Rhyddid sydd i gaethion byd; A gwir oleuni; Gogoniant yn lle lludw, A mantell hardd o fawl. Hyder yn lle’r c’wilydd sydd; Cysur yn lle galar. Eneiniaf chi ag olew, Symudaf eich holl boen. Ac fe roddaf wir foliant; Mawl yn lle tristwch ac ofn; A mantell gan Dduw yn lle galar a th’wyllwch du. […]
Fe roddodd i mi fantell o fawl I guddio fy ysbryd trist a llesg. Fe roddodd i mi fantell o fawl I guddio fy ysbryd trist a llesg. Fe roddodd… Fe roes im goron lle buodd lludw, Ac olew gwerthfawr yn lle’r holl alar; O gorfoleddaf! Yn fodlon rhof fy hun i Dduw. Fe roddodd… […]
Achubodd fi – clywodd Ef fy nghri, A’m rhoi ar Graig sydd yn uwch na mi; A rhoddodd gân yn fy nghalon i. Haleliwia! Achubodd fi. Llawenydd pur sy’n gorlifo A heddwch dwfn sy’n ddi-drai. Caf rannu ei gyfiawnder Ef – Maddeuodd Ef fy mai. Daw breichiau’r Tad i’m cofleidio, Daw’r Ysbryd Glân i’m bywhau. […]
Da yw Duw! Da bob dydd! Fe roddodd gân o fawl yn fy nghalon i; Da yw Duw, da bob dydd, Try dywyllwch nos yn olau dydd; Da yw Duw, da yw Duw, da bob dydd. Pan yn cerdded yn y dyffryn A rhyw gysgodion dros y lle, Nid oes ofn, Duw sy’n arwain, Rwyt […]
Duw, fe’th folwn, ac addolwn, Ti ein Iôr a thi ein Rhi; Brenin yr angylion ydwyt, Arglwydd, fe’th addolwn di. Dengys dy holl greadigaeth Dy ogoniant di-lyth; Canant ‘Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd’ Hollalluog, Dduw dros byth! Apostolion a phroffwydi, Saint a roes y byd ar dân, Llu merthyron aeth yn angof, Unant oll mewn nefol gân; […]
Duw lefarodd drwy’r proffwydi – Digyfnewid Air roes Ef – Trwy yr oesoedd yn cyhoeddi Arglwydd cyfiawn, Duw y nef; Tra terfysga byd di-obaith Angor sicr ddeil yn dynn: Duw sydd ar ei orsedd gadarn, Cyntaf, olaf, unig Un. Duw lefarodd trwy yr Iesu: Crist, tragwyddol Fab o’r nef; Gwir ddisgleirdeb y gogoniant, Un â’r […]
Dos rhagot cân, o deffro eglwys Dduw, Aed iachawdwriaeth i’r cenhedloedd gwyw; Cyhoeddwch Grist yn frenin, Geidwad mad, A chaner clodydd iddo ym mhob gwlad. Dos rhagot cân, fe’n câr ni oll bob un, Trwy ras fe etyb galwad pob rhyw ddyn; Pa fodd y galwant oni chlywsant air Gwahoddiad grasol Iesu faban Mair? Dos […]
Er yr holl ofid sy’n llethu fy myd Mae Enw Iesu’n fwy nerthol; Er yr holl ofn a’r amheuon i gyd, Mae Enw Iesu’n fwy nerthol; Grymoedd sy’n bygwth dinistrio ein ffydd, Wrth enw Iesu, sy’n colli’r dydd; Gwag grefyddoldeb yn fethiant a fydd, Mae enw yr Iesu’n fwy nerthol. Iesu, dy enw sy’n gryf […]
Pa fawredd yw’r gogoniant hwn Ddewisodd ddod yn ddim? Cyfnewid gwychder nef y nef Am fyd mor dlawd a llwm. Daeth Duw yn un ohonom ni Tu hwnt i ddeall dyn; Rhyfeddu mwy a wnaf bob tro Y clywa’ i’r hanes hwn. Beth wnaf ond plygu glin; Addolaf ger dy fron A dyfod fel yr […]
Os ffydd sy’n symud mynydd, Symud nawr i ni. Down yma yn ddisgwylgar Disgwyl ‘mdanat ti, disgwyl ‘mdanat ti. Ti yw Arglwydd yr holl Gread ac eto’n ʼnabod i. Ie, Awdur ein hachubiaeth, Yr un â’n carodd ni. Disgwyl ʼmdanat ti Dyma ni (â’n) dwylo fry mewn mawl. Ti yw’r un garwn ni – Canwn […]