Ynghanol nos, oleuni mwyn y nef, O arwain fi; mae’n dywyll iawn, a minnau ‘mhell o dref, O arwain fi; O cadw ‘nhraed, ni cheisiaf weled mwy i ben y daith: un cam a bodlon wy’. Bu amser na weddïwn am dy wawr i’m harwain i; chwenychwn gael a gweld fy ffordd: yn awr O […]
Mi godaf f’egwan lef at Iesu yn y nef, a rhoddaf bwys fy enaid dwys i orffwys arno ef; caf ynddo ras o hyfryd flas a mwyn gymdeithas Duw; ei nerth a rydd yn ôl y ddydd, ei olau sydd ar lwybrau ffydd: ‘rwyf beunydd iddo’n byw. Mae ei ddiddanwch drud yn difa sŵn y […]
Canaf am yr addewidion: ar fy nhaith lawer gwaith troesant yn fendithion. Ni fu nos erioed cyn ddued nad oedd sêr siriol Nêr yn y nef i’w gweled. Yn yr anial mwyaf dyrys golau glân colofn dân ar y ffordd ymddengys. Yng nghrastiroedd Dyffryn Baca dyfroedd byw ffynnon Duw yno’n llyn a’m llonna. I ddyfnderoedd […]
Myfi’r pechadur penna’, fel yr wyf, wynebaf i Galfaria fel yr wyf; nid oes o fewn yr hollfyd ond hwn i gadw bywyd; ynghanol môr o adfyd, fel yr wyf, mi ganaf gân f’Anwylyd fel yr wyf. Mae’r Oen fu ar Galfaria wrth fy modd, Efengyl a’i thrysorau wrth fy modd: mae llwybrau ei orchmynion […]
Cymer, Arglwydd, f’einioes i i’w chysegru oll i ti; cymer fy munudau i fod fyth yn llifo er dy glod. Cymer di fy nwylo’n rhodd, fyth i wneuthur wrth dy fodd; cymer, Iôr, fy neudroed i, gwna hwy’n weddaidd erot ti. Cymer di fy llais yn lân, am fy Mrenin boed fy nghân; cymer fy […]
Dof fel yr wyf, ‘does gennyf fi ond dadlau rhin dy aberth di, a’th fod yn galw: clyw fy nghri, ‘rwy’n dod, Oen Duw ‘rwy’n dod. Dof fel yr wyf, ni thâl parhau i geisio cuddio unrhyw fai; ond gwaed y groes all fy nglanhau: ‘rwy’n dod, Oen Duw ‘rwy’n dod. Dof fel yr wyf, […]
Ni allodd angau du ddal Iesu’n gaeth ddim hwy na’r trydydd dydd – yn rhydd y daeth; ni ddelir un o’i blant er mynd i bant y bedd, fe’u gwelir ger ei fron yn llon eu gwedd. O Dduw, dod imi ffydd, bob dydd o’r daith weld Seion yn nesáu dros fryniau maith: yn Ben […]
Gwnes addunedau fil i gadw’r llwybyr cul ond methu ‘rwy’; Breswylydd mawr y berth, chwanega eto nerth i ddringo’r creigiau serth heb flino mwy. Gelynion lawer mil sy oddeutu’r llwybyr cul a minnau’n wan; dal fi â’th nerthol law rhag cwympo yma a thraw: ymhob rhyw drallod ddaw bydd ar fy rhan. Er nad wyf […]
Am fod fy Iesu’n fyw, byw hefyd fydd ei saint; er gorfod dioddef poen a briw, mawr yw eu braint: bydd melus glanio draw ‘n ôl bod o don i don, ac mi rof ffarwel maes o law i’r ddaear hon. Ac yna gwyn fy myd tu draw i’r byd a’r bedd: caf yno fyw […]
Dy garu di, O Dduw, dy garu di, yw ‘ngweddi tra bwyf byw, dy garu di; daearol yw fy mryd: O dyro nerth o hyd, a mwy o ras o hyd i’th garu di. Fy olaf weddi wan fo atat ti, am gael fy nwyn i’r lan i’th gartref di; pan fwyf yn gado’r byd, […]