Molwch enw Iesu, Molwch enw lesu, Ef yw’n Craig, Ef yw’n noddfa, Ef yw’n Gwaredwr, ac mae’n haeddu pob clod. Molwch enw lesu. Roy Hicks: Praise the name of Jesus cyfieithiad awdurdodedig: anad. © Latter Rain Music/Word Music (UK) 1975 Gwein. Gan Copycare (Grym mawl 1: 139)
Molwn Dduw yn y goruchaf; Molwn yr Hollalluog; Canwn fawl i Oen ein Duw, le, canwn fawl i’r Gair sy’n fyw; Molwn Frenin nef! Canwn foliant, (moliant) Moliant, (moliant) Moliant, molwn Frenin nef! Canwn foliant, (moliant) Moliant, (moliant) Moliant, molwn Frenin nef! Canwn foliant iddo Ef! Danny Daniels, Glory, cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones, Hawlfraint © […]
Mor beraidd i’r credadun gwan yw hyfryd enw Crist: mae’n llaesu’i boen, yn gwella’i glwy’, yn lladd ei ofnau trist. I’r ysbryd clwyfus rhydd iachâd, hedd i’r drallodus fron; mae’n fanna i’r newynog ddyn, i’r blin, gorffwysfa lon. Hoff enw! fy ymguddfa mwyn fy nghraig a’m tarian yw; trysorfa ddiball yw o ras i mi […]
Mor brydferth ar y bryniau ydyw traed yr hwn Sy’n dwyn Gair Duw, Gair Duw, Cyhoeddwr hedd yn datgan gwir lawenydd Duw sy’n ben, Duw sy’n ben! Duw sy’n ben, Duw sy’n ben. Duw sy’n ben, Duw sy’n ben. Chwi wylwyr, cyd-ddyrchafwch nawr eich lleisiau ynghyd Er clod i’r Iôr, i’r Iôr. Cewch weld yr […]
Mor dda ac mor hyfryd yw bod Pobl yr Arglwydd yn gytûn. Fe ddisgyn fel gwlith ar ein tir, Neu olew gwerthfawr Duw Sy’n llifo’n rhydd. Mae mor dda, mor dda, Pan ry’m gyda’n gilydd Mewn hedd a harmoni. Mae mor dda, mor dda, Pan ry’m gyda’n gilydd ynddo ef. Mor ddwfn yw afonydd ei […]
Mor fawr yw cariad Duw y Tad, Ni ellir byth ei fesur; Fe roddodd ef ei Fab yn Iawn I achub gwael bechadur. Does neb all ddirnad maint ei boen, Pan guddiodd Duw y Tad ei wedd; Aeth t’wyllwch dudew drwy y tir Er mwyn i’n gael tangnefedd. Mor rhyfedd yw ei weld ar groes, […]
Mor fendigedig, o! Mor wych, Ydyw cariad Duw; Rhydd iachâd a maddeuant – Rhyfeddol yw! Dewch bawb i ddathlu cariad Duw yn ddyn – Awn i rannu gair y cymod, Rhannu gobaith i bob un. A chyhoeddwn fod ei deyrnas wedi dod; Dewch ymunwn yn yr anthem Sydd drwy’r tir yn seinio’i glod. Clywch y gân […]
Mor hawddgar yw dy bebyll di, Arglwydd y Lluoedd. F’enaid a hiraetha amdanat ti; Can’s diogel wyf o fewn dy dŷ. Molaf dy enw Dan gysgod clyd d’adenydd di fy Nuw. Gwell gen i ddiwrnod gyda thi, Gwell gen i gadw drws dy dŷ, Gwell gen i ddiwrnod gyda thi Na mil unman arall. Un […]
Mor rhyfeddol yw dy weithredoedd di, Arglwydd Dduw hollalluog. Gwir a chyfiawn yw dy ffyrdd o Dduw, Brenin yr oesoedd wyt ti. Pwy sydd na’th ofna Arglwydd, a’th ogoneddu di? Oherwydd ti yw’r unig Dduw, Sanctaidd wyt ti. Daw yr holl genhedloedd i’th addoli di, Dy ogoniant di a amlygir. Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia, Amen. Lai-lai-lai […]