Wrth dy orsedd ‘r wyf yn gorffwys, Llefain arnat fore a nawn, Am gael clywed llawn ddistawrwydd, Ar f’euogrwydd tanllyd iawn: A thangnefedd, Pur o fewn yn cadw’i le. ‘D oes ond gras yn eitha’i allu Ddaw â’m henaid i i’w le; Gras yn unig all fy nghadw O fewn muriau ‘i gariad E’: Uwchlaw […]
(Ymroddiad hollol i ddisgwyl wrth Dduw) Wrth dy orsedd ‘rwyf yn gorwedd, Disgwyl am y ddedwydd awr, Pryd gaf glywed llais gorfoledd, Pryd gaf weld fy meiau i lawr: Ti gei’r enw Am y fuddugoliaeth byth. Doed dy heddwch pryd y delo, Mi ddisgwyliaf ddydd a nos; Annherfynol ydyw haeddiant – Haeddiant pur dy angau […]
Wrth edrych, Iesu, ar dy groes, a meddwl dyfnder d’angau loes, pryd hyn ‘rwyf yn dibrisio’r byd a’r holl ogoniant sy ynddo i gyd. N’ad im ymddiried tra bwyf byw ond yn dy angau di, fy Nuw; dy boenau di a’th farwol glwy’ gaiff fod yn ymffrost imi mwy. Dyma lle’r ydoedd ar brynhawn rasusau […]
Wrth gofio d’air, fy Iesu glân, mawr hiraeth arnaf sy am ddod yn isel ger dy fron yn awr i’th gofio di. Dy gorff a hoeliwyd ar y pren yw bara’r nef i mi; dy waed sydd ddiod im yn wir, da yw dy gofio di. Wrth droi fy llygaid tua’r groes, wrth weled Calfarî, […]
Wrth gofio’i riddfannau’n yr ardd, a’i chwŷs fel defnynnau o waed, aredig ar gefn oedd mor hardd, a’i daro â chleddyf ei Dad, a’i arwain i Galfari fryn, a’i hoelio ar groesbren o’i fodd; pa dafod all dewi am hyn? Pa galon mor galed na thodd? THOMAS LEWIS, 1760-1842 (Caneuon Ffydd 519)
Wrth gofio’r Jeriwsalem fry, Y ddinas, preswylfa fy Nuw, Y saint a’r angylion y sy Yn canu caniadau bob rhyw; Yn honno mae ‘nhrysor i gyd, Cyfeillion a brodyr o’r bron, Hiraetha fy nghalon o hyd An fyned yn fuan i hon. Er gofid a blinder o hyd, A rhwystrau bob munud o’r awr, Gelynion […]
Wrth orsedd y Jehofa mawr plyged trigolion byd i lawr; gwybydded pawb mai ef sy Dduw, yr hwn sy’n lladd a gwneud yn fyw. Â’i ddwyfol nerth, fe’n gwnaeth ei hun o bridd y ddaear ar ei lun; er in, fel defaid, grwydro’n ffôl, i’w gorlan ef a’n dug yn ôl. I’th byrth â diolch-gân […]
Wrth rodio gyda’r Iesu ar y daith, mae’r ofnau yn diflannu ar y daith; mae gras ei dyner eiriau, a golau’r ysgrythurau, a hedd ei ddioddefiadau ar y daith, yn nefoedd i’n heneidiau ar y daith. Wrth rodio gyda’r Iesu ar y daith, ein calon sy’n cynhesu ar y daith: cawn wres ei gydymdeimlad, a’n […]
Wyddoch chwi pwy wnaeth yr haf? Neb ond Duw, neb ond Duw. Pwy a wnaeth y tywydd braf? Neb ond Duw, neb ond Duw. Wyddoch chwi pwy wnaeth y glaw? Neb ond Duw, neb ond Duw. Pwy wnaeth fôr sy’n ‘mestyn draw? Neb ond Duw, neb ond Duw. Wyddoch chwi pwy wnaeth y byd? Neb […]
Wyddwn i fyth dy fod ti’n fy ngharu Union fel hyn, Wyddwn i fyth dy fod ti’n fy nerbyn Union fel hyn, Credwn fod ffìn yn rhywle oedd rhaid imi’i osgoi, Ond yn lle hynny mae ‘na foroedd o gariad di-derfyn. Cytgan: Mor bell ag yw’r dwyrain o’r gorllewin, Mor bell ag yw’r gogledd o’r […]