logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Arglwydd da ’rwyt yma

Arglwydd da ’rwyt yma Yn ein plith ni, D’ogoniant sydd o’n cylch. Rho i’m glust i wrando, Par i’m weld dy wyneb. Dy gwmni yw yr ateb I ddyhead f’enaid i. Fe ganaf gân o fawl i ti’r Goruchaf, Cans ti yw’r un sy’n deilwng. Yn gaeth un waith, ond rhydd wyf nawr. Dy deyrnas […]

  • Gwenda Jenkins,
  • April 3, 2015

Arglwydd, clyw

Arglwydd, clyw, O! maddau i ni. Nid oes parch i ti fel bu, Cyffeswn, cyffeswn. Pura ni, Mae’n c’lonnau mor llygredig. Ble mae’r ffydd fu gennym gynt? Hiraethwn, hiraethwn. Tyrd, Ysbryd Glân, Adnewydda Eglwys Crist. Chwyth Nefol Wynt, Rho ddiwygiad eto’i Gymru – Deffra ni drachefn, Deffra ni drachefn. Steve Fry (O Lord hear, O Lord […]


Ar adegau fel hyn

Ar adegau fel hyn y canaf fy nghân, Y canaf fy nghân serch i Iesu. Ar adegau fel hyn fe godaf ddwy law, Fe godaf ddwy law ato Ef. Canaf ‘Fe’th garaf di,’ Canaf ‘Fe’th garaf di.’ Canaf ‘Iesu, fe’th garaf, Fe’th garaf di.’ David Graham (In moments like these), Cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones © […]


Anadla, anadl Iôr

Anadla, anadl Iôr, Llanw fy mywyd i, Fel byddo ‘nghariad i a’m gwaith Yn un a’r eiddot ti. Anadla, anadl Iôr, Rho imi galon bur, A gwna f’ewyllys dan dy law Yn gadarn fel y dur. Anadla, anadl Iôr, Meddianna fi yn lân, Nes gloywi fy naearol fryd A gwawl y dwyfol dân. Anadla, anadl […]


Ai ni yw’r bobl welant deyrnas Dduw yn dod

Ai ni yw’r bobl welant deyrnas Dduw yn dod, Pan ddaw pob gwlad ynghyd i’w foli? Un peth sy’n siŵr – ry’m ni yn llawer nes yn awr; Symudwn ‘mlaen gan wasanaethu. Mae’n ddyddiau o gynhaeaf, Dewch galwn blant ein hoes I adael y tywyllwch, Credu’r neges am ei groes. Awn ble mae Duw’n ein […]


Ai gwir y gair fod elw i mi

Ai gwir y gair fod elw i mi Yn aberth Crist a’i werthfawr loes? A gollodd ef ei waed yn lli Dros un a’i gyrrodd Ef i’w groes? Ei gariad tra rhyfeddol yw, Fy Nuw yn marw i mi gael byw. Mor rhyfedd fu rhoi Duw mewn bedd, Pwy all amgyffred byth ei ffyrdd? Y […]


Addolwn Dduw! Safwn yma o’i flaen

Addolwn Dduw! Safwn yma o’i flaen; Gofalu mae, ac fe’th ddeall di. Tyrd Ysbryd Glân i ddwyn ffrwyth ynom ni – Gras, cariad, hedd lifa’n rhydd. Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd yw ein Duw. (Cytganau ychwanegol) Teilwng …   ; Ffyddlon …; Cadarn (Grym Mawl 1: 184) John Watson (Worship the Lord) cyf. Arfon Jones © Ampelos Music/ […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 30, 2015

Addolaf di y dwyfol air

Addolaf di y dwyfol air, Hollalluog Dduw. O Grist y groes, Dywysog hedd Ti yw’r Oen sydd eto’n fyw, Canmolaf di, Ti yw fy nghyfiawnder i. Addolaf di, fy lesu cu, Sanctaidd Oen, Fab Duw. Sondra Corbett (I worship you Almighty God) , Cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones © 1986 Integrity’s Hosanna! Music/Sovereign Music UKP O […]


Arglwydd, maddau in mor dlodaidd

Arglwydd, maddau in mor dlodaidd fu ein diolch am bob rhodd ddaeth o’th ddwylo hael i’n cynnal fel dy bobol wrth dy fodd: yn dy fyd rhown ynghyd ddiolch drwy ein gwaith i gyd. Arglwydd, maddau’n difaterwch at ddiodde’r gwledydd draw lle mae’r wybren glir yn felltith a’r dyheu am fendith glaw: lle bo loes […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 30, 2015

A wyt ti’n un i fentro

A wyt ti’n un i fentro y cyfan oll i gyd? A fentret ti dy enaid i rywun yn y byd? Fe fentrais i fy enaid i Dduw y byd a’r nef, a mentrais dragwyddoldeb ar ei addewid ef. A fentri di y cyfan oll ar gariad Duw a’i air di-goll? A wyt ti’n un […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 30, 2015