Rho olwg ar dy gariad Rhyfeddol ataf fi; Y cariad ddaeth a Thi i’r byd I farw ar Galfari. O cymorth rho i ddeall, A gwerthfawrogi’n iawn Y pris a delaist, Sanctaidd Un, Er dwyn fy meiau’n llawn. Ai’r hoelion, O Waredwr, A’th glymodd Di i’r groes? Na, na, dy gariad ataf fi A wnaeth […]
Rhoddaf i ti fawl, Canaf i ti gân, A bendithiaf d’enw di. Can’s nid oes Duw fel tydi, All ein hachub ni, Ti yw’r unig ffordd. Dim ond ti all roi bywyd i ni, Dim ond ti all ein goleuo ni, Dim ond ti all roi heddwch in, Dim ond ti a erys gyda ni. […]
Rhoddwn ddiolch i ti, O Dduw, ymysg y bobloedd, Canu wnawn glodydd i ti Ymysg cenhedloedd. Dy drugaredd di sydd fawr, Sydd fawr hyd y nefoedd, A’th ffyddlondeb di, A’th ffyddlondeb di hyd y nen. Fe’th ddyrchefir, O Dduw, Goruwch y nefoedd, A’th ogoniant a welir dros y byd. Fe’th ddyrchefir, O Dduw, Goruwch y […]
Rhoddwn glod i’th enw tirion, Arglwydd mawr nef a llawr, derbyn fawl dy weision. Yn ein gwlad a’n hen dreftadaeth llawenhawn, ynddi cawn hyfryd etifeddiaeth. Yn dy air yn iaith ein tadau rhoist i ni uchel fri, trysor uwch trysorau. Mae dy air yn llusern olau ar ein taith yn dy waith: dengys y ffordd […]
Rhof fy mywyd ger dy fron Gan geisio y gwir, A thaenellu olew serch Fel fy moliant i ti. Gan aberthu, rhaid im roi Fy nghyfan o’th flaen; Iôr, derbynia aberth mawl Un â’i galon ar dân. Iesu, pa fath o rodd? Pa beth a rof I ffrind da heb ei ail, ac i frenin […]
Rhowch i’r Arglwydd yn dragywydd Foliant, bawb sydd is y nen; Wele’r Iesu’n dioddef, trengi’n Aberth perffaith ar y pren; Concwest gafwyd, bywyd roddwyd, Mewn gogoniant cwyd ein Pen. Dynion fethant, Crist yw’n haeddiant, Ef yw’n glân gyfiawnder pur; Crist yr Arglwydd yn dragywydd Sy’n dwyn rhyddid o’n holl gur; Rhydd in’ bardwn; etifeddwn Fywyd, […]
Rhown foliant o’r mwyaf i Dduw y Goruchaf am roi’i Fab anwylaf yn blentyn i Fair, i gymryd ein natur a’n dyled a’n dolur i’n gwared o’n gwewyr anniwair. Fe gymerth ein natur, fe’n gwnaeth iddo’n frodyr, fe ddygodd ein dolur gan oddef yn dost; fe wnaeth heddwch rhyngom a’i Dad a ddigiasom, fe lwyr […]
Rhwng cymylau duon tywyll Gwelaf draw yr hyfryd wlad; Mae fy ffydd yn llefain allan – Dacw o’r diwedd dŷ fy Nhad: Digon, digon, Mi anghofia ‘ngwae a’m poen. Nid oes yno gofio beiau, Dim ond llawn faddeuant rad; Poenau’r Groes, a grym y cariad, A rhinweddau maith y gwaed: Darfu tristwch; Daeth llawenydd yn […]
Rhyfedd, rhyfedd gan angylion, rhyfeddod mawr yng ngolwg ffydd, gweld Rhoddwr bod, Cynhaliwr helaeth a Rheolwr popeth sydd yn y preseb mewn cadachau a heb le i roi’i ben i lawr, eto disglair lu’r gogoniant yn ei addoli’n Arglwydd mawr. Pan fo Sinai i gyd yn mygu, a sŵn yr utgorn ucha’i radd, caf fynd […]
Rhyfeddol a rhyfeddol erioed yw cariad Duw: ei hyd, ei led, ei ddyfnder, rhyw fôr diwaelod yw; a’i uchder annherfynol sydd uwch y nefoedd lân, Hosanna, Haleliwia! fy enaid, weithian cân. Rhyfeddol a rhyfeddol: fe wawriodd bore ddydd, daeth carcharorion allan o’u holl gadwyni’n rhydd: fe gododd heulwen olau, a’i hyfryd lewyrch glân, Hosanna, Haleliwia! […]