Ewch allan mewn llawenydd ac mewn heddwch gwir, bloeddia’r bryniau a’r mynyddoedd foliant o’ch blaen chwi, a holl goed y maes gurant ddwylo ynghyd wrth foli’r Arglwydd Dduw: curo dwylo a wnânt i’r Arglwydd Dduw, curo dwylo a wnânt i’r Arglwydd Dduw, curo dwylo a wnânt i’r Arglwydd Dduw, yn llawen molant ef. STUART DAUERMANN […]
F’enaid mola Dduw! Dyrchafa’i enw Ef. F’enaid mola Dduw! Rhydd fywyd it o’r nef. (Grym Mawl 2: 11) Hawlfraint © Ateliers et Presses de Taize
F’enaid, cod, bendithia dy Greawdwr, Ef yw d’Arglwydd, Ef dy gyfaill triw; Araf i ddig, cyfoethog mewn trugaredd Mola dy Geidwad, Iesu. Brenin gras, a’i gariad anorchfygol Bara Byw, caf bopeth ynddo Fe; Cans ei waed a’m prynodd i’n dragywydd, Prynodd ar groes fy Iesu. A chanaf i tra byddaf byw Am ddyfod cariad nef […]
F’enaid, mola Dduw’r gogoniant, dwg dy drysor at ei draed; ti a brofodd ei faddeuant, ti a olchwyd yn y gwaed, moliant, moliant dyro mwy i’r gorau gaed. Mola ef, a’i rad drugaredd lifodd at ein tadau’n lli; mola ef, ei faith amynedd a’i dosturi atat ti; moliant, moliant, am ei ddoniau rhad, di-ri’. A […]
Fe atseinia’r dyffrynoedd a chân o fawl, Bydd y llew yn cydorwedd â’r oen. I’w lywodraeth ni bydd dim diwedd mwy, A’i ogoniant a leinw’r byd. Dy ewyllys wneir, A gwrandewir dy Air, Boed i’th Deyrnas di ddod yn ein plith. Mae ’na floedd drwy y tir wrth in ateb y gri, Clod i’r Brenin! […]
Fe brynaist ti a’th werthfawr waed, Rai o bob gwlad a llwyth ac iaith; Rhyddid o gaethiwed pechod du, Wedi’r bedd fe atgyfoda llu, I dragwyddol hedd: Teilwng yw yr Oen ar yr orsedd yn awr, O’r anrhydedd, gogoniant A’r nerth a’r holl fawl! Teilwng yw yr Oen ar yr orsedd yn awr, O’r anrhydedd, […]
DYNION: Fe ddaeth a fi at fyrddau ei fendith, MERCHED: Fe ddaeth a fi at fyrddau ei fendith, DYNION: Fe ddaeth a fi at fyrddau ei fendith, MERCHED: Fe ddaeth a fi at fyrddau ei fendith, PAWB: Baner cariad drosof fi roes Ef. DYNION: Eiddof fi f’anwylyd ac yntau fi, MERCHED: Eiddof fi f’anwylyd ac […]
Fe gyfaddefwn Iôr ein bod ni yn wan, O! mor wan, ond rwyt ti’n gryf; Ac er na feddwn ddim i roi wrth dy draed, Fe ddown atat ti, gan ddweud: ‘Helpa di ni.’ Fe gyfaddefwn… Calon doredig gydag ysbryd gwylaidd, Ni wrthodaist erioed; Fe gur dy galon gyda cherrynt cariad, Llifa’n afon fawr, drwy […]
Fe roddaist heibio orsedd nef, I gerdded llwybr tua’r bedd, Dioddef trais y rhai a greaist ac a geraist. Dygaist faich f’euogrwydd i – Marw ar groes, ond codaist ti; Nawr teyrnasu rwyt O’r nef yn ddyrchafedig. O galluoga fi i’th foli di, Prynaist fi a’th waed ar Galfari; Cyffesaf a charaf di’n dragwyddol. Ti […]
Fe roddodd ei hun, dioddefodd loes; Drosof fi bu farw ar y groes. Cariad a gras a nerth Ysbryd Duw; Bu farw Crist er mwyn im gael byw. Ie, calon o fawl sy’n canu y gân. Y galon o fawl a roddodd ar dân. Ie, calon o fawl rydd ei Ysbryd Glân, Fy nghalon o […]