Mae ‘ngolwg acw tua’r wlad lle mae fy heddwch llawn: O am gael teimlo’i gwleddoedd pur o fore hyd brynhawn. ‘Does dim difyrrwch yma i’w gael a leinw f’enaid cu ond mi ymborthaf ar y wledd sy gan angylion fry. ‘Ddiffygia’ i ddim, er cyd fy nhaith tra pery gras y nef, ac er cyn […]
Mae arnaf eisiau sêl i’m cymell at dy waith, ac nid rhag ofn y gosb a ddêl nac am y wobor chwaith, ond gwir ddymuniad llawn dyrchafu cyfiawn glod am iti wrthyf drugarhau ac edrych arna’i erioed. CHARLES WESLEY 1707- 91 efel. DAFYDD JONES. 1711-77 (Caneuon Ffydd 752)
Mae calon Duw’n llawn gofid Mae t’wyllwch drwy y wlad. Mae’i blant yn esgeuluso Y gwaith wnaed gan y Mab. Mae’r byd yn araf lithro nawr At ddibyn colledigaeth fawr. A ddaw ‘na neb i son am gariad Duw? Rwy’n barod, rwy’n barod. Wele fi, o anfon fi. Af allan, af allan, Gyda’r neges drosot […]
Mae carcharorion angau yn dianc o’u cadwwynau, a’r ffordd yn olau dros y bryn o ddyfnder glyn gofidiau; cyhoedder y newyddion a gorfoledded Seion, mae’r Iesu ar ei orsedd wen, ac ar ei ben bo’r goron! Cynefin iawn â dolur fu’r Iesu yn fy natur, gogoniant byth i’w enw ef am ddioddef dros bechadur: yn […]
Mae cariad Crist uwchlaw pob dawn, pwy ŵyr ei lawn derfynau? Ni chenfydd llygad cerwb craff na seraff ei fesurau. Mae hyd a lled ei gariad ef uwch nef y nef yn llifo, a dyfnach yw na llygredd dyn, heb drai na therfyn arno. Mae’r hyd a’r lled a’r dyfnder maith mewn perffaith gydweithrediad i’w […]
Mae croeso i’w deyrnas i blant bach o hyd, Agorodd ei fynwes i’w derbyn i gyd : Gadewch i blant bychain Ddod ataf-medd ef; Cans eiddo y cyfryw Yw Teyrnas y Nef. Cytgan: Mae’r Iesu yn derbyn Plant bychain o hyd, Hosanna i Enw Gwaredwr y byd. Pan oedd yn mynd heibio i’r ddinas neu’r […]
Mae d’eisiau di bob awr, fy Arglwydd Dduw, daw hedd o’th dyner lais o nefol ryw. Mae d’eisiau, O mae d’eisiau, bob awr mae arnaf d’eisiau, bendithia fi, fy Ngheidwad, bendithia nawr. Mae d’eisiau di bob awr, trig gyda mi, cyll temtasiynau’u grym, yn d’ymyl di. Mae d’eisiau di bob awr, rho d’olau […]
Mae Duw wedi rhoi ei Ysbryd Glân, Mae Duw wedi rhoi ei Ysbryd Glân, wedi rhoi ei Ysbryd Glân i chi, wedi rhoi ei Ysbryd Glân i chi, wedi rhoi ei Ysbryd Glân i blant, wedi rhoi ei Ysbryd Glân i blant, ac i bobl sydd yn byw yn bell i ffwrdd, ac i bobl […]
Mae Duw yn llond pob lle, presennol ymhob man; y nesaf yw efe o bawb at enaid gwan; wrth law o hyd i wrando cri: “Nesáu at Dduw sy dda i mi.” Yr Arglwydd sydd yr un er maint derfysga’r byd; er anwadalwch dyn yr un yw ef o hyd; y graig ni syfl ym […]
Mae dy air yn abl i’m harwain drwy’r anialwch mawr ymlaen, mae e’n golofn olau, eglur, weithiau o niwl, ac weithiau o dân; mae’n ddi-ble ynddo fe, fwy na’r ddaear, fwy na’r ne’. ‘Rwyf yn meddwl am yr oriau caffwyf funud o’th fwynhau, ac mae atsain pell dy eiriau’n peri imi lawenhau: O’r fath wledd, […]