Bugail f’enaid yw’r Goruchaf, ni bydd mwyach eisiau arnaf; ef a’m harwain yn ddiogel i’r porfeydd a’r dyfroedd tawel. Dychwel f’enaid o’i grwydriadau, ac fe’m harwain hyd ei lwybrau; ar fy nhaith efe a’m ceidw yn ei ffyrdd, er mwyn ei enw. Yn ei law drwy’r glyn y glynaf, cysgod angau mwy nid ofnaf; pery’r […]
Haleliwia! Haleliwia! Seinier mawl i’r uchel Dduw; ef yw Brenin y brenhinoedd, Arglwydd yr arglwyddi yw: pwysa eangderau’r cread byth ar ei ewyllys gref; ein gorffwysfa yw ei gariad: Haleliwia! Molwn ef. Haleliwia! Haleliwia! Gwylio mae bob peth a wnaed; cerdd mewn nerth drwy’r uchelderau a’r cymylau’n llwch ei draed: ynddo mae preswylfa’r oesau, dechrau […]
O Dduw a Llywydd oesau’r llawr, Preswylydd tragwyddoldeb mawr, ein ffordd a dreiglwn arnat ti: y flwyddyn hon, O arwain ni. Mae yn dy fendith di bob pryd ddigon ar gyfer eisiau’r byd; drwy’r niwl a’r haul, drwy’r tân a’r don, bendithia ni y flwyddyn hon. Na ad, O Dduw, i droeon oes wneud inni […]
Molianned uchelderau’r nef yr Arglwydd am ei waith, a cherdded sŵn ei foliant ef drwy’r holl ddyfnderau maith. Canmoled disglair sêr di-ri’ ddoethineb meddwl Duw, ac yn ein dagrau dwedwn ni mai doeth a chyfiawn yw. Am ei sancteiddrwydd moler ef gan gôr seraffiaid fyrdd; atebwn ninnau ag un llef mai sanctaidd yw ei ffyrdd. […]
Nefol Dad, mae eto’n nosi, gwrando lef ein hwyrol weddi, nid yw’r nos yn nos i ti; rhag ein blino gan ein hofnau, rhag pob niwed i’n heneidiau, yn dy hedd, O cadw ni. Cyn i’r caddug gau amdanom taena d’adain dyner drosom, gyda thi tawelwch sydd; yn dy gariad mae ymgeledd, yn dy fynwes […]
Arglwydd, mae yn nosi, gwrando ar ein cri; O bererin nefol, aros gyda ni. Llosgi mae’n calonnau gan dy eiriau di; mwy wyt ti na’th eiriau, aros gyda ni. Hawdd, wrth dorri’r bara, yw d’adnabod di; ti dy hun yw’r manna, aros gyda ni. Pan fo’n diwrnod gweithio wedi dod i ben, dwg ni i […]
Ymgrymwn ger dy fron ti Dduw ein tadau; O llanw’r oedfa hon â’th ddylanwadau: o blith teganau ffôl i wres dy gynnes gôl O galw ni yn ôl o’n holl grwydriadau. Allorau fwy na mwy gaed ar ein llwybrau, a rhoesom arnynt hwy ein hebyrth gorau: ond trodd addoli’r byd yn golled drom i gyd; […]
Daeth eto fore Saboth, boed arnom yn dy dŷ brydferthwch dy sancteiddrwydd a’r llewyrch oddi fry; dy air y bore cyntaf aeth drwy y gwagle’n wawr: tywynna arnom ninnau, O Arglwydd, yma nawr. Daeth eto fore Saboth, O Iesu, rho i ni gael blas ar wrando’r ddameg, fel gynt ar lân y lli; awelon Galilea […]
Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd, Arglwydd mawr y byd Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd, pawb a’i mawl ynghyd. Heb ddechreuad iddo, y tragwyddol Fod, ef sy’n llywodraethu popeth is y rhod. Cariad, nerth, rhyfeddod dry o’i amgylch ef, molwch yn dragwyddol Arglwydd daer a nef. C. G. Cairns cyf. E. Cefni Jones, 1871-1972 (Caneuon Ffydd 987)
Duw pob gras a Duw pob mawredd, cadarn fo dy law o’n tu; boed i’th Eglwys wir orfoledd a grymuster oddi fry: rho ddoethineb, rho wroldeb, ‘mlaen ni gerddwn oll yn hy. Lluoedd Satan sydd yn ceisio llwyr wanhau ein hegwan ffydd; ofnau lawer sy’n ein blino, o’n caethiwed rho ni’n rhydd: rho ddoethineb, rho […]