Wele’r Athro mawr yn dysgu dyfnion bethau Duw; dwyfol gariad yn llefaru – f’enaid, clyw! Arglwydd, boed i’th eiriau groeso yn fy nghalon i; crea hiraeth mwy am wrando arnat ti. Dyro inni ras i orffwys ar dy nerth a’th ddawn; tyfu’n dawel yn dy Eglwys, ffrwytho’n llawn. NANTLAIS, 1874-1959 (© Yr Athro S. Nantlais […]
Wele’r dydd yn gwawrio draw, amser hyfryd sydd gerllaw; daw’r cenhedloedd yn gytûn i ddyrchafu Mab y Dyn. Gwelir teyrnas Iesu mawr yn ben moliant ar y llawr; gwelir tŷ ein Harglwydd cu goruwch y mynyddoedd fry. Gwelir pobloedd lawer iawn yn dylifo ato’n llawn; cyfraith Iesu gadwant hwy ac ni ddysgant ryfel mwy. Yna […]
Wrth ddyfod, Iesu, ger dy fron diolchwn yn yr oedfa hon am dy addewid rasol di i fod ymhlith y ddau neu dri. O fewn dy byrth mae nefol rin a heddwch i’n heneidiau blin, ac ennaint pêr dy eiriau di yn foddion gras i’r ddau neu dri. O tyred yn dy rym i’n plith […]
Wrth droi fy ngolwg yma i lawr i gyrrau’r holl greadigaeth fawr, gwrthrych ni wêl fy enaid gwan ond Iesu i bwyso arno’n rhan. Dewisais ef, ac ef o hyd ddewisaf mwy tra bwy’n y byd; can gwynfyd ddaeth i’m henaid tlawd – cael Brenin nefoedd imi’n Frawd. Fy nghysur oll oddi wrtho dardd; mae’n […]
Wrth dy orsedd ‘r wyf yn gorffwys, Llefain arnat fore a nawn, Am gael clywed llawn ddistawrwydd, Ar f’euogrwydd tanllyd iawn: A thangnefedd, Pur o fewn yn cadw’i le. ‘D oes ond gras yn eitha’i allu Ddaw â’m henaid i i’w le; Gras yn unig all fy nghadw O fewn muriau ‘i gariad E’: Uwchlaw […]
(Ymroddiad hollol i ddisgwyl wrth Dduw) Wrth dy orsedd ‘rwyf yn gorwedd, Disgwyl am y ddedwydd awr, Pryd gaf glywed llais gorfoledd, Pryd gaf weld fy meiau i lawr: Ti gei’r enw Am y fuddugoliaeth byth. Doed dy heddwch pryd y delo, Mi ddisgwyliaf ddydd a nos; Annherfynol ydyw haeddiant – Haeddiant pur dy angau […]
Wrth edrych, Iesu, ar dy groes, a meddwl dyfnder d’angau loes, pryd hyn ‘rwyf yn dibrisio’r byd a’r holl ogoniant sy ynddo i gyd. N’ad im ymddiried tra bwyf byw ond yn dy angau di, fy Nuw; dy boenau di a’th farwol glwy’ gaiff fod yn ymffrost imi mwy. Dyma lle’r ydoedd ar brynhawn rasusau […]
Wrth gofio d’air, fy Iesu glân, mawr hiraeth arnaf sy am ddod yn isel ger dy fron yn awr i’th gofio di. Dy gorff a hoeliwyd ar y pren yw bara’r nef i mi; dy waed sydd ddiod im yn wir, da yw dy gofio di. Wrth droi fy llygaid tua’r groes, wrth weled Calfarî, […]
Wrth gofio’i riddfannau’n yr ardd, a’i chwŷs fel defnynnau o waed, aredig ar gefn oedd mor hardd, a’i daro â chleddyf ei Dad, a’i arwain i Galfari fryn, a’i hoelio ar groesbren o’i fodd; pa dafod all dewi am hyn? Pa galon mor galed na thodd? THOMAS LEWIS, 1760-1842 (Caneuon Ffydd 519)
Wrth gofio’r Jeriwsalem fry, Y ddinas, preswylfa fy Nuw, Y saint a’r angylion y sy Yn canu caniadau bob rhyw; Yn honno mae ‘nhrysor i gyd, Cyfeillion a brodyr o’r bron, Hiraetha fy nghalon o hyd An fyned yn fuan i hon. Er gofid a blinder o hyd, A rhwystrau bob munud o’r awr, Gelynion […]