logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Nid yn fy eiddo oll mae ’ngwerth

[Pennill 1] Nid yn fy eiddo oll mae ’ngwerth Nac yn fy ngallu, bri, na’m nerth, Ond yng nghlwyfau costus cariad pur Ar y groes. [Pennill 2] Fy ngwerth, nid dawn nac enw yw Nac ymffrost, gwarth na’m ffordd o fyw, Ond yn Ei waed a lifodd gynt Ar y groes. [Cytgan] Llawenhau wnaf yn […]

  • Rhys Llwyd,
  • September 29, 2021

O Iôr, fy Nghraig a fy Ngwaredwr

[Pennill 1] O Iôr, fy Nghraig a fy Ngwaredwr Trysor mwyaf i fy enaid sych Fy Nuw, i Ti does neb yn debyg Ynot Ti yn unig mae mwynhad Dy ras, rhy ddwfn i ni ei blymio Dy serch, helaethach yw na’r nef Gwirionedd, ffynnon pob doethineb F’angen di-ddiwedd a fy ngorau i [Pennill 2] […]

  • Rhys Llwyd,
  • September 29, 2021

Pa gariad Dduw

Pennill 1 Pa gariad Dduw, a’th ddenodd di i lawr Pa frenin fynnai’i eni ar y llawr Ac eto daethost i le’r gwyll a’r braw A chysgu dan y sêr a wnaed â’th law Pennill 2 Pa gariad Dduw anfonodd Fab y Dyn I dderbyn gwarth, yn wrthodedig un I ti gael deall am fy […]

  • Rhys Llwyd,
  • January 19, 2022

Pwy Wyt Ti i Mi

Pennill 1 Mae rhai yn sôn dy fod ymhell, dim ond geiriau mewn rhyw lyfr Yn ddim byd mwy na chwedlau basiwyd lawr o oes i oes Ond fe holltaist Ti y dyfroedd Pan allai neb fy nhynnu i o’r dwfn Dyna pwy wyt Ti Pennill 2 Mae rhai yn dweud dy fod yn byw […]

  • Rhys Llwyd,
  • September 29, 2021

Rho im dy hedd

Pennill 1 Mae’r storm tu fewn ar fin fy llethu i Ble af i nawr? Mae’r pwysau’n ormod im Rhag-Gorws Dwed nawr wrth y môr sy’n rhuo’n wyllt ynof fi Fy holl bryderon, fe ildiaf nawr i Ti Corws Rwy’n rhoi pob baich wrth Dy draed Cymer nhw, cymer nhw Rhof f’ofnau it am Dy […]

  • Rhys Llwyd,
  • January 19, 2022

Rho imi galon o gariad

Rho imi galon o gariad, Gofal dros rai sydd ar goll. Rho imi faich dros y rhai sydd yn isel a thrist. Arglwydd, rwy’n awchus a pharod I helpu’r tlawd ym mhob man. Tro eiriau ‘nghân yn weithredoedd o gymorth i’r gwan. Ac eneinia dy weision, eneinia dy weision, I ddweud am Grist, pregethu Crist. […]


Rhy ryfeddol

Pennill 1 Ti ydy awdur ’mywyd i Rwyt ti o ’mlaen i a’r tu ôl – i mi Cyn cymryd gwynt, tu hwnt i’m bedd Rwyt ti gyda mi bob cam I dragwyddoldeb Corws Dim lle i guddio, nac i ffoi Y mae‘r gwyll yn olau nawr O’r mannau isaf i foliant fry Rwyt yn […]

  • Rhys Llwyd,
  • May 10, 2023

Rwy’n Dewis Moli

Pennill 1 Rwy’n dewis moli a phlygu lawr Er bod poen yn yr offrwm hwn Fe’i hildiaf nawr Yma’n y frwydr, ac amau’n llu Er bod f’enaid i ar chwâl Dy ddewis wnaf Corws Ac mi folaf drwy y fflamau Drwy y storm a thrwy y lli’ Does ’na ddim byd allai byth â dwyn […]

  • Rhys Llwyd,
  • September 29, 2021

Rwyf yn ildio

Pennill 1 Dyma fi Lawr ar fy ngliniau nawr Yn ildio i Ti Yn ildio i Ti Pennill 2 Chwilia fi Arglwydd, Ti’n tynnu fi’n nes (Mae’n) rhaid im dy gael Rhaid im dy gael Rwyf yn ildio Pennill 3 Golcha fi Yn dy dosturiol ras Rwy’n ysu am fwy Rwy’n ysu am fwy Pennill […]

  • Rhys Llwyd,
  • January 19, 2022

Rwyt yn Sofran Drosom Ni

Pennill 1 Mae ‘na gryfder yn y tristwch A hyfrydwch yn ein cri Ti’n dod atom yn ein galar Gyda chariad trech nag ofn Pennill 2 Rwyt yn gweithio yn ein haros Rwyt ti’n sancteiddio ni Ti’n ein dysgu i ymddiried Tu hwnt i’n deall ni Cytgan Dy gynllun yw ein ffyniant Ti heb ein […]

  • Rhys Llwyd,
  • September 29, 2021