Orchfygwr angau, henffych well! Pan ddrylliaist byrth y bedd ar ofnau dynion torrodd gwawr, anadlodd awel hedd. Gan iti ennill mwy na’r byd yn rhodd i’th annwyl rai, ym mhebyll Seion pâr yn awr i filoedd lawenhau. Rho heddiw i rai ofnus, hedd; y llwythog esmwythâ; o garchar pechod tyrfa fawr, i glod dy ras, […]
Os caf yr Iesu’n rhan o dan bob croes, a rhodio yn ei hedd hyd ddiwedd oes, anghofiaf boenau’r daith, pob gwaith fydd yn fwynhad; caf brofi’r hedd sydd fry yn nhŷ fy Nhad. Ond cael yr Iesu’n rhan daw’r cyfan im; pob bendith ynddo gaf, ni chollaf ddim: ni raid im fynd ar ôl […]
Os gofyn rhywun beth yw Duw, atebwn ni mai cariad yw: fe fflamiodd cariad Tri yn Un yn rhyfedd at annheilwng ddyn. Nid dim rhinweddau ynom ni na dim a wnaed ar Galfarî fu’n achos iddo garu dyn, fe’i carodd er ei fwyn ei hun. Fe’n carodd, ac fe’n câr o hyd, ymhob rhyw drallod […]
Os gwelir fi bechadur, ryw ddydd ar ben fy nhaith rhyfeddol fydd y canu a newydd fydd yr iaith yn seinio buddugoliaeth am iachawdwriaeth lawn heb ofni colli’r frwydyr na bore na phrynhawn. Fe genir ac fe genir yn nhragwyddoldeb maith os gwelir un pererin mor llesg ar ben ei daith a gurwyd mewn tymhestloedd […]
Os heddwch fel afon sy’n canlyn fy nhroed, Neu dristwch fel ymchwydd y lli – Beth bynnag a ddaw, Ti a’m dysgaist i ddweud “Diogel wyf, diogel wyf gyda Thi.” Diogel wyf gyda Thi, Diogel wyf, diogel wyf gyda Thi. Mae Satan yn brwydro a rhwystrau yn dod, Ond methant ddarostwng fy nghri Fod Crist […]
Os Iesu Grist yn dlawd a ddaeth heb le i roi’i ben i lawr, ai gormod yw i’r fynwes hon roi cartref iddo nawr? Os gwawdiwyd enw Iesu gynt gan ei elynion cas, ai gormod i’w gyfeillion hoff yw canmol gwaith ei ras? Os dygodd Iesu addfwyn faich euogrwydd mawr ein bai, ai gormod yw […]
Os yw tegwch d’ŵyneb yma yn rhoi myrdd i’th garu nawr, beth a wna dy degwch hyfryd yna’n nhragwyddoldeb mawr? Nef y nefoedd a’th ryfedda fyth heb drai. Pa fath uchder fydd i’m cariad, pa fath syndod y pryd hyn, pryd y gwelwyf dy ogoniant perffaith, llawn ar Seion fryn? Anfeidroldeb o bob tegwch maith […]
Pa bryd y cedwi’r bobol, drugarog Dduw, pa bryd? Nid mawrion, heb y miloedd, nid beilchion, ond y byd: blodau dy galon yw’r rhai hyn; gânt hwy ddiflannu megis chwyn heb weled gwawr o obaith gwyn? Duw gadwo’r bobol! Gaiff trosedd fagu trosedd a’r cryf gryfhau o hyd? A fynni di i lafur fyth gynnal […]
Pa fawredd yw’r gogoniant hwn Ddewisodd ddod yn ddim? Cyfnewid gwychder nef y nef Am fyd mor dlawd a llwm. Daeth Duw yn un ohonom ni Tu hwnt i ddeall dyn; Rhyfeddu mwy a wnaf bob tro Y clywa’ i’r hanes hwn. Beth wnaf ond plygu glin; Addolaf ger dy fron A dyfod fel yr […]
Pa feddwl, pa ‘madrodd, pa ddawn, pa dafod all osod i maes mor felys, mor helaeth, mor llawn, mor gryf yw ei gariad a’i ras? Afonydd sy’n rhedeg mor gryf na ddichon i bechod na bai wrthsefyll yn erbyn eu llif a’u llanw ardderchog di-drai. Fel fflamau angerddol o dân yw cariad f’Anwylyd o hyd; […]