Bendithia ni, Iachawdwr hael, cyn mynd yn awr o’r demel hon, a phâr i bawb o’th weision gael dy nefol hedd o dan eu bron; trwy oriau’n hoes, yn angau du, O Iesu da, bydd gyda ni. Aeth heibio’r dydd a’i oriau’n llwyr, a gwelaist, Iôr, bob peth a fu; ein mynych gwymp tydi a’i […]
Bendithia’r Arglwydd, fy enaid i, bendithia’r Arglwydd, fy enaid i, bendithia’r Arglwydd, fy enaid i. SALM 103:1 addas. MEURIG THOMAS (Caneuon Ffydd 233)
Bendithiaist waith ein dwylo, coronaist lafur dyn, dy dirion drugareddau gyfrennaist i bob un; rhoist had yn llaw yr heuwr, rhoist i’r medelwr nerth i gasglu’r trugareddau sydd inni’n gymaint gwerth. Rheolaist y cymylau, y glaw, y gwynt a’r gwres; y ddaear gras a’r awyr dyneraist er ein lles: am lawnder dy fendithion heb ball […]
Yn ceisio bendith Yn ceisio hedd Cysur i’m teulu, diogelwch yn y nos Yn ceisio iechyd A llewyrch nawr Yn ceisio nerth dy law i esmwythau ein cur A thrwy hyn oll, ti’n gwrando ar bob gair Ac yn dy gariad di, ti’n gwybod yn well Os trwy dreialon daw dy fendith Os trwy ein […]
Beth yw mesur glas y nen? Beth yw maint y sêr uwchben? Dweud mae’r bydoedd yn dy glyw, blentyn bach, mor fawr yw Duw. Beth yw iaith y blodau fyrdd wena yn y meysydd gwyrdd? Dweud mae’r blodau teg eu lliw, blentyn bach, mor hardd yw Duw. Beth yw iaith y meysydd ŷd, coed yr […]
Beth yw’r cwmwl gwyn sy’n esgyn o’r Olewydd tua’r nef? Cerbyd Brenin y gogoniant sydd yn ymdaith tua thref; ymddyrchefwch, sanctaidd byrth y ddinas wen. Beth yw’r disgwyl sy ‘Nghaersalem? Beth yw’r nerthol sŵn o’r nef? Atsain croeso’r saith ugeinmil i’w ddyrchafael rhyfedd ef. Diolch iddo, y mae’r Pentecost gerllaw. At y lliaws yng Nghaersalem, […]
Boed i Dduw roi i ni yn ôl cyfoeth ei rym, Gryfder nerthol drwy’r ysbryd i’n person ni, Ac i Grist wneud ei gartref yn ein calon ni, Ac i ni ddod i wybod faint mae o’n ein caru ni! Cytgan Beth yw’r uchder? [codi breichiau] Beth yw’r dyfnder? [breichiau i lawr] Beth yw’r lled […]
Bloeddiwn fawl a chanu clodydd Brenin nef, Boed i’r Haleliwia atseinio iddo Ef. Dowch gerbron ei orsedd i’w addoli nawr, Dewch yn llawen gerbron ein Duw a’n Ceidwad mawr. Ti yw fy Nghreawdwr, ti yw fy Ngwaredwr, Arglwydd ti yw ’Mhrynwr, ti yw ’Nuw, Ti yw yr Iachäwr. Ti yw’r ffynnon fywiol, Ti yw’r Bugail […]
Boed fy mywyd oll yn ddiolch dim ond diolch yw fy lle; ni wna gwaredigaeth ragor i greadur is y ne’: gallu’r nefoedd oedd a’m daliodd i i’r lan. Ar y dibyn bûm yn chwarae; pe syrthiasai f’enaid gwan nid oedd bosibl imi godi byth o’r dyfnder hwnnw i’r lan: Iesu, Iesu ti sy’n trefnu […]
Boed fy nghalon iti’n demel, boed fy ysbryd iti’n nyth, ac o fewn y drigfan yma aros, Iesu, aros byth: gwledd wastadol fydd dy bresenoldeb im. Awr o’th bur gymdeithas felys, awr o weld dy ŵyneb-pryd sy’n rhagori fil o weithiau ar bleserau gwag y byd: mi ro’r cwbwl am gwmpeini pur fy Nuw. Datrys, datrys fy […]