Mae croeso i’w deyrnas i blant bach o hyd, Agorodd ei fynwes i’w derbyn i gyd : Gadewch i blant bychain Ddod ataf-medd ef; Cans eiddo y cyfryw Yw Teyrnas y Nef. Cytgan: Mae’r Iesu yn derbyn Plant bychain o hyd, Hosanna i Enw Gwaredwr y byd. Pan oedd yn mynd heibio i’r ddinas neu’r […]
Mae dy waed yn fy nghlanhau, Mae dy waed yn rhoi bywyd im, Mae dy waed, dy werthfawr waed, Wedi ’mhrynu i yn rhydd A’m golchi i’n lân fel eira gwyn, eira gwyn. Fy lesu yn aberth drosof fi. It’s your blood, Michael Christ. Cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones © Mercy Publishing/Thankyou Music 1985 Gwein. gan […]
Mae enw Calfari, Fu gynt yn wradwydd mawr, Yn ngolwg f’enaid i Yn fwy na’r nef yn awr: O! ddedwydd fryn, sancteiddiaf le, Dderbyniodd ddwyfol waed y ne’! ‘R wy’n caru’r hyfryd awr, Mi gara’r hyfryd le, Mi garaf bren y groes ’Fu ar ei ysgwydd E: Wel dyma ’Nuw a dyma ’Mhen, Ac oll […]
Mae enw Crist i bawb o’r saint fel ennaint tywalltedig, ac yn adfywiol iawn ei rin i’r enaid blin, lluddedig. Pan fyddo f’enaid yn y llwch, a th’wyllwch fel y fagddu, mae dawn a nerth i’m dwyn yn ôl yn enw grasol Iesu. Gobeithiwch ynddo, bawb o’r saint, er cymaint yw eich gofid, gan wybod […]
Mae enw Iesu Grist i mi Mor fwyn a llais o’r nef, Mae’n gwneud i’m henaid roddi llam – Ei hyfryd enw Ef. O! Enw’r Iesu, hyfryd yw; Enw fy Mhrynwr i a’m Duw; Enw sy’n gwneud i’m lawenhau Yw hyfryd enw Crist. Mae’n sôn am gariad Un a ddaeth I farw i’m rhyddhau, […]
Mae fy enaid am ehedeg O’r anialwch tywyll du I ardaloedd perffaith gariad, Mynwes T’wysog nefoedd fry; Gweld ei wedd, profi ei hedd, Nefoedd yw tu yma i’r bedd. Os edrychaf tua’r gogledd, Edrych eilwaith tua’r de, Nid wy’n canfod dim i’w brisio Megis ei ffyddlondeb E’; Pleser llawn, yma gawn, Pur, sylweddol, fore a […]
Mae fy meiau fel mynyddoedd Amlach hefyd yw eu rhi’ Nag yw gwlith y bore wawrddydd, Nag yw sêr y nefoedd fry: Gwaed fy Arglwydd Sydd yn abl i olchi ‘mai. Golchi’r ddu gydwybod aflan Lawer gwynnach eira mân; Gwneud y brwnt, gan’ waith ddifwynodd Yn y domen, fel y gwlân: Pwy all fesur Lled […]
Mae fy nghalon i yn eiddo llwyr i ti: Iesu, arwain fi ar lwybrau Duw. Mae fy nghalon i yn eiddo llwyr i ti: Rhof fy hun yn aberth sanctaidd byw. DYNION Ac fe addolaf fi, MERCHED Fe addolaf fi. DYNION A chanaf am dy gariad di, MERCHED Canaf am dy gariad di, DYNION A […]
[Philipiaid 3:12-14, Alaw: Mae nghariad i’n fenws] Mae Iesu’n fy ngharu, mae’n dweud hynny’n glir; Nid wyf yn ei haeddu, ond dyna yw’r gwir. Pa ots am farn eraill? Pa ots beth yw’r si? Dim ond barn fy Iesu sy’n cyfrif i mi. Rwy’n werthfawr i Iesu; ei drysor wyf fi. Mi dalodd bris uchel […]
Mae ‘nghalon i yn llawn edmygedd I ti fy Nuw, fy Mrenin mawr; Dy fawredd di yw fy ysgogiad, Geiriau dy ras yw alaw’r gân o’m mewn. O garu’r da, ac nid drygioni – Fe rydd dy Dduw dy wobr i ti, Ac ar dy ben, rhydd olew sanctaidd A thaenu persawr dros dy […]