Rwy’n greadigaeth newydd, Rwy’n blentyn Duw oherwydd Fe’m cyfiawnhawyd trwy ei ras. Mae ‘nghalon i’n gorlifo o gariad tuag ato, Fe’m cyfiawnhawyd trwy ei ras. Mae ‘nghalon i’n gorlifo o gariad tuag ato, Fe’m cyfiawnhawyd trwy ei ras. Ac felly moli wnawn, le, felly llawenhawn, Ac felly canwn am ei gariad Ef. Llawenydd sy’n ddiderfyn, […]
‘Rwy’n gweld o bell y dydd yn dod bydd pob cyfandir is y rhod yn eiddo Iesu mawr; a holl ynysoedd maith y môr yn cyd-ddyrchafu mawl yr Iôr dros ŵyneb daear lawr. Mae teg oleuni blaen y wawr o wlad i wlad yn dweud yn awr fod bore ddydd gerllaw; mae pen y bryniau’n […]
‘Rwy’n morio tua chartref Nêr, Rhwng tonnau maith ‘rwy’n byw, Yn ddyn heb neges dan y sêr, Ond ‘mofyn am ei Dduw. Mae’r gwyntoedd yn fy nghuro’n ôl, A minnau ‘d wyf ond gwan; O! cymer Iesu, fi yn dy gôl, Yn fuan dwg fi i’r lan. A phan fo’n curo f’enaid gwan Elynion rif […]
Rwy’n ofni f’nerth yn ddim Pan elwy’i rym y don: Mae terfysg yma cyn ei ddod, A syndod dan fy mron: Mae ofnau o bob rhyw, Oll fel y dilyw ‘nghyd, Yn bygwth y ca’i ‘nhorri i lawr, Pan ddêl eu hawr ryw bryd. A minnau sydd am ffoi, Neu ynteu droi yn ôl, Yn […]
‘Rwy’n troi fy ŵyneb, Iesu da, o bobman atat ti, ym merw blin y byd a’i bla dy wedd sy’n hedd i mi; ni chefais, naddo, mewn un man un balm i’m calon drist nac enw swyna f’enaid gwan ond enw Iesu Grist. ‘Rwyt ti i mi yn gadarn dŵr ym merw mawr y byd; […]
Dilynwch y ddolen ar waelod y dudalen i glywed y gân yn Saesneg. Rwy’n dod yn nes nag y bûm i erioed, Er gwaethaf fy methiant, mae croeso i mi; Edrychaf i’th lygaid ac mae dy gariad mor glir. Yn nes ac yn nes yr wyt ti’n fy ngwadd, A’th gariad o’m hamgylch, mae ’nghalon […]
Rwy’n dy garu, rwy’n dy garu, x3 Rwy’n dy garu, Amen. Rwy’n dy garu, Amen. Aleliwia, aleliwia, x3 Aleliwia, Amen. Aleliwia, Amen. ©2005 Elise Gwilym o’r CD Tiwnio Mewn
Rwyf ar y cefnfor mawr Yn rhwyfo am y lan; Mae’r nos yn enbyd, ond daw gwawr, A hafan yn y man. Ni chollir monof ddim A’r Iesu wrth y llyw; Ei ofal mawr a’i ryfedd rym A’m ceidw innau’n fyw. Tangnefedd heb un don, Fy Ngheidwad, dyro’n awr; Cerydda’r terfysg dan fy mron A […]
Rwyf d’angen Fel gwlith mewn diffaethwch, Fel iachusol law yr haf, Arllwys di dy gariad pur yn lli’. Rwy’n gweled bob tro dof atat ti A gofyn am gael mwy O’th gariad tyner cu, Fe’i rhoi i mi. Fel afon yn llifo’n gref, Fel tonnau’n treiglo daw dy hedd; Tynn fi’n ddyfnach; rho weld dy […]
‘Rwyf yn codi fy mhobol i foli, ‘rwyf yn codi fy mhobol yn rym; fe symudant drwy’r wlad yn yr Ysbryd, gogoneddant fy enw yn llawn. Gwna dy Eglwys yn un gref, Iôr, ein calonnau una nawr: gwna ni’n un, Iôr, yn dy gorff, Iôr, doed dy deyrnas ar y llawr. Dave Richards (For I’m […]