(Salm 23) Yr Arglwydd yw fy Mugail da, diwalla f’eisiau i; rhydd orffwys im mewn porfa fras, caf rodio’n hedd y lli. Efe a ddychwel f’enaid blin, fe’m harwain i bob awr ‘r hyd llwybrau ei gyfiawnder pur, er mwyn ei enw mawr. Pe rhodiwn drwy y dyffryn du nid ofnwn ddim o’i fraw; fy […]
Yr hollalluog Dduw, ein Tad nefol, Fe bechasom yn d’erbyn Di Ac yn erbyn ein cyd-ddyn, Mewn meddwl, gair a gweithred, Trwy ddiofalwch, trwy wendid, A thrwy’n bai bwriadol ni. Mae yn ddrwg iawn gennym, Edifeiriol yw ein cri; Er mwyn enw dy Fab Iesu Grist Fu farw, Fu farw. Er mwyn i ni gael […]
Yr Iawn, anfeidrol gariad yw Efe, Fe roed digofaint Duw arno’n fy lle, Anfeidrol werth y gwaed gaf yma’i lawr, Neilltuol yw’r iachad i saint y llawr, Anfeidrol werth y gwaed gaf yma’i lawr, Neilltuol yw’r iachad i saint y llawr. Mae hyd a lled ei rîn yn fythol wyrdd Yr Iawn a roed i […]
Yr Iesu a deyrnasa’n grwn o godiad haul hyd fachlud hwn; ei deyrnas â o fôr i fôr tra byddo llewyrch haul a lloer. Teyrnasoedd, pobloedd o bob iaith, i’w gariad rhoddant foliant maith; babanod ifainc, llon eu llef yn fore a’i clodforant ef. Lle y teyrnaso, bendith fydd; y caeth a naid o’i rwymau’n […]
Yr Iesu atgyfododd yn fore’r trydydd dydd; ‘n ôl talu’n llwyr ein dyled y Meichiau ddaeth yn rhydd: cyhoedder heddiw’r newydd i bob creadur byw, er marw ar Galfaria fod Iesu eto’n fyw. Yr Iesu atgyfododd mewn dwyfol, dawel hedd, dymchwelodd garchar angau a drylliodd rwymau’r bedd; fe ddaeth ag agoriadau holl feddau dynol-ryw i […]
Yr Iesu’n ddi-lai a’m gwared o’m gwae; achubodd fy mywyd, maddeuodd fy mai; fe’m golchodd yn rhad, do’n wir, yn ei waed, gan selio fy mhardwn rhoes imi ryddhad. Fy enaid i sydd yn awr, nos a dydd, am ganmol fy Iesu a’m rhoddes yn rhydd: ffarwél fo i’r byd a’i bleser ynghyd; ar drysor […]
Ysbryd byw y deffroadau, disgyn yn dy nerth i lawr; rhwyga’r awyr â’th daranau, crea’r cyffroadau mawr; chwyth drachefn y gwyntoedd cryfion ddeffry’r meirw yn y glyn, dyro anadliadau bywyd yn y lladdedigion hyn. Ysbryd yr eneiniad dwyfol, dyro’r tywalltiadau glân, moes y fflam oddi ar yr allor, ennyn ynom sanctaidd dân; difa lygredd ein […]
Ysbryd Duw, tyrd chwytha arna’i nawr, Bywyd newydd rho i’m henaid i. Tyrd ac adnewydda ’nghalon friw Gyda phresenoldeb f’Arglwydd byw. Gwna i’th Air fywiogi mywyd i, Rho i’m ffydd i weld Dy law ar waith. Gwna fi’n danbaid dros dy burdeb llwyr, Ysbryd Duw tyrd, chwytha arna i. Ysbryd Duw, cartrefa ynof fi, Dangos […]
Ysbryd Glân y bywiol Dduw, Disgyn arnaf fi; Ysbryd Glân y bywiol Dduw, Disgyn arnaf fi; Rwyf am i ti ’meddiannu i. Ysbryd Glân fy Nuw, Disgyn arnaf fi. Paul Armstrong: Spirit of the Living God, cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones Hawlfraint © 1984 Restoration Music Ltd/Sovereign Music UK Grym mawl 1: 149
Ysbryd Glân, golomen nef, gwrando’n rasol ar ein llef; aethom yn wywedig iawn, disgyn yn dy ddwyfol ddawn. Oer ein serch, a gwan ein ffydd, ein Hosanna’n ddistaw sydd; tyred, tyred, Ysbryd Glân, ennyn ynom nefol dân. Er na haeddwn ni dy gael, eto ti wyt Ysbryd hael; tyred, tyred yn dy ras, maedda’n hanghrediniaeth […]