Ysbryd yr Arglwydd Mae Ysbryd yr Arglwydd arnaf fi, ei law ef a’m tywys am ymlaen; danfonodd fi i rannu’r newydd da a seinio nodyn gobaith yn fy nghân. Fe’m galwodd i gyhoeddi’r newydd da fod cyfoeth gwir ar gael i deulu’r tlawd, ac am ein bod drwy Grist yn blant i Dduw […]
Mi benderfynais i ddilyn Iesu, mi benderfynais i ddilyn Iesu, mi benderfynais i ddilyn Iesu, heb droi yn ôl, heb droi yn ôl. Y byd o’m cefn a’r groes i’m harwain, y byd o’m cefn a’r groes i’m harwain, y byd o’m cefn a’r groes i’m harwain, heb droi yn ôl, heb droi yn ôl. […]
Mawl i Dduw am air y bywyd, gair y nef yn iaith y llawr, gair y cerydd a’r gorchymyn, gair yr addewidion mawr; gair i’r cadarn yn ei afiaith, gair i’r egwan dan ei bwn, cafodd cenedlaethau daear olau ffydd yng ngeiriau hwn. Traetha hwn am ddeddfau’r Arglwydd a gwynfydau Mab y Dyn, am yr […]
Mawrygwn di, O Dduw, am bob celfyddyd gain, am harddwch ffurf a llun, am bob melyster sain: ti’r hwn sy’n puro ein dyheu, bendithia gamp y rhai sy’n creu. Mawrygwn di, O Dduw, am ein treftadaeth hen, am rin y bywyd gwâr ac am drysorau llên: ti’r hwn sy’n puro ein dyheu, bendithia gamp y […]
Mae’r gaeaf ar fy ysbryd, O Dad o’r nef, ‘rwy’n erfyn am dy wanwyn, erglyw fy llef; O achub fi rhag oerfel fy mhechod cas a dwg fi i gynhesrwydd dy nefol ras. Mae’r byd yn llanw ‘nghalon, drugarog Dduw, ‘rwy’n erfyn am dy Ysbryd, fy ngweddi clyw; lladd ynof bob dyhead sy’n llygru ‘mryd, […]
Mae’r nos yn fwyn ym Methlehem a chlyd yw’r gwely gwair, mae’r llusern fach yn bwrw gwawl dros wyneb baban Mair. O’r dwyrain pell daw doethion dri i geisio Brenin nef gan roi yr aur a’r thus a’r myrr yn offrwm iddo ef. Ar faes y preiddiau dan y sêr yn hedd y dawel nos […]
Molwn di, O Dduw’r canrifoedd, am bob crefft ac am bob dawn a fu’n harddu temlau’r ddaear, a fu’n rhoi hyfrydwch llawn; arddel yma waith dy bobol, boed pob ymdrech er dy glod, llanw’r fangre â’th ogoniant drwy’r holl oesau sydd yn dod. Molwn di, O Iôr ein tadau, am i ninnau weld y tir […]
Mae’r lle sancteiddiolaf yn rhydd, Fe rwygodd f’Anwylyd y llen, A Haul y Cyfiawnder y sydd Yn golau’r holl nefoedd uwchben; Mae’r dyrfa’n anfeidrol o faint, Ac eto ni welaf mo’r un – Angylion, seraffiaid na saint – Neb fel fy Anwylyd ei Hun. ‘D oes mesur amseroedd byth fry, Dim oriau cyffelyb i’r byd; […]
Mi debygaf clywaf heddiw Sŵn caniadau draw o bell, Torf yn moli am waredigaeth, Ac am ryddid llawer gwell; Gynau gwynion yw eu gwisgoedd, Palmwydd hyfryd yn eu llaw, A hwy ânt gyd â gogoniant Mewn i’r bywyd maes o law. Minnau bellach orfoleddaf Fod y Jiwbil fawr yn dod, A chyflawnir pob rhyw sillaf […]
Marchog, Iesu, yn llwyddiannus, Gwisg dy gleddau ‘ngwasg dy glun; Ni all daear dy wrth’nebu, Chwaith nac uffern fawr ei hun: Mae dy enw mor ardderchog, Pob rhyw elyn gilia draw; Mae dy arswyd drwy’r greadigaeth; Tyrd am hynny maes o law. Tyn fy enaid o’i gaethiwed, Gwawried bellach fore ddydd, Rhwyga’n chwilfriw ddorau Babel, […]