Yn y dyfroedd mawr a’r tonnau, nid oes neb a ddeil fy mhen ond fy annwyl Briod Iesu a fu farw ar y pren: cyfaill yw yn afon angau, ddeil fy mhen i uwch y don; golwg arno wna im ganu yn yr afon ddofon hon. O anfeidrol rym y cariad, anorchfygol ydyw’r gras, digyfnewid […]
Bydd yn wrol, paid â llithro, er mor dywyll yw y daith y mae seren i’th oleuo: cred yn Nuw a gwna dy waith. Er i’r llwybyr dy ddiffygio, er i’r anial fod yn faith, bydd yn wrol, blin neu beidio: cred yn Nuw a gwna dy waith. Paid ag ofni’r anawsterau, paid ag ofni’r […]
O am deimlo cariad Iesu yn ein tynnu at ei waith, cariad cryf i gadw’i eiriau nes in gyrraedd pen ein taith; cariad fwrio ofnau allan, drygau cedyrn rhagddo’n ffoi fel na allo gallu’r fagddu beri inni’n ôl i droi. Ennyn ynom flam angerddol o rywogaeth nefol dân fel y gallom ddweud yn ebrwydd – […]
Yn dy waith y mae fy mywyd, yn dy waith y mae fy hedd, yn dy waith yr wyf am aros tra bwy’r ochor hyn i’r bedd; yn dy waith ar ôl mynd adref drwy gystuddiau rif y gwlith: moli’r Oen fu ar Galfaria – dyma waith na dderfydd byth. EVAN GRIFFITHS, 1795-1873 (Caneuon Ffydd 734)
Anghrediniaeth, gad fi’n llonydd, onid e mi godaf lef o’r dyfnderoedd, lle ‘rwy’n gorwedd, i fyny’n lân i ganol nef; Brawd sydd yno’n eiriol drosof, nid wy’n angof nos na dydd, Brawd a dyr fy holl gadwynau, Brawd a ddaw â’r caeth yn rhydd. ‘Chydig ffydd, ble ‘rwyt ti’n llechu? Cymer galon, gwna dy ran; […]
Anfon, Arglwydd, dy oleuni ar y dyfroedd tywyll, du sydd â’u cerrynt yn cydgroesi gan fy mwrw o bob tu; dyro, Arglwydd, fraich cynhaliaeth, rho dy nerth i achub un na all nofio eiliad arall yn ei fymryn nerth ei hun. Methu credu geiriau dynion, gweld eu hanwadalwch hwy; chwerwi wrth wendidau eraill, gweld fy […]
Dal fi’n agos at yr Iesu er i hyn fod dan y groes; tra bwy’n byw ym myd y pechu canlyn dani bura f’oes; os daw gofid a thywyllwch, rho im argyhoeddiad llwyr – wedi’r nos a’r loes a’r trallod, bydd goleuni yn yr hwyr. Dysg im edrych i’r gorffennol, hyn a ladd fy ofnau […]
O ddedwydd awr tragwyddol orffwys oddi wrth fy llafur yn fy rhan yng nghanol môr o ryfeddodau heb weld terfyn byth na glan; mynediad helaeth byth i bara o fewn trigfannau Tri yn Un, dŵr i’w nofio heb fynd drwyddo, dyn yn Dduw, a Duw yn ddyn. Melys gofio y cyfamod draw a wnaed gan […]
Er mai cwbwl groes i natur yw fy llwybyr yn y byd ei deithio wnaf, a hynny’n dawel yng ngwerthfawr wedd dy ŵyneb-pryd; wrth godi’r groes ei chyfri’n goron mewn gorthrymderau llawen fyw, ffordd yn union, er mor ddyrys, i ddinas gyfaneddol yw. Ffordd a i henw yn “Rhyfeddol” hen, a heb heneiddio yw; ffordd […]
O am bara i uchel yfed o ffrydiau’r iachawdwriaeth fawr nes fy nghwbwl ddisychedu am ddarfodedig bethau’r llawr; byw dan ddisgwyl am fy Arglwydd, bod, pan ddêl, yn effro iawn i agoryd iddo’n ebrwydd a mwynhau ei ddelw’n llawn. Rhyfeddu wnaf â mawr ryfeddod pan ddêl i ben y ddedwydd awr caf weld fy meddwl […]