O Iesu, y ffordd ddigyfnewid a gobaith pererin di-hedd, O tyn ni yn gadarn hyd atat i ymyl diogelwch dy wedd; dilea ein serch at y llwybrau a’n gwnaeth yn siomedig a blin, ac arwain ein henaid i’th geisio, y ffordd anghymharol ei rhin. O lesu’r gwirionedd anfeidrol, tydi sydd yn haeddu mawrhad, O gwared […]
O Iôr, ti yw fy Nuw, Dyrchafaf d’enw di, i ti bo’r clod, Dyrchafaf d’enw di, i ti bo’r clod, Oherwydd gwir yw Gair ein Duw Gwnaethost ryfeddodau mawr. O Iôr, ti yw fy Nuw Dyrchafaf d’enw di, i ti bo’r clod. David J. Hadden: O Lord, you are my God, cyfieithiad awdurdodedig: Gwilym Ceiriog […]
O lesu’r Meddyg da, Ffisigwr mawr y byd, O cofia deulu’r poen a’r pla, a’r cleifion oll i gyd. Tydi yn unig ŵyr holl gystudd plant y llawr, y rhai sy’n crefu am yr hwyr, yn griddfan am y wawr. O boed dy lygaid di ar bawb sy’n wael eu gwedd, a chofia’r rhai sy’n […]
O llanwa hwyliau d’Eglwys yn gadarn yn y gwynt sydd heddiw o Galfaria yn chwythu’n gynt a chynt: mae’r morwyr yma’n barod a’r Capten wrth y llyw, a’r llong ar fyr i hwylio ar lanw Ysbryd Duw. O cadw’r criw yn ffyddlon a’r cwrs yn union syth ar gerrynt gair y bywyd na wna ddiffygio […]
O llawenhewch! Crist sydd ynom, mae gobaith nefoedd ynom ni: mae’n fyw! mae’n fyw! mae’i Ysbryd ynom, O codwn nawr yn fyddin, codwn ni! Fe ddaeth yr amser inni gerdded drwy y tir, fe rydd i ni bob man sethrir dan ein traed. Marchoga mewn gogoniant, concrwn wrth ei ddilyn ef; fe wêl y byd […]
O! llefara’ addfwyn Iesu, mae dy eiriau fel y gwin, oll yn dwyn i mewn dangnefedd ag sydd o anfeidrol rin; mae holl leisiau’r greadigaeth, holl ddeniadau cnawd a byd, wrth dy lais hyfrytaf, tawel yn distewi a mynd yn fud. Ni all holl hyfrydwch natur, a’i melystra penna’ i maes, fyth gymharu â lleferydd […]
O maddau i ni, Dad pob llwyth, am fod mor fyddar cyd heb ddewis gwrando cwyn dy blant o warth y trydydd byd. At fyrddau ein neithiorau bras daw llef eu cythlwng hwy; meddala’n calon fel na wnawn eu diystyru mwy. Ni chawsant hwy na tho na thân yn gysur rhag yr hin, na chymorth […]
O mor ddymunol yw cael cwrdd â’m hoff Anwylyd wrth ei fwrdd, ymlonni yn ei gariad llawn a thawel orffwys ar yr Iawn. Mae’r fath hawddgarwch yn ei bryd, gwledd felys yw, na ŵyr y byd: fy nefoedd yw bod ger ei fron yn siriol wedd ei ŵyneb llon. Ymrwymiad adnewyddol yw i rodio a […]
mae’r cerddoriaeth gyfoes ar gael – dilynwch y ddolen youtube Pennill 1 Ti oedd y Gair yn y dechreuad, Un â Duw, yn Iôr sydd fry, D’ogoniant cudd mewn creadigaeth, Yn eglur nawr, i ni yng Nghrist. Cytgan 1 O mor hyfryd yw’r enw hwn, O Mor hyfryd yw’r enw hwn, Enw Iesu Grist fy […]
O na allwn garu’r Iesu yn fwy ffyddlon, a’i was’naethu; dweud yn dda mewn gair amdano, rhoi fy hun yn gwbwl iddo. RICHARD THOMAS, bl. 1821 (Caneuon Ffydd 355)