; Torra’r cadwynau a gwna fi yn rhydd, […]
Dyma ni yn barod Gerbron ein Brenin mawr, Mae’n dangos i’n y frwydr sydd o’n blaen. Fe goncrodd ef y gelyn – Bu farw yn ein lle; Fe’n geilw ninnau ‘nawr i’w ddilyn ef. A byw yn ffordd y nef, ffordd y nef, Awn yn llawen, a’i ddilyn ef; Ffordd y nef, ffordd y nef, […]
Dyma pam datguddiwyd y Crist, I ddifetha yn llwyr ymdrech yr Un Drwg. Crist o’n mewn ennillodd y dydd, Felly llawen yw’n cân o groeso i’w Deyrnas Ef. Mae’n goncwerwr dros bechod, (Dynion) Haleliwia, mae’n goncwerwr. (Merched) Dros farwolaeth, buddugol, (Dynion) Haleliwia, buddugol (Merched) Dros afiechyd, fe ennillodd, (Dynion) Haleliwia, fe ennillodd. (Merched) Crist deyrnasa drwy’r […]
Dyma’r rhyfeddod mwyaf un Dy fod, O! Dduw, yn Un yn Dri, Yn Drindod Sanctaidd – rwyt yn Dad, Yn Ysbryd ac yn Fab; Ein Tad o’r nef, yr Ydwyf mawr, Yn wir Fab Duw, yn Fab y Dyn, Ac eto’n rhan o’r cynllun hwn – Yr Ysbryd yma’n awr. O! Dduw, fe garem weld […]
Dyrchafaf glod i’r Arglwydd Dduw; Moliannu wnaf tra byddaf byw. Teyrnasu mae Efe mewn moliant yn y nef; Mawrygaf Iesu, yr Arglwydd Dduw. Cyfieithiad Cymraeg Awdurdodedig: Meri Davies (All Hail the Lamb gan Dave Bilbrough) Hawlfraint © 1987 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. […]
Dyrchafer enw Iesu cu gan seintiau is y nen, a holl aneirif luoedd nef, coronwch ef yn ben. Angylion glân, sy’n gwylio’n gylch oddeutu’i orsedd wen, gosgorddion ei lywodraeth gref, coronwch ef yn ben. Hardd lu’r merthyri, sydd uwchlaw erlyniaeth, braw a sen, â llafar glod ac uchel lef coronwch ef yn ben. Yr holl […]