Dewch, bobl Crist, cyfododd ef, Canwn fawl i’n brenin byw. Yn gôr fe seiniwn gân o glod I’n Harglwydd ni a’n Duw. Lan o’r ddaear las i’r nefoedd wen Codwn ein hedrychiad fry, Ei freichiau sydd yn estyn mas I’n cynorthwyo ni. Rhown glod! Rhown glod! Pob tafod, dewch, rhown glod ! Un llais, Un gân […]
Dewch, canwn yn llawen i’r Arglwydd, I’r Graig sy’n ein hachub rhown hŵre (hŵre!) A down i’w bresenoldeb â diolch A gweiddi ein moliant iddo Ef. Duw mawr yw ein Harglwydd byw Brenin mawr y ddaear lawr Dewch, canwn yn llawen iddo Ef. Mae crombil y ddaear yn ei ddwylo A chopa pob mynydd uchel […]
Dewch, canwn nawr yn llawen i’n Duw, Dewch, canwn nawr yn llawen i’n Duw, Dewch, canwn nawr yn llawen i’n Duw, Dewch, canwn nawr yn llawen i’n Duw! Dewch, canwn nawr yn llawen i’n Duw, Bloeddiwn fawl i’r Arglwydd, sef Craig ein hiachawdwriaeth! Dewch, canwn nawr yn llawen i’n Duw, Bloeddiwn fawl i’r Arglwydd, sef […]
Dewch, dewch ac aberth moliant gwir I dŷ yr Arglwydd ein Duw. Dewch, dewch ac aberth moliant gwir I dŷ yr Arglwydd ein Duw. Dewch, dewch ac aberth moliant pur I drigfan Duw, molwch ef! Dewch, dewch ac aberth moliant pur I drigfan Duw, molwch ef! Ac fe ddown o’th flaen yn awr A diolchgarwch […]
Dewch, ffyddlon rai, neséwch mewn hedd, mae yma wledd arbennig o basgedigion wedi eu trin, a gloyw win puredig. Amgylchwch heddiw’r sanctaidd fwrdd, cewch gwrdd â’ch Prynwr Iesu, a llawnder o gysuron da sydd yma i’ch croesawu. Rhag clwyfau enaid o bob rhyw gan Dduw cewch feddyginiaeth, a rhag gelynion cryfion, cas, drwy ras cewch […]
Dewch, hen ac ieuainc, dewch at Iesu, mae’n llawn bryd; rhyfedd amynedd Duw ddisgwyliodd wrthym cyd: aeth yn brynhawn, mae yn hwyrhau; mae drws trugaredd heb ei gau. Dewch, hen wrthgilwyr trist, at Iesu Grist yn ôl; mae’i freichiau nawr ar led, fe’ch derbyn yn ei gôl: mae Duw yn rhoddi eto’n hael drugaredd i […]
Dewch, mae’n amser medi, Chwi sy’n ceisio’r Deyrnas, Rhowch eich bywyd iddo Ac fe’i cewch yn ôl. Dewch i rannu’r c’nhaeaf – Rhaid goleuo’r t’wyllwch. Galw y mae’r Arglwydd Ffyddlon wŷr. Twila Paris (Come and join the reapers), cyfieithiad awdurdodedig: Catrin Alun © Word Music (UK) Gwein. gan CopyCare (Grym Mawl 1: 21)
Diderfyn yw trugareddau yr Arglwydd, Ni phalla ei dosturiaethau Ef; Maent yn newydd bob bore, Newydd bob bore, Mawr dy ffyddlondeb wyt, o Dduw, Mawr dy ffyddlondeb wyt. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, The steadfast love of the Lord: Edith McNeil © 1974 Celebration/ Gwein. gan Kingsway Music tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd (Grym mawl 1: 157)
Dilynaf fy Mugail drwy f’oes, er amarch a gw’radwydd y byd; a dygaf ei ddirmyg a’i groes, gan dynnu i’r nefoedd o hyd; mi rodiaf, drwy gymorth ei ras, y llwybyr a gerddodd efe; nid rhyfedd os gwawdir y gwas, cans gwawd gafodd Arglwydd y ne’. Nid oes arnaf g’wilydd o’i groes – ei groes […]
Pwy o Arglwydd allai byth Achub nhw eu hun? Ein c’wilydd oedd fel dyfnder môr, Dy ras oedd ddyfnach fyth. A dim ond ti all achub, Ti yw’r unig un; Dim ond ti all’n codi ni o’r bedd. Daethost lawr i’n harwain o’r tywyllwch du. A dim ond ti sy’n haeddu’r clod i gyd. Do, […]