Iesu ei hun yw ngobaith i Ei Waed sydd yn fy angori Does dim i’w roi gan ddynolryw Yn enw Iesu nawr rwy’n byw. Iesu Grist, Ein hangor ni Y meirw caiff fyw, Trwy gariad Crist, Trwy y Storm Ef yw’r Iôr, Iôr dros oll. Pan rwyf yn baglu yn y ras Mi godaf eto […]
Pwy all ddal y moroedd yn ei law? Pwy all gyfri pob un gronyn baw? Daw brenhinoedd, crynant ger ei fron, Creadigaeth Duw yn dathlu’n llon. Hwn yw ein Duw ar ei orsedd fry! Deuwch ac addolwn! Hwn yw yr Iôr – Brenin yr holl fyd! Deuwch ac addolwn! Pwy all gynnig cyngor iddo ef? […]
Ŵr clwyfedig, Oen fy Nuw Gwrthodedig Un; Holl bechod dyn a llid y Tad Ar ysgwydd Iesu gwyn. Heb ‘run gair fe aeth i’r prawf Drwy y gwawd a’r loes Ildio’n llwyr i lwybr Duw Dan goron ddrain a chroes. Croes fy Iesu sy’n iachawdwriaeth Llifodd cariad ataf fi Cân fy enaid nawr, haleliwia Clod […]
Teilwng, rwyt Ti’n deilwng Tu hwnt i’m meddyliau i Ni alla i ddychmygu Beth yw maint d’ogoniant Di Ni alla i byth ddechrau dweud Mor ddwfn yw’th gariad di Clywais Iôr amdanat Ti Ond nawr mi welaf i. Ti’n deilwng Ti’n deilwng Ti’n deilwng Ti’n deilwng o bob clôd Byth bythoedd ac am oes. Rhof […]
Yng Nghrist ei Hun mae ‘ngobaith i, Ef yw fy haul, fy nerth, fy nghân; Mae’n gonglfaen, mae’n dir mor gryf, Craig yw i mi mewn dŵr a thân. Ei gariad pur, Ei heddwch mawr, ‘Does ofn i mi nac ymdrech nawr! Fy nghysur yw, fy oll yn oll, Yng nghariad Crist mae’n sicrwydd i. […]
O am weld y wawr ar y t’wyllaf ddydd; Crist ar ei ffordd i Galfari. Barnwyd gan y byd Yna’i guro’n friw A’i roi ar groes o bren, O’r fath rym – grym y Groes Oen ein Duw’n diodde loes. Dig y nef arno ef, I’n gael maddeuant wrth ei groes. O am weld y […]
Dros fynydd mawr a moroedd maith Rhed afon cariad ataf i Agoraf ddrysau nghalon gaeth Derbyn ei iachawdwriaeth Ef. Rwy’n hapus i fod yn y gwir Dyrchafaf nwylo’n ddyddiol fry A chanaf byth am ddyfod cariad Duw i lawr. Canaf am gariad fy Nuw byth bythoedd Canaf am gariad fy Nuw byth bythoedd Canaf am […]
Oleuni’r byd, Daethost lawr i’r tywyllwch – Agor fy llygaid i weld Harddwch dy wedd sy’n rhoi gwefr i’m henaid, Ti yw fy mywyd a’m nerth. A dyma fi’n d’addoli, Dyma fi’n ymgrymu, Dyma fi’n cyffesu, “Ti yw Nuw”; Rwyt ti mor ddyrchafedig, O! mor fendigedig, Arglwydd, mor garedig – ‘rwyt mor driw. Frenin brenhinoedd […]
Hanesyddol yw y dydd, Trechwyd angau – Ti achubodd fi Canwn Glod, Iesu sydd yn fyw. Croes Calfaria yr ogof wag Hyd y diwedd – enillaist bopeth i’m Llawenhawn, Iesu sydd yn fyw. Mae yn fyw… Ac O! Llawenhawn, llawenhawn Ces i faddeuant llawn O! Llawenhawn, llawenhawn Maddeuant ganddo Ef Byth bythoedd gydag Ef Wrth […]
Arglwydd Dduw, ti a wnaeth y ddaear A’r nef drwy d’allu mawr. Arglwydd Dduw, Ti a wnaeth y ddaear A’r nef drwy dy ddwyfol fraich. ‘Does dim sy’n rhy anodd i Ti, ‘Does dim sy’n rhy anodd i Ti, O nerthol, fywiol Dduw, Mawr dy gyngor a chryf yn dy waith, ‘Does dim, na dim, […]