Nid oes ond f’Arglwydd mawr ei ddawn, A leinw f’enaid bach yn llawn, Ni allwn ddal dim mwy pe cawn, Mae Ef yn ddigon mawr: A digon, digon, digon yw Dy hyfryd bresenoldeb gwiw, Yn angau ceidw hyn fi’n fyw, A bodlon wyf yn awr. A phe diffoddai’r heulwen fawr, Pe syrthiai sêr y nen […]
(Rhinweddau enw Iesu) Nid oes pleser, nid oes tegan Nid oes enw mewn un man, Er ei fri a’i holl ogoniant, Fyth a lesia i’m henaid gwan Ond fy Iesu: Ef ei Hunan yw fy Nuw. Mae deng myrddiwn o rinweddau Dwyfol yn ei enw pur; Yn ei wedd mae tegwch ragor Nag a welodd […]
‘Calon Lân’ Nid wy’n gofyn bywyd moethus, aur y byd na’i berlau mân, gofyn ‘rwyf am galon hapus, calon onest, calon lân. Calon lân yn llawn daioni, tecach yw na’r lili dlos; dim ond calon lân all ganu, canu’r dydd a chanu’r nos. Pe dymunwn olud bydol chwim adenydd iddo sydd; golud calon lân, rinweddol […]
O agor fy llygaid i weled dirgelwch dy arfaeth a’th air, mae’n well i mi gyfraith dy enau na miloedd o arian ac aur-, y ddaear â’n dân, a’i thrysorau, ond geiriau fy Nuw fydd yr un; y bywyd tragwyddol yw ‘nabod fy Mhrynwr yn Dduw ac yn ddyn. Rhyfeddod a bery’n ddiddarfod yw’r ffordd […]
O am awydd cryf i feddu ysbryd pur yr addfwyn Iesu, ysbryd dioddef ymhob adfyd, ysbryd gweithio drwy fy mywyd. Ysbryd maddau i elynion heb ddim dial yn fy nghalon; ysbryd gras ac ysbryd gweddi dry at Dduw ymhob caledi. O am ysbryd cario beichiau a fo’n llethu plant gofidiau; ar fy ngeiriau a’m gweithredoedd […]
O am bara i uchel yfed o ffrydiau’r iachawdwriaeth fawr nes fy nghwbwl ddisychedu am ddarfodedig bethau’r llawr; byw dan ddisgwyl am fy Arglwydd, bod, pan ddêl, yn effro iawn i agoryd iddo’n ebrwydd a mwynhau ei ddelw’n llawn. Rhyfeddu wnaf â mawr ryfeddod pan ddêl i ben y ddedwydd awr caf weld fy meddwl […]
O am dafodau fil mewn hwyl i seinio gyda blas ogoniant pur fy Mhrynwr gwiw a rhyfeddodau’i ras. Fy ngrasol Arglwydd i a’m Duw, rho gymorth er dy glod i ddatgan mawl i’th enw gwiw drwy bobman is y rhod. Dy enw di, O Iesu mawr, a lawenycha’n gwedd; pêr sain i glust pechadur yw, […]
O am ddechrau blwyddyn newydd gyda Duw mewn mawl a chân; doed yn helaeth, helaeth arnom ddylanwadau’r Ysbryd Glân: bydded hon ymysg blynyddoedd deau law yr uchel Dduw; doed yr anadl ar y dyffryn nes bod myrdd o’r meirw’n fyw. Y mae hiraeth yn ein henaid am ymweliad oddi fry i gynhesu ein calonnau at […]
O am deimlo cariad Iesu yn ein tynnu at ei waith, cariad cryf i gadw’i eiriau nes in gyrraedd pen ein taith; cariad fwrio ofnau allan, drygau cedyrn rhagddo’n ffoi fel na allo gallu’r fagddu beri inni’n ôl i droi. Ennyn ynom flam angerddol o rywogaeth nefol dân fel y gallom ddweud yn ebrwydd – […]
O am dreiddio i’r adnabyddiaeth o’r unig wir a bywiol Dduw i’r fath raddau a fo’n lladdfa i ddychmygion o bob rhyw; credu’r gair sy’n dweud amdano a’i natur ynddo amlwg yw, yn farwolaeth i bechadur heb gael Iawn o drefniad Duw. Yn yr adnabyddiaeth yma mae uchel drem yn dod i lawr, dyn yn […]