Torrwn y bara i rannu o gorff Crist yn awr. (Dynion) Torrwn y bara i rannu o gorff Crist yn awr. (Merched) Ry’m ni yn llawer, ond un yw’r corff, Ac felly’n bwyta a rhannu o’r un dorth. (Ailadrodd) Yfwn o gwpan cyfamod trugaredd ein Duw. (Dynion) Yfwn o gwpan cyfamod trugaredd ein Duw. (Merched) […]
Tra bo adduned dau heb golli lliwiau’r wawr a’n cymod yn parhau o hyd yn drysor mawr, O Dduw ein Iôr, rho inni ffydd i gadw’r naws o ddydd i ddydd. Tra bo anturiaeth serch yn llawn o’r gobaith glân, a delfryd mab a merch yn troi yn felys gân, rho help i ni, O […]
Ti’n cynnig rhyddid A bywyd llawn, Ti yn drugarog, Ti’n obaith pur, Ti’n hoffi maddau Ein beiau lu, Ti’n cynnig popeth sydd Ar fy nghyfer i. Er mod i’n diodde’ A chwympo’n fyr, Yn profi c’ledi Tu yma i’r nef, Dros dro yn unig Mae’r bywyd hwn, Cyn nefol wynfyd Sydd yn para byth. Tro […]
Tôn: Elliot (Caneuon Ffydd 219) Yn wylaidd trown atat, ein Harglwydd, i ddiolch am allwedd i’th wledd, y wledd a bar’towyd i ddeiliaid sy’n chwennych dy gariad a’th hedd; pan lethwn dan bwysau gofalon, fe ddeui i’w cario o’th fodd; yn nyddiau o golled a hiraeth estynni dy gysur yn rhodd. Yn eiddgar trown atat, […]
Trosom ni, gwaedaist ti. Tro’n calonnau ni at eraill, Trwy dy gariad di: Clwyfwyd rhai gan drais a geiriau, Rho dy ras yn lli. Tro’n calonnau ni ’wrth ddicter At dy heddwch pur: Wedi gwaedu, buost farw Er mwyn difa cur. Tro galonnau’r cenedlaethau Fel yr unem ni Yn bartneriaid yn dy Deyrnas Wrth in […]
[Hebreaid 4:14-16, Alaw: Deio Bach] Pan mae pobl yn dy wrthod Cofia Iesu ar y groes Pan mae eraill yn dy wawdio Cofia iddo ddioddef loes. Cariodd Ef ein holl fethiannau, Teimlodd Ef y poen i gyd; Archoffeiriad ydyw’r Iesu Gyd-ddioddefa â’n gwendid ni. Pan mae bywyd yn dy brofi Dal dy afael yn dy […]
Trwy d’Ysbryd heddiw awn i’th dŷ â moliant llawn, O Dad pob dawn, clodforwn di: daioni fel y môr sy’n llifo at bob dôr, o ras ein Iôr, i’n heisiau ni. Dy holl weithredoedd rydd eu cân i Dduw bob dydd a moliant sydd ym mhyrth dy saint; trugaredd yn dy dŷ yn well na’r […]
Trwy ddirgel ffyrdd mae’r uchel Iôr yn dwyn ei waith i ben; ei lwybrau ef sydd yn y môr, marchoga wynt y nen. Ynghudd yn nwfn fwyngloddiau pur doethineb wir, ddi-wall, trysori mae fwriadau clir: cyflawnir hwy’n ddi-ball. Y saint un niwed byth ni chânt; cymylau dua’r nen sy’n llawn trugaredd, glawio wnânt fendithion ar […]
Trwy drugaredd, Arglwydd, Trwy dy ras, Tywallt d’ennaint Di Arnom ni nawr. Tynn fi’n ddyfnach, Arglwydd, Mwy bob dydd, Yn llif dy Ysbryd caf D’ewyllys Di. Tyred Ysbryd Glân, Tyred Ysbryd Glân, Tynn fi’n nes at Iesu yr Oen. Greg Leavers: By your mercy, Cyfieithiad Awdurdodedig: Cass Meurig © Greg Leavers
Trwy dy gariad gwiw dy farn ateliaist. Trwy dy gariad gwiw, datguddiaist dy ras. Dioddef poen a gwawd, marw ar groesbren, Trwy dy gariad gwiw, maddeuaist im. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, Out of your great love: Patricia Morgan © 1986 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. Gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac […]