Molwch enw Iesu, Molwch enw lesu, Ef yw’n Craig, Ef yw’n noddfa, Ef yw’n Gwaredwr, ac mae’n haeddu pob clod. Molwch enw lesu. Roy Hicks: Praise the name of Jesus cyfieithiad awdurdodedig: anad. © Latter Rain Music/Word Music (UK) 1975 Gwein. Gan Copycare (Grym mawl 1: 139)
Molwch yr Arglwydd o’r nefoedd. Bloeddiwch ei enw o’r mynyddoedd. Molwch e, ei holl fyddinoedd. Yr Arglwydd yw ein Duw Nawr ac am byth bythoedd. Fe greodd yr haul, y sêr, a’r lleuad, Bloeddiwch ei enw yr holl ddaear. Cytgan Dewch ynghyd, bob plentyn ac oedolyn, A phob anifail, o’r neidr i’r aderyn, Pawb ar […]
Mor beraidd i’r credadun gwan yw hyfryd enw Crist: mae’n llaesu’i boen, yn gwella’i glwy’, yn lladd ei ofnau trist. I’r ysbryd clwyfus rhydd iachâd, hedd i’r drallodus fron; mae’n fanna i’r newynog ddyn, i’r blin, gorffwysfa lon. Hoff enw! fy ymguddfa mwyn fy nghraig a’m tarian yw; trysorfa ddiball yw o ras i mi […]
Mor werthfawr, o Dduw, Yw dy drugaredd di; Fe locheswn o dan dy adenydd cu. O Arglwydd Iesu, sy’n ein digoni yn dy dŷ, Fe yfwn o ddyfroedd pur dy ras. Can’s ti ydyw ffynnon y bywyd, Ynot ti’n bywheir ni. A ti yw goleuni y bywyd, Trwot ti ’gwelwn ni. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, […]
N’ad im fodloni ar ryw rith o grefydd, heb ei grym, ond gwir adnabod Iesu Grist yn fywyd annwyl im. Dy gariad cryf rho’n f’ysbryd gwan i ganlyn ar dy ôl; na chaffwyf drigfa mewn unman ond yn dy gynnes gôl. Goleuni’r nef fo’n gymorth im, i’m tywys yn y blaen; rhag imi droi oddi […]
Ni all angylion pur y nef, Â’u doniau amal hwy, Fyth osod allan werthfawr bris Anfeidrol ddwyfol glwy’. Dioddefodd angau, dygyn boen, A gofir tra fo’r nef, Fy nerth, fy nghyfoeth i a’m braint, A’m noddfa lawn yw Ef. Fe’m denodd i, yn ddirgel iawn A distaw, ar ei ôl; Ac mewn afonydd dyfnion lawn, […]
Ni welodd llygad dyn erioed, ni chlywodd clust o dan y rhod am neb cyffelyb iddo ef: O Rosyn Saron hardd ei liw: pwy ddyd i maes rinweddau ‘Nuw? Efe yw bywyd nef y nef. O f’enaid, edrych arno nawr, yn llanw’r nef, yn llanw’r llawr; yn holl ogoniant dŵr a thir; nid oes, ni […]
Ni wn paham fod gwrthrych mawl Angylion Yn rhoi ei fryd ar achub dynol ryw; Pam bu i’r Bugail geisio yr afradlon I’w gyrchu adref ‘nôl i gorlan Duw? Ond hyn a wn, ei eni Ef o Forwyn, A phreseb Bethlem roddwyd iddo’n grud, A rhodiodd isel lwybrau Galilea, Ac felly rhoddwyd Ceidwad, Ceidwad gwiw […]
Nid ar fore hafddydd tawel gwelwyd Iesu’n rhodio’r don, ond ar noswaith o gyfyngder pan oedd pryder dan bob bron; ni fu nos na thywydd garw allsai gadw f’Arglwydd draw: ni fu neb erioed mor isel na châi afael yn ei law. Ganol nos pan oedd mewn gweddi cofiai am eu gofid hwy; mae yn […]
Nid gosgordd na brenhinol rwysg Gaed i Frenin Nef, Na gwylnos weddi dan y sêr Ar ei farw Ef; Na baner bri ar hanner mast Er gwarth y Groes, Na blodau’n perarogi’r ffordd Arweiniai at Ei fedd ar y Pasg cyntaf un. Dim torchau’n deyrnged ar y llawr – Gwatwar milwyr gaed, A dim ond […]