Mor beraidd i’r credadun gwan yw hyfryd enw Crist: mae’n llaesu’i boen, yn gwella’i glwy’, yn lladd ei ofnau trist. I’r ysbryd clwyfus rhydd iachâd, hedd i’r drallodus fron; mae’n fanna i’r newynog ddyn, i’r blin, gorffwysfa lon. Hoff enw! fy ymguddfa mwyn fy nghraig a’m tarian yw; trysorfa ddiball yw o ras i mi […]
At un sy’n gwrando gweddi’r gwan ‘rwyf yn dyrchafu ‘nghri; ymhob cyfyngder, ing a phoen, O Dduw, na wrthod fi. Er mor annheilwng o fywynhau dy bresenoldeb di, a haeddu ‘mwrw o ger dy fron, O Dduw, na wrthod fi. Pan fo ‘nghydnabod is y nen yn cefnu arna’ i’n rhi’, a châr a chyfaill […]
Gad in fod yn olau clir i’r cenhedloedd, yn olau clir i holl bobloedd daear lawr nes y gwelo’r byd ogoniant d’enw mawr, O llewyrcha drwom ni. Gad in ddod â gobaith d’Air i’r cenhedloedd, y Gair sy’n fywyd i bobloedd daear lawr, nes y gwypo’r byd fod achubiaeth ynot ti, Gair maddeuant, drwom ni. […]
O’r nef y daeth, Fab di-nam, i’r byd yn dlawd heb feddu dim, i weini’n fwyn ar y gwan, ei fywyd roes i ni gael byw. Hwn yw ein Duw, y Brenin tlawd, fe’n geilw oll i’w ddilyn ef, i fyw bob dydd fel pe’n anrheg wiw o’i law: fe roddwn fawl i’r Brenin tlawd. […]
Frenin nef, addolwn Frenin nef, boed gogoniant, anrhydedd, mawl iddo ef: Frenin nef, llifa’i awdurdod ef o’i orsedd fry, fe’i rhoir i ni, mawl fo ein llef! Plygwn lawr, dyrchafwn nawr hardd enw Iesu, iddo ef dyrchafwn lef, Grist Iesu ein Brenin: Frenin nef, addolwn Frenin nef, marw wnaeth ef, nawr mae’n y nef, addolwn […]
O llawenhewch! Crist sydd ynom, mae gobaith nefoedd ynom ni: mae’n fyw! mae’n fyw! mae’i Ysbryd ynom, O codwn nawr yn fyddin, codwn ni! Fe ddaeth yr amser inni gerdded drwy y tir, fe rydd i ni bob man sethrir dan ein traed. Marchoga mewn gogoniant, concrwn wrth ei ddilyn ef; fe wêl y byd […]
Hyfryd lais Efengyl hedd sydd yn galw pawb i’r wledd; mae gwahoddiad llawn at Grist, oes, i’r tlawd newynog, trist; pob cyflawnder ynddo cewch; dewch â chroeso, dlodion, dewch. Cyfod, Haul Cyfiawnder llon, cyfod dros y ddaear hon; aed dy lewyrch i bob gwlad, yn dy esgyll dwg iachâd; dos ar gynnydd, nefol ddydd, doed […]
Mae llais y gwyliwr oddi draw yn dweud bod bore llon gerllaw: cymylau’r nos sy’n cilio ‘mhell o flaen goleuni dyddiau gwell, a daw teyrnasoedd daear lawr i gyd yn eiddo’n Harglwydd mawr. Y dwyrain a’r gorllewin sydd o’u rhwymau blin yn dod yn rhydd, ac unir de a gogledd mwy drwy ryfedd rinwedd marwol […]
Helaetha derfynau dy deyrnas a galw dy bobol ynghyd, datguddia dy haeddiant anfeidrol i’r eiddot, Iachawdwr y byd; cwymp anghrist, a rhwyga ei deyrnas, O brysied a deued yr awr, disgynned Jerwsalem newydd i lonni trigolion y llawr. Eheda, Efengyl, dros ŵyneb y ddaear a’r moroedd i gyd, a galw dy etholedigion o gyrrau eithafoedd […]
O agor fy llygaid i weled dirgelwch dy arfaeth a’th air, mae’n well i mi gyfraith dy enau na miloedd o arian ac aur-, y ddaear â’n dân, a’i thrysorau, ond geiriau fy Nuw fydd yr un; y bywyd tragwyddol yw ‘nabod fy Mhrynwr yn Dduw ac yn ddyn. Rhyfeddod a bery’n ddiddarfod yw’r ffordd […]