Fugail da, mae’r defaid eraill eto ‘mhell o’r gorlan glyd, crwydro’n glwyfus ar ddisberod maent yn nrysni’r tywyll fyd: danfon allan dy fugeiliaid, â’u calonnau yn y gwaith, er mwyn cyrchu’r rhai crwydredig o bellterau’r anial maith. Hiraeth cyrchu’r defaid eraill ynom ninnau elo’n fwy; dylanwadau d’Ysbryd gerddo ymhob eglwys drostynt hwy: yma, yn ein […]
Fy enaid, at dy Dduw, fel gwrthrych mawr dy gred, drwy gystudd o bob rhyw a phob temtasiwn, rhed; caf ganddo ef gysuron gwir, fwy nag ar foroedd nac ar dir. O na allwn roddi ‘mhwys ar dy ardderchog law, a gado i gystudd ddod oddi yma ac oddi draw, a byw dan nawdd y […]
Fy enaid, bendithia yr Arglwydd, a chofia’i holl ddoniau o hyd, maddeuodd dy holl anwireddau, iachaodd dy lesgedd i gyd; gwaredodd dy fywyd o ddistryw; â gras y coronodd dy ben, diwallodd dy fwrdd â daioni: atseinier ei fawl hyd y nen. Trugarog a graslawn yw’r Arglwydd, hwyrfrydig i lid i roi lle; nid byth […]
Fy enaid, gogonedda yr Arglwydd sy’n y nef, â’th ddoniau oll bendithia ei enw sanctaidd ef; mae’n llwyr ddileu dy gamwedd, mae’n abal i’th iacháu, dy wared o’th anwiredd mae’r Duw sy’n trugarhau. Yn eiddot mae bendithion di-drai yr uchel Iôr, tangnefedd fel yr afon, cyfiawnder fel y môr: daw rhiniol nerth y nefoedd i […]
Fy enaid, ymorffwys ar aberth y groes, ‘does arall a’th gyfyd o ddyfnder dy loes; offrymodd ei hunan yn ddifai i Dduw, yn haeddiant yr aberth mi gredaf caf fyw. Mae munud o edrych ar aberth y groes yn tawel ddistewi môr tonnog fy oes; mae llewyrch ei ŵyneb yn dwyn y fath hedd nes […]
Fy ffrind a’m Iôr Melysach serch na mêl, Fe’m cwrdd lle’r wyf yn awr. Beth alla’i wneud? Ymgrymaf ger dy fron, Dy wedd sy’n drech na mi. Fe alwaf Iôr ar d’enw di, Dy haeddiant yw y clod i gyd. A byddaf byw yn llwyr i ti – Dy haeddiant yw y clod i gyd. […]
Fy holl ffyrdd, ein holl bryd, Roedd ôl llaw Duw i’w weld yn hyn i gyd, Ond mynnom guddio Delw’r Duw a greodd lun ein byd: O! dychwel Dduw i’n ffordd o fyw. Trwy Dduw, trwy Dduw, Daw’r hen yn newydd trwy Dduw; Bu farw fy Iôr ar groes, Fe’m cymodwyd i: Daw’r hen yn […]
Fy Iesu, fe’th garaf, cans eiddof wyt ti; Deniadau fy mhechod – gwrthodaf eu cri; Fy ngrasol Waredwr, Ti yw fy Arglwydd mawr, Os bu imi’th garu erioed, caraf nawr. Fy Iesu, fe’th garaf cans Ti’m ceraist i, Gan brynu fy mhardwn ar groes Calfari; Am golli dy waed yn ddiferion coch i’r llawr Os […]
Fy Iesu yw fy Nuw, Fy Mrawd a’m Prynwr yw, Ffyddlonaf gwir; Arwain fy enaid wnaeth O’r gwledydd tywyll caeth, I wlad o fêl a llaeth, Paradwys bur. Efe a aeth o’m blaen, Trwy ddyfnder dŵr a thân, I’r hyfryd wlad; Mae’n eiriol yno’n awr O flaen yr orsedd fawr, Yn maddau bach a mawr […]
Fy Iesu yw fy Nuw, Fy noddfa gadarn gref; Ni fedd fy enaid gwan, Ddim arall dan y nef; Mae Ef ei Hun a’i angau drud, Yn fwy na’r nef, yn fwy na’r byd. Fy nymuniadau i gyd Sy’n cael atebiad llawn, A’m holl serchiadau ‘nghyd Hyfrydwch nefol iawn, Pan fyddwy’n gweld wrth olau’r wawr, […]