Iesu, pwy all fod yn fwy na thi? Iesu, ti yw ‘ngobaith i, Iesu’ ti yw ‘mywyd i, Iesu, fy nghyflawnder i, Iesu, caraf di. Iesu, daethost gynt i’n daear ni, gwisgo cnawd a wnaethost ti, yn ddibechod rhodiaist ti er mwyn dod i’n hachub ni, Iesu, caraf di. Iesu, gwrando ar fy egwan gri, […]
Iesu, ti yw disgleirdeb Duw yn y gogoniant, Ti yw y Mab ac etifedd pob peth, Yr Un grëodd ein byd. Ti sydd yn cynnal y cwbl oll Drwy dy nerthol air. Puraist ni o’n beiau i gyd, Ac fe esgynaist i’r nef, Esgynaist i’r nef I ddeheulaw Duw. (Tro olaf) Dyrchafedig mewn gogoniant, […]
Iesu, ti yw ffynnon bywyd, bywyd dedwydd i barhau; pob rhyw gysur is y nefoedd ynot ti dy hun y mae: ni all croes na gwae na chystudd wneuthur niwed iddynt hwy gafodd nerth i wneud eu noddfa yn dy ddwyfol, farwol glwy’. Dring, fy enaid, i’th orffwysfa uwch y gwynt tymhestlog, oer, maes o […]
Iesu, Ti’n disgleirio yn d’ogoniant, breichiau led y pen agored; Ti yw Brenin daear gyfan ac yn Arglwydd ar fy nghalon. Golau sydd yn tywallt allan, pelydr yn cludo’r cyfan Popeth y mae arnaf angen ddaw i’m meddiant o dy galon Di. Tyrd lawr i deyrnasu ar y ddaear – defnyddia ein doniau ni, Mae […]
Iesu, tyrd i’r canol Yn ein hoedfa ar y llawr, Bydd yn hardd gytundeb Wrth i’n llygaid gwrdd yn awr, O Iesu, fe’th garwn, felly down ynghyd, Ein calonnau una nawr a dryllia’n hofnau i gyd. Atat ti y deuwn O bob gwlad ar draws y byd, Crist yw’r cariad rhyngom Wrth in afael dwylo […]
’Dwi wedi bod yn dilyn Y byd a’i addewidion, Ond dim ond ti sydd yn bodloni Y gwagle yn fy nghalon. ’Dwi’n dal ymlaen i ymladd, i geisio cael f’ewyllys i. Ond dim ond pan ‘dwi’n rhoi fy mywyd Y byddaf fi’n ei ffeindio hi. Deled dy deyrnas, Gwneler dy ewyllys. Cytgan ’Dwi’n ildio f’oll […]
Mi glywaf lais sy’n galw f’enaid aflan, Gras a gwirionedd sy’n ei eiriau byw, Mae’n fy ngwahodd i’w ddilyn Ef i’w gorlan, Rwy’n ei adnabod, llais fy Mugail yw. Cytgan: Fy Mugail i, fy Mugail i, fy Mugail i, Rwy’n ei adnabod, llais – llais fy Mugail i. Pan fyddo’r nos yn ddu, a’r byd […]
Lle bynnag wyt, O Grist, mae bywyd pur ei flas, mae ysbryd yno’n rym a gloyw ffrydiau gras; mae yno fwynder hedd i gyfoethogi’n byw: lle bynnag wyt, O Grist, cawn weled ŵyneb Duw. Lle bynnag wyt, O Grist, symudir baich ein bai, bydd sanctaidd olau’r nef ar wedd yr addfwyn rai; cawn weld yr […]
Mae carcharorion angau yn dianc o’u cadwwynau, a’r ffordd yn olau dros y bryn o ddyfnder glyn gofidiau; cyhoedder y newyddion a gorfoledded Seion, mae’r Iesu ar ei orsedd wen, ac ar ei ben bo’r goron! Cynefin iawn â dolur fu’r Iesu yn fy natur, gogoniant byth i’w enw ef am ddioddef dros bechadur: yn […]
Mae cariad Crist uwchlaw pob dawn, pwy ŵyr ei lawn derfynau? Ni chenfydd llygad cerwb craff na seraff ei fesurau. Mae hyd a lled ei gariad ef uwch nef y nef yn llifo, a dyfnach yw na llygredd dyn, heb drai na therfyn arno. Mae’r hyd a’r lled a’r dyfnder maith mewn perffaith gydweithrediad i’w […]