Iesu, pwy all fod yn fwy na thi? Iesu, ti yw ‘ngobaith i, Iesu’ ti yw ‘mywyd i, Iesu, fy nghyflawnder i, Iesu, caraf di. Iesu, daethost gynt i’n daear ni, gwisgo cnawd a wnaethost ti, yn ddibechod rhodiaist ti er mwyn dod i’n hachub ni, Iesu, caraf di. Iesu, gwrando ar fy egwan gri, […]
Iesu, rhown iti bob anrhydedd, Iesu, rhown iti yr holl glod. Uned dae’r a nef i ddyrchafu Yr enw sydd goruwch holl enwau’r rhod. O, plygwn bawb ein glin mewn gwir addoliad, Can’s plygu glin yw’n dyled ger ei fron. Cyffeswn bawb yn awr Ef yw’r Crist, Ef yw Mab Duw, Frenin Iôr, clodforwn di […]
Iesu, ti yw disgleirdeb Duw yn y gogoniant, Ti yw y Mab ac etifedd pob peth, Yr Un grëodd ein byd. Ti sydd yn cynnal y cwbl oll Drwy dy nerthol air. Puraist ni o’n beiau i gyd, Ac fe esgynaist i’r nef, Esgynaist i’r nef I ddeheulaw Duw. (Tro olaf) Dyrchafedig mewn gogoniant, […]
Iesu, ti yw ffynnon bywyd, bywyd dedwydd i barhau; pob rhyw gysur is y nefoedd ynot ti dy hun y mae: ni all croes na gwae na chystudd wneuthur niwed iddynt hwy gafodd nerth i wneud eu noddfa yn dy ddwyfol, farwol glwy’. Dring, fy enaid, i’th orffwysfa uwch y gwynt tymhestlog, oer, maes o […]
Iesu, Ti’n disgleirio yn d’ogoniant, breichiau led y pen agored; Ti yw Brenin daear gyfan ac yn Arglwydd ar fy nghalon. Golau sydd yn tywallt allan, pelydr yn cludo’r cyfan Popeth y mae arnaf angen ddaw i’m meddiant o dy galon Di. Tyrd lawr i deyrnasu ar y ddaear – defnyddia ein doniau ni, Mae […]
Iesu, tyrd i’r canol Yn ein hoedfa ar y llawr, Bydd yn hardd gytundeb Wrth i’n llygaid gwrdd yn awr, O Iesu, fe’th garwn, felly down ynghyd, Ein calonnau una nawr a dryllia’n hofnau i gyd. Atat ti y deuwn O bob gwlad ar draws y byd, Crist yw’r cariad rhyngom Wrth in afael dwylo […]
Iesu, yr enw uchaf sydd, Yr Un sy ’run o hyd, Gan godi’n dwylo fry addolwn di; Tyrd, yng ngrym dy Ysbryd Glân, Ymwêl â’r tafod tân, Ac yna gwêl pob un Ti yw’r Emaniwel. Emaniwel, Emaniwel, Emaniwel, mae Duw gyda ni. Cyfieithiad Awdurdodedig : Arfon Jones, (Jesus, the Name above all names): Hilary Davies […]
Diolch am yr Ysgol Sul Iesu’r athro clyw ein diolch Am bob gwers a gawsom ni Yn ein helpu ni i ddysgu Mor arbennig ydwyt ti. Yn yr Ysgol Sul y clywsom Am dy air, dy ddysg a’th ddawn, A bod modd i ninnau ddathlu Bod yn rhan o’th deulu llawn. Helpa ni i weld […]
’Dwi wedi bod yn dilyn Y byd a’i addewidion, Ond dim ond ti sydd yn bodloni Y gwagle yn fy nghalon. ’Dwi’n dal ymlaen i ymladd, i geisio cael f’ewyllys i. Ond dim ond pan ‘dwi’n rhoi fy mywyd Y byddaf fi’n ei ffeindio hi. Deled dy deyrnas, Gwneler dy ewyllys. Cytgan ’Dwi’n ildio f’oll […]
Iôr anfeidrol, yn dy gwmni daw gorfoledd imi’n llawn, ymollyngaf yn dy gariad ac ymgollaf yn dy ddawn; dy gadernid sy’n fy nghynnal, mae dy ddoniau yn ddi-ri’, cyfoeth ydwyt heb ddim terfyn, mae cyflawnder ynot ti. Iôr anfeidrol, yn dy gwmni mae fy nos yn troi yn ddydd, mae rhyfeddod dy oleuni heddiw yn […]